Gwasanaethu ac atgyweirio cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO12
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys symud, datgymalu, atgyweirio ac ailgydosod trawsyriadau a’u cydrannau, a hefyd arferion profi, rhoi diagnosis ac atgyweirio sy’n ofynnol ar gyfer trawsyriadau syml a chymhleth.

Mae’r safon hefyd yn cynnwys y technegau a ddefnyddir i gysylltu a datgysylltu, gyrru a chyfyngu’r trorym rhag cael ei drawsyrru trwy’r llinellau gyrru.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle mae’n cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen, cyn bod y gwaith yn dechrau
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau ac asesu rhesymau dros fethiant 
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd yn ofynnol ar gyfer y gweithgaredd hwn
  10. symud ac amnewid cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir
  11. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd lle bo angen
  12. symud a disodli cydrannau sydd wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  13. cadarnhau bod cyfarpar wedi ei osod neu ei raddnodi’n gywir ar ôl ei wasanaethu a’i atgyweirio
  14. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  15. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni 
  16. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion y warant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a chadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio 
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan egni sy’n cael ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ac adnabod yr achos sylfaenol 
  9. achosion a symptomau cyffredin methiant mewn cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir 
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd yn ofynnol ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefn y cwmni ar gyfer cael amnewidiadau 
  12. sut i symud ac amnewid cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill, yn cynnwys unedau wedi eu gosod yn fewnol ac yn allanol
  13. mathau, adeiladwaith, egwyddorion gweithio a chychwyniad cydwyr gwahanol a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill
  14. sut i ddatgymalu, atgyweirio, adnewyddu ac adfer cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  15. dulliau dilyniant ymgysylltiad ac ymgymeriad cydiwr
  16. y dulliau o brofi cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill wrth gwblhau’r gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
  17. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  18. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  19. y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Gweithio ar o leiaf tri o’r 6 grŵp canlynol o ddyfeisiadau:
1. cydwyr sydd wedi gor-redeg, cydwyr ‘dog’, cydwyr sy’n cyfyngu trorym neu gydwyr llithro
2. cydwyr unigol sych, deuol, platiau siocleddfu a chydrannau sy’n cyfyngu dirgryniad
3. cydwyr plât gwlyb
4. cylcholwynion hylif, trawsnewidwyr trorym
5. cydwyr allgyrchol mecanyddol, cydwyr math côn
6. cydwyr electrofagnetig

Cyflawni’r dulliau canlynol:
1. profion pallu
2. profion pwynt llithro cydwyr sy’n cyfyngu trorym
3. profion pwysedd
4. mesur cydrannau

Gwybod a deall mathau, adeiladwaith, egwyddorion gwaith a chychwyniad y dyfeisiadau canlynol a ddefnyddir i ymgysylltu a datgysylltu gyriant:

Dyfeisiadau mecanyddol:
1. cydwyr wedi eu gor-redeg
2. cydwyr sy’n cyfyngu trorym neu lithro
3. unigol sych
4. cydwyr deuol
5. cydwyr math côn
6. platiau siocleddfu a chydrannau sy’n cyfyngu dirgryniad
7. cydwyr ‘dog’
8. cydwyr allgyrchol mecanyddol
 
Dyfeisiadau hydrolig:
1. cydwyr plât gwlyb
2. cylcholwynion hylif a
3. thrawsnewidwyr trorym

Dyfais wedi ei chychwyn yn drydanol:
1. cydwyr electrofagnetig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion y cwsmer
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr  


Dolenni I NOS Eraill

Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir - mecanyddol egwyddorion ar gyfer gosod cynhalwyr a pherthynas gêrs a phiniynau â’i gilydd a’r dull o iro.




Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO12

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

peirianneg; ar y tir; gwasanaethu; atgyweirio; cydwyr; cyfarpar; peirianneg