Nodi, casglu a pharatoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon

URN: LANH54
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn nodi, casglu a pharatoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon. Mae’n berthnasol i gasglu neu godi planhigion â llaw neu’n fecanyddol ar gyfer archebion. Gallai hyn gynnwys casglu planhigion ar gyfer eu storio dros dro a’u paratoi ar gyfer eu hanfon neu eu gwerthu. Bydd y mathau o baratoi yn dibynnu ar y fenter lle byddwch yn gweithio.

Gallai planhigion fod mewn cynwysyddion neu botiau, er enghraifft, planhigion gwely blodau, llwyni neu blanhigion tŷ. Gallent hefyd fod yn blanhigion sydd wedi cael eu tyfu yn y ddaear a'u cyflenwi gyda “gwreiddiau moel” fel coed, planhigion gwrychoedd, llwyni ffrwythau a gwiail, llwyni, rhosod a rhai planhigion lluosflwydd.

Mae casglu planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon yn briodol yn bennaf i blanhigfeydd addurnol sy’n cynhyrchu planhigion tŷ, planhigion gwely blodau a stoc planhigfa addurnol gwydn (coed, llwyni, planhigion parhaol a mynyddig).

Bydd gennych gyfrifoldeb personol sylweddol yn cyflawni’r gweithgareddau hyn, ond ni fyddwch yn gysylltiedig â phlannu neu oruchwylio casglu a pharatoi planhigion, am fod hyn wedi ei gynnwys yn LANH55.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â pharatoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. cynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon
  4. paratoi, defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar ar gyfer nodi, casglu a pharatoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon, yn ddiogel ac yn gywir
  5. nodi’r planhigion sydd i gael eu casglu’n gywir, sicrhau bod y planhigion yn bodloni manylebau a gwrthod unrhyw rai nad ydynt yn gwneud hynny
  6. trin a chludo planhigion mewn ffordd sydd yn cynnal ansawdd ac yn lleihau niwed
  7. nodi unrhyw broblemau a allai godi wrth gasglu planhigion a chymryd y camau priodol
  8. sicrhau bod casglu’r planhigion yn digwydd o fewn y graddfeydd amser angenrheidiol ac yn unol â’r manylebau
  9. paratoi a chynnal y planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon yn gywir yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  10. sicrhau bod y planhigion yn barod ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon ar yr amser cywir
  11. cynnal iechyd planhigion sydd angen eu storio yn y cyfamser cyn eu gwerthu neu eu hanfon 
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. dilyn arfer da amgylcheddol sefydliadol a’r diwydiant i leihau niwed amgylcheddol
  14. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  15. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pharatoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon
  2. y mathau o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pam y mae’n bwysig cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas wrth baratoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  4. sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw cyfarpar a’i ddefnyddio’n ddiogel ac yn gywir
  5. sut i nodi rhywogaethau neu amrywiadau perthnasol planhigion sydd wedi eu cynhyrchu gan y fenter 
  6. y ffynonellau gwybodaeth mewn perthynas â rhywogaethau neu amrywiadau gwahanol o blanhigion 
  7. pwysigrwydd cwblhau’r gweithgaredd yn unol â graddfeydd amser a manylebau
  8. sut i wybod pan nad yw planhigyn yn bodloni manylebau a pha gamau i’w cymryd
  9. y dulliau o gynnal ansawdd planhigion wrth eu trin a’u cludo 
  10. y dulliau ar gyfer cludo planhigion o fewn y safle sy’n berthnasol i’r fenter 
  11. y problemau a allai godi wrth gasglu planhigion a pha gamau i’w cymryd 
  12. y dulliau ar gyfer paratoi’r planhigion yn barod ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon
  13. y dulliau ar gyfer cynnal iechyd y planhigion yn barod ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon 
  14. unrhyw drefniadau storio perthnasol ar gyfer planhigion cyn eu gwerthu neu eu hanfon
  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  16. pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  18. y cofnodion sydd angen eu cwblhau sy’n berthnasol i gasglu a pharatoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon


Cwmpas/ystod


A. Cynnal cyfarpar ar gyfer paratoi planhigion i’w gwerthu neu eu hanfon:
1. paratoi
2. glanhau
3. storio

B. Paratoi planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon gan ddefnyddio dulliau sy’n berthnasol i’r fenter yr ydych yn gweithio ynddi:
1. trin
2. tynnu planhigion anaddas
3. pacio neu labelu


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarwyddiadau a manylebau: 
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau cynhyrchwyr
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
cyfarwyddiadau llafar

Defnyddir paratoi i gynnwys gweithgareddau sydd yn digwydd ar ôl nodi a chasglu planhigion. Bydd y mathau o weithgareddau paratoi yn dibynnu ar y fenter yr ydych yn gweithio ynddi, gallai hyn gynnwys:
•  chwynnu
•  graddio
•  bwndelu
•  lapio
•  rhoi mewn cynhwyswyr/pecynnu
•  labelu
•  dyfrhau
•  llwytho
•  storio


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH54

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Planhigfa, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

planhigion; archebion; anfon