Gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion ar y tir

URN: LANLEO19
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion ar y tir ac mae’n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o osod a gweithredu’r cyfarpar a’r teclynnau.

Mae’n cynnwys nodi namau, dulliau atgyweirio, graddnodi a dilysu perfformiad. Gellir dod o hyd i’r cyfarpar sydd yn cael ei gynnwys yn un neu fwy o’r sectorau cysylltiedig canlynol o beirianneg ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth a choedwigaeth.

Mae’r safon hon yn cynnwys y cyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion sydd yn cynnwys peiriannau a theclynnau ymgysylltu pridd a ddefnyddir i weithio’r pridd naill ai trwy gael eu gwthio neu eu tynnu. Gallai’r peiriannau a’r teclynnau gynnwys erydr, amaethwyr, graddwyr, holltwyr, gosod draeniad a phibau, neu beiriannau rholio a gweisg.

Cyfarpar sydd hefyd wedi ei gynnwys yn y safon hon yw peiriannau sydd wedi eu pweru gan siafft ‘Power Take Off’ (PTO) neu’n uniongyrchol o fotor sy’n darparu symudiadau cylchdroi neu ôl a blaen. Gallai peiriannau o’r fath gynnwys ogedau pŵer, tynwyr cerrig neu beiriannau a chyfarpar awyru pridd.

Mae peiriannau a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer drilio, plannu a dosbarthu deunyddiau at ddiben sefydlu cnydau (plannu) hefyd wedi eu cynnwys yn y safon hon. Gallai’r peiriannau a ddefnyddir fod yn gyfarpar gosod hadau/drilio.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogiad a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau  
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  10. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion a’u cydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  11. symud ac amnewid cydrannau sydd wedi treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  12. gosod cyfarpar llusgo ac wedi ei osod i ryngwynebu â’r prif symudwr
  13. graddnodi cyfraddau gosod a gofod rhwng planhigion ar gyfarpar sefydlu planhigion
  14. gweithredu gosodiadau maes yn unol â manylebau’r cynhyrchydd a gofynion y cwsmer ar gyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion
  15. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  16. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  17. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u storio’n ofalus ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
  5. y dulliau o baratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio 
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan egni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cofnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion a nodi’r achos sylfaenol 
  9. diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gyda chyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion  
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar werth cyflawni’r gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y y gweithgaredd gwasanaethu ac atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau 
  12. mathau, adeiladwaith a swyddogaeth cyfarpar ymgysylltu pridd, paratoi ac amaethu a ddefnyddir i godi, symud, draenio, gwrth-droi, gwahanu, proffilio a pharatoi tir
  13. mathau, adeiladwaith a gweithrediad cyfarpar sefydlu planhigion a ddefnyddir i blannu a hau
  14. sut i symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion
  15. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer peiriannau a chyfarpar paratoi pridd, cynaeafu a sefydlu planhigion yn unol â manyleb a safonau’r cynhyrchydd
  16. y dulliau a’r mecanweithiau a ddefnyddir i fesur cyfraddau gosod hadau a phlanhigion a’u graddnodi
  17. achosion traul eithafol i rannau sy’n ymgysylltu â’r pridd
  18. egwyddorion gweithredu a chymwysiadau peiriannau a chyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion
  19. sut i osod a dilysu perfformiad cyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion yn unol â manylebau’r cynhyrchydd a gofynion y cwsmer
  20. sut i ddefnyddio data i osod ac addasu cyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion i gael y perfformiad gorau posibl
  21. sut i osod llwybrau a marcwyr i gyd-fynd â gweithrediadau ffermio’r cwsmer
  22. effaith pridd, hadau, cnydau a’r tywydd a’u dylanwad ar osodiadau perfformiad cyfarpar
  23. y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau’r gwaith i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â manylebau gweithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  24. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi cyffredin 
  25. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  26. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion y cwsmer
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Gosod cyfarpar llusgo a chodi - e.e. gosod lled cledrau, lled cwysi, uchafswm uchderau codi, sefydlogi

Cyfarpar paratoi pridd, amaethu a sefydlu planhigion - e.e. erydr, graddwyr, amaethwyr, ogedi pŵer, palwyr, gwahanwyr, tyllwyr hadau, planwyr, teclynnau is-bridd, gosod draeniad a phibau, peiriannau rholio o phwyso

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr


Dolenni I NOS Eraill

Gweler LANLEO1 Adnabod a lleihau peryglon yn yr ardal waith peirianneg ar y tir, am arweiniad ar arferion gweithio diogel.

Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol, am arweiniad yn ymwneud ag egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg.

Gweler LANLEO29 Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir am arweiniad yn ymwneud â gofynion gweithredol.

Gweler LANLEO2 Gweithredu gweithdrefnau sefydliadol mewn peirianneg ar y tir am arweiniad yn ymwneud â chofnodi gweithdrefnol neu weinyddol ac arferion adrodd.




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO19

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peiriannau; aradr; graddiwr; amaethwr; ogedi pŵer; tyllwr hadau; plannwr; peiriant rholio