Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – oeri ac iriad

URN: LANLEO10
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – oeri ac iriad. Mae’n rhoi dealltwriaeth o greu a gwasgaru gwres a diben cyfryngau oeri, e.e. tanwydd, olew, dŵr, aer a darfudiad, ffrithiant a deunyddiau inswleiddio, eu mathau, eu defnydd a’u nodweddion yn ogystal ag effaith gwres.

Mae hefyd yn cynnwys iriad, diben, mathau, nodweddion, priodweddau ac ychwanegion mewn olew ac ireidiau. Y mathau o systemau iriad a’u hawyru, e.e. symp gwlyb a sych, gorfodol, diferiad, sblash ac hunan-iro.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.

Noder – yn unol â rheoliadau presennol mae’n rhaid i waith trydan o’r prif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol posibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir i brofi, cynnal, monitro ac addasu systemau oeri ac iriad, eu cylchedau a’u cydrannau
  6. dewis oeryddion ac ireidiau yn erbyn manylebau gofynnol 
  7. profi samplau oeri ac ireidiau, dehongli canfyddiadau a chymryd camau perthnasol
  8. cymhwyso inswleiddio i elfennau gwresogi neu oeri 
  9. gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  10. ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol 
  11. cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pheirianneg ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y rhesymau dros reoli tymheredd mewn cymwysiadau peirianneg ar y tir
  5. y dulliau a’r mathau o reoli a gwasgaru gwres a ddefnyddir mewn cymwysiadau peirianneg ar y tir
  6. symptomau diffyg oeri ac iriad
  7. yr adeiladwaith, diben a swyddogaeth cydrannau a ddefnyddir mewn systemau oeri arferol i gynnwys systemau wedi eu hoeri gan aer a hylif
  8. achosion nam ar effeithlonrwydd oeri
  9. sut i brofi a chynnal systemau oeri a’u cydrannau
  10. y rhesymau dros ddefnyddio iriad 
  11. egwyddorion gweithredu systemau iriad a’u cydrannau
  12. nodweddion y mathau gwahanol o ddeunyddiau ffrithiant a’u gofynion iriad
  13. y mathau gwahanol, nodweddion, priodweddau a chymhwysiad ireidiau, olewau, seimiau, ychwanegion, gwrthrewyddion ac oerwyr, crogiant gronynnol, selio
  14. sut i gasglu samplau oeri ac iriad mewn ffordd sydd yn cynnal integredd y sampl
  15. dulliau o brofi samplau oeri ac iriad 
  16. pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  17. sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol 
  18. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  19. y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


achosion nam ar effeithlonrwydd oeri - e.e. rhwystrau, cylchrediad gwael, trapiau aer, tymheredd amgylchol, pwysedd system, gorlwytho

Dulliau a mathau o reoli a gwasgaru gwres - e.e. hylif, aer wedi ei orfodi, darfudiad/dargludiad, pelydriad, tyllau gwres a deunyddiau inswleiddio

Systemau iriad a’u cydrannau – sympiau gwlyb/sych. diferiad, sblash, disgyrchiant, hunan-iro, bwydo gorfodol, iro awtomatig

rhesymau am y rheoli tymheredd - e.e. ehangu, anweddiad, effeithlonrwydd, ymlosgiad, hirhoedledd, gludiogrwydd olew

rhesymau dros iriad - e.e. lleihau ffrithiant, lleihau traul, oeri

symptomau diffyg oeri ac iriad - e.e. afluniad, gwydro, traul, ehangu, atafael, sbotiau gwres, weldio ffrithiant, sgorio, anweddu, ymlosgiad

profi a chynnal systemau oeri a’u cydrannau – e.e. lefelau, pwysau, cymarebau a chyfeintiau, thermostatau, cyflymderau gwyntyll, tymheredd mewnbwn ac allbwn, profion pwysedd, draeniad, gweithdrefnau llifolchi a gwaedu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO10

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

peirianneg; egwyddorion; oeri; iriad; olew; iraid; ar y tir; cyfarpar; peiriannau