Gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar torri a thorri glaswellt

URN: LANLEO17
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnws gwasanaethu ac atgyweirio cyfapar torri a thorri glaswellt yn cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o osod a gweithredu’r cyfarpar a’r teclynnau.

Mae’n cynnwys adnabod namau, dulliau atgyweirio, graddnodi, a dilysu perfformiad. Mae’r cyfarpar sydd yn cael eu cynnwys i’w cael yn un neu fwy o’r sectorau cysylltiedig canlynol o beirianneg ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth a choedwigaeth.

Mae’r safon hefyd yn cynnwys yr egwyddorion torri sydd yn cynnwys offer llonydd/sy’n symud, torri trwy gylchdroi, llafnau llif ac offer llaw.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid bod dadrymuso’n cael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol posibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogiad a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau  
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  10. symud ac amnewid cydrannau ar gyfarpar torri/torri glaswellt ar y tir
  11. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar ac offer torri/torri glaswellt yn unol â manyleb y cynhyrchydd
  12. symud ac adnewyddu cydrannau wedi treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  13. hogi mecanweithiau torri er mwyn perfformio o fewn manylebau’r cynhyrchydd
  14.  gosod mecanweithiau torri i berfformio o fewn manylebau’r cynhyrchydd a gofynion y cwsmer
  15. nodi ac unioni perfformiad torri gwael
  16. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â manyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  17. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  18. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u chadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni sydd wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chyfarpar torri a thorri glaswellt ac adnabod yr achos sylfaenol 
  9. diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gyda chyfarpar torri a thorri glaswellt ar y tir a’r ffordd y gellir eu hadnabod
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar werth cyflawni’r gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o’r bywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael yr amnewidiadau hyn 
  12. sut i symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar torri a thorri glaswellt ar y tir
  13. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar torri a thorri glaswellt yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  14. egwyddorion gweithredu a chymwysiadau cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt 
  15. y dulliau o hogi a gosod mecanweithiau a chydrannau torri
  16. effaith y math o gnwd ac amodau ar y broses dorri a/neu dorri glaswellt
  17. y ffordd y mae addasiadau a gosodiadau’n effeithio ar berfformiad cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt a’r pŵer sydd ei angen i’w gyrru
  18. sut i ddefnyddio data i osod ac addasu cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt i gael y perfformiad gorau posibl
  19. y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau’r gwaith i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  20. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  21. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  22. y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt a’u cydrannau e.e. torwyr lawntiau a thorwyr tyweirch proffesiynol, cyfarpar torri glaswellt robotig, teclynnau wedi eu pweru â batris a theclynnau llaw, tocwyr perthi, torwyr cnwd gwyrdd a thorwyr arwynebol, mecanweithiau torri cynaeafwr, llifiau, asglodwyr ac offer llaw

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
Cyfarwyddiadau cynhyrchwyr
gofynion cwsmeriaid
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Gosod mecanweithiau torri e.e. cydbwyso, clirio llafnau, uchder torri, hyd torri

Hogi mecanweithiau torri e.e. llafnau a chadwyni llifiau, cyllyll llonydd ac sy’n cylchdroi, silindrau/riliau, ffustiau ac offer llaw

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr


Dolenni I NOS Eraill

Gweler LANLEO1 Adnabod a lleihau peryglon yn yr ardal waith peirianneg ar y tir, am arweiniad ar arferion gweithio diogel.

Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol, am arweiniad yn ymwneud ag egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg.

Gweler LANLEO29 Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir am arweiniad yn ymwneud â gofynion gweithredol.

Gweler LANLEO2 Gweithredu gweithdrefnau sefydliadol mewn peirianneg ar y tir am arweiniad yn ymwneud â chofnodi gweithdrefnol neu weinyddol ac arferion adrodd.




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO17

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

torri; torri glaswellt; cyfarpar; ar y tir; peiriannau