Cyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu
URN: LANH52
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal gweithgareddau ar ôl cynaeafu i baratoi cnwd wedi ei gynaeafu ar gyfer ei drosglwyddo at gwsmer neu ei storio. Mae’n cynnwys gweithgareddau fel dethol, glanhau, sychu, triniaethau cyn storio, graddio, tacluso, rheoli ansawdd, pacio a labelu. Bydd y mathau o weithgareddau paratoi yn dibynnu ar y cnwd, manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan.
Byddwch yn gweithio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â chyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- cynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch wrth gyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu
- paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio cyfarpar er mwyn cyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu yn ddiogel ac yn gywir
- cyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu, yn unol â manylebau’r cynnyrch a gofynion sicrhau ansawdd
- sicrhau bod y cnwd sydd wedi ei baratoi yn bodloni manylebau’r cynnyrch
- nodi cnwd wedi ei gynaeafu nad yw’n bodloni manylebau cynnyrch a gweithredu
- dilyn arfer da amgylcheddol sefydliadol a’r diwydiant i leihau niwed amgylcheddol
- lle bo angen cyn anfon, storio cnydau wedi eu cynaeafu yn unol â manylebau’r cynnyrch
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- ailgylchu neu waredu gwastraff neu sgil-gynnyrch o weithgareddau ar ôl cynaeafu yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- cwblhau cofnodion ar ôl cynaeafu fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â chyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pam y mae’n bwysig cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas yn ystod gweithgareddau ar ôl cynaeafu a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y mathau o gyfarpar sydd eu hangen i gyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg newydd
- sut i gyflawni gweithgareddau angenrheidiol ar ôl cynaeafu yn unol â manylebau’r cynnyrch a gofynion sicrhau ansawdd
- sut i nodi cnydau wedi eu cynaeafu nad ydynt yn bodloni manylebau'r cynnyrch a’r camau i’w cymryd
- y dulliau perthnasol ar gyfer storio cnydau wedi eu cynaeafu cyn eu hanfon
- y dulliau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a sgil-gynnyrch sydd wedi eu creu gan y gweithgareddau ar ôl cynaeafu
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac i ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- y cofnodion ar ôl cynaeafu y mae’n rhaid eu cwblhau a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
A. Defnyddio pump o’r dulliau paratoi canlynol wrth gyflawni gweithgareddau ar ôl cynaeafu:
1. ymdrin
2. dethol
3. glanhau
4. sychu
5. triniaethau cyn storio
6. graddio
7. tacluso
8. rheoli ansawdd
9. pacio
10. labelu
B. Ymdrin â’r mathau canlynol o wastraff a gynhyrchwyd o weithgareddau ar ôl cynaeafu:
1. organig
2. anorganig
C. Paratoi cnydau ar ôl eu cynaeafu ar gyfer:
1. trosglwyddo
2. storio tymor byr
3. storio hirdymor
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar: gallai fod yn gyfarpar llaw neu’n fecanyddol
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau cynhyrchwyr
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• cyfarwyddiadau llafar
Gallai gweithgareddau ar ôl cynaeafu gynnwys:
• dethol
• glanhau
• sychu
• triniaethau cyn storio
• graddio
• tacluso
• rheoli ansawdd
• pacio
• labelu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH52
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Paciwr, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; cynaeafu; ffrwythau; llysiau