Gwasanaethu a chynnal a chadw injanau ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO11
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu a chynnal a chadw injanau ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys adeiladu a gweithredu egwyddorion injanau cynnau gwreichionog a chynnau cywasgiad a’u cyfluniadau. Mae hefyd yn cynnwys nodi a gweithrediad cydrannau, symud a disodli cydosodiadau a chydrannau injan a dulliau a thechnegau datgymalu ac ailosod.

Mae’r safon hon yn cynnwys systemau a pherfformiad injanau, gan ymgorffori’r systemau a ddefnyddir i gyflenwi’r tanwydd (yn cynnwys systemau carbwradur a chwistrelliad) a’r aer a gyflenwir gan faniffoldau mewndwll neu systemau derbyn wedi ei wefru gan bwysedd, yn ogystal ag aer sydd ei angen mewn proses ymlosgiad injan, a’r mathau, adeiladwaith a swyddogaeth y cydrannau.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael ei hyfforddi yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. gwirio bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i gynnal a’i gadw yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu oddi wrth ffynonellau pŵer lle bo angen, cyn bod y gwaith yn dechrau
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau peryglon halogiad a pherygl lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu data i nodi diffygion a namau 
  8. cadarnhau’r gofynion ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
  9. nodi a sefydlu argaeledd eitemau defnyddiol sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd
  10. symud cydrannau system injanau o gyfarpar ar y tir er mwyn paratoi ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
  11. amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  12. gosod ac addasu cydrannau injan yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  13. amnewid neu adfer cydrannau system injan yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  14. nodi systemau chwistrelliad tanwydd wedi eu rheoli’n fecanyddol ac yn electronig
  15. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailosod ar ôl cwblhau’r gweithgaredd a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â manylebau gweithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  16. gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  17. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff, peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
  18. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu a chynnal a chadw cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
  5. y dulliau o baratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
  6. y perygon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi eu storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y mathau o ffynonellau tanwydd sydd ar gael, sut i’w hadnabod a sut mae’n effeithio ar wasanaethu a chynnal a chadw injanau
  9. y dulliau y gellir eu defnyddio ar gyfer nodi diffygion a namau ar injanau 
  10. y diffygion a’r namau arferol sydd yn digwydd gydag injanau ar gyfarpar ar y tir 
  11. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwneud y gwasanaethu a’r cynnal a’r cadw
  12. yr eitemau defnyddiol sydd eu hangen i gyflawni gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer eu cael
  13. y mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu y mathau gwahanol o injanau a ffynonellau tanwydd a chyfarpar ar y tir
  14. mathau a swyddogaeth cydrannau systemau injanau
  15. allyriadau’r beipen wagio, rheoliadau a dulliau o reoli hidlwyr a hylifau
  16. effeithiau gwlybaniaeth a halogyddion mewn systemau tanwydd a thanio
  17. gweithdrefnau rhedeg injan i mewn
  18. gweithdrefnau dechrau a stopio injan
  19. sut i symud ac amnewid cydrannau system injan i baratoi ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
  20. sut i osod ac addasu cydrannau system injan yn unol â manylebau a systemau’r cynhyrchydd yn cynnwys sut i amseru a chydbwyso cydrannau injan
  21. sut i adnabod a dewis dulliau priodol o selio unedau a chydrannau injan ar ôl gwasanaethu a chynnal a chadw
  22. y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar a pheiriannau ar ôl gwasanaethu a chynnal a chadw 
  23. y dulliau o brofi systemau injan wrth gwblhau gwaith er mwyn sicrhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
  24. pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  25. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
  26. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei chael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  27. y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydrannau e.e.
carbwraduron
plygiau tanio
pympiau chwistrellu
pympiau dosbarthu tanwydd
chwistrellwyr
rheolwyr
cymhorthion dechrau’n oer
systemau hidlo aer
systemau gwacáu
tyrbo ac uwchwefrwyr

Datgymalu ac atgyweirio e.e.
· pennau silindrau a chydosodiadau trên falfiau
· pistonau, cydosodiadau cylchyn a leininau
· amseriad cydran injan, e.e. camsiafft, cydbwyswr
· crancsiafftiau
· systemau tanio gwreichionog
· pympiau a systemau cyflenwi tanwydd
· systemau gwacáu

Injanau – injanau tanio gwreichion a thanio cywasgu a’u cyfluniadau e.e.
· aer wedi ei oeri a dŵr wedi ei oeri
· lleininau gwlyb a sych, monobloc
· yn anadlu’n naturiol ac wedi ei wefru gan bwysedd (i gynnwys cyfuno tyrbo ac uwchwefru)
· cydbwyswyr ac ataliad dirgryniad

Hidlwyr a hylifau:
Catalydd Ocsideiddio Diesel (DOC)
Hidlwr Gronynnau Diesel (DPF)
Lleihau Catalytig Dethol (SCR)
Hylif Gwacáu Diesel (DEF)

Ffynonellau tanwydd – e.e.
petrol
diesel
hybrid
LPG
methan
hydrogen

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion y cwsmer
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion swyddogaethol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
rheolaeth electronig a systemau monitro o bell
adolygu data technegol

Ailgydosod ar ôl atgyweirio e.e.
cylchynau piston bwlch
cydbwysedd ac aliniad cydrannau injan
cliriadau pistonau a leininau
amseriad cydran injan
dilyniannau tynhau

Ynni wedi ei storio:
springiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO11

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

Injanau; ar y tir; amaethyddol; gwasanaeth; atgyweirio