Gweithredu gweithdrefnau cwmni mewn peirianneg ar y tir

URN: LANLEO2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gweithredu gweithdrefnau cwmni mewn peirianneg ar y tir. Mae’n cynnwys rôl a chyfrifoldebau cyflogeion a’r systemau a’r gweithdrefnau a geir yn y gweithle, e.e. strwythur cwmni, dulliau cyfathrebu ac adfer gwybodaeth, adrodd a chofnodi gwybodaeth.

Mae hefyd yn cynnwys y gweithdrefnau mewn cwmnïau peirianneg ar y tir yn ymwneud â chynllunio, cwblhau a gweinyddu gweithgareddau yn y swydd, e.e. gweithrediadau gwasanaeth a chynnal a chadw, archwiliadau cyn dosbarthu, archwiliadau arfarnu peiriannau, systemau a gweithrediadau gwarant, gweithrediadau rhannau, adrodd technegol, taflenni amser, cardiau gwaith a chofnodion milltiroedd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cymhwyso gweithdrefnau a pholisïau perthnasol cwmni wrth gyflawni gweithgareddau yn y gweithle peirianneg ar y tir
  2. adrodd ar wybodaeth gan ddefnyddio’r dulliau gofynnol, a allai gynnwys dulliau llafar, ysgrifenedig neu electronig
  3. gweithredu’r gweithdrefnau cwmni perthnasol sy’n rheoli’r tasgau sydd yn cael eu cynnal
  4. cwblhau’r gweinyddu sy’n berthnasol i’r dasg yn unol â gofynion y cwmni
  5. dilyn gweithdrefnau gwarant yn unol â gofynion cynhyrchwyr a chyflenwyr
  6. cael mynediad at, ffeilio a storio dogfennau technegol a data electronig yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y cwmni
  7. gosod diweddariadau meddalwedd fel y bo angen
  8. ysgrifennu adroddiadau a chofnodi gwybodaeth dechnegol yn unol â gofynion y cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gweithdrefnau a pholisïau’r cwmni sy’n berthnasol i’ch rôl a pham y maent yn angenrheidiol
  2. eich rôl bersonol a lefel eich cyfrifoldeb yn y cwmni
  3. strwythur y cwmni ac wrth bwy yr ydych yn adrodd
  4. sut i gynllunio a chwblhau tasg benodol yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
  5. y dulliau cyfathrebu o fewn yr adran a’r cwmni
  6. pam mae gweithdrefnau a pholisïau’r cynhyrchwyr yn angenrheidiol
  7. sut i asesu a defnyddio catalogau electronig a chopi caled a gweithdrefn y cwmni ar gyfer cael rhannau
  8. y gweithdrefnau, telerau ac amodau ar gyfer gwaith a wneir o dan warant a’r gofynion ar gyfer gweithredu a chofnodi
  9. y dulliau a ddefnyddir i ffeilio a chael mynediad i wybodaeth dechnegol, meddalwedd ddiagnostig, dogfennau a gweithdrefnau sy’n ofynnol i wneud tasg
  10. sut i gwblhau dogfennau’n ymwneud â gwaith a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cadw cyfrinachedd cwsmeriaid
  11. sut i lunio adroddiadau a chofnodi gwybodaeth i’w defnyddio gan eraill, a allai gynnwys y cwmni, cydweithwyr, cynhyrchwyr a’r cwsmer


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


gweinyddu - e.e. taflenni amser, cardiau gwaith, archeb rhannau, cofnodion milltiroedd, cofnodion gwasanaeth, taflenni archwilio cyn dosbarthu, taflenni cyflwr peiriannau, cynnig a dyfynbrisiau atgyweirio, dogfennau trosglwyddo a gosod

gweithdrefnau a pholisïau cwmni - e.e. llawlyfr cyflogai, dogfennau polisi ac arweiniad y cwmni

adroddiadau - e.e. adroddiadau technegol, adroddiadau arfarnu peiriant, adroddiadau gwasanaeth allan o dymor, adroddiadau digwyddiadau, canlyniadau profion a gwybodaeth arall

tasgau - e.e. archwiliadau cyn dosbarthu, arfarnu peiriannau, gwasanaethau a chynnal a chadw wedi eu trefnu ac allan o dymor

pam mae polisïau a gweithdrefnau cwmni yn angenrheidiol ar gyfer e.e. safonau ansawdd, olrheiniadwyedd, effeithlonrwydd ac atebolrwydd


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO2

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2120

Geiriau Allweddol

gweithdrefnau cwmni; peirianneg; ar y tir