Rheoli’r amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu

URN: LANH16
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n rheoli’r amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu. Mae’n berthnasol i unigolion sy’n gweithio gyda chnydau sy’n cael eu tyfu mewn amodau sy’n cael eu diogelu. Bydd gennych gyfrifoldeb sylweddol dros reoli hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu amodau amgylcheddol ac yna’u haddasu fel y bo angen.

Mae amodau amgylcheddol yn cynnwys: tymheredd, lleithder, lefelau carbon deuocsid, golau a chysgod. Bydd angen bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth o’r berthynas rhwng amodau amgylcheddol a thwf cnydau.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu, yn cynnwys risgiau o lefelau carbon deuocsid
  2. cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
  3. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal, yn unol ag arferion sefydliadol
  4. sicrhau bod y dulliau gweithio ar gyfer rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu wedi eu sefydlu a'u cyfathrebu’n glir
  5. cadarnhau bod yr amodau amgylcheddol ar gyfer y cnydau sy’n cael eu diogelu wedi eu paratoi yn unol â’r manylebau
  6. cadarnhau bod y cyfarpar ar gyfer rheoli a chynnal amodau amgylcheddol yn gweithio, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr
  7. sicrhau bod yr amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu yn cael eu monitro, yn unol â’r manylebau 
  8. cadarnhau bod yr addasiadau i amodau amgylcheddol yn cael eu gwneud yn unol â’r manylebau
  9. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  10. cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  11. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion, a’r angen i rhoi rhybudd digonol os yw lefelau carbon deuocsid yn uchel
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd 
  3. y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch tra’n darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion, a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
  4. yr amodau amgylcheddol cywir sydd yn angenrheidiol i gyflawni twf gorau cnydau
  5. effeithiau tymheredd, lleithder, lefelau carbon deuocsid, awyru, golau a chysgod ar dwf a datblygiad y planhigion
  6. y defnydd diogel a chywir o gyfarpar ar gyfer rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
  7. y dulliau cywir ar gyfer paratoi amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
  8. y gweithdrefnau a’r dulliau ar gyfer monitro ac addasu amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
  9. yr arwyddion bod angen addasu amodau amgylcheddol
  10. y defnydd o dechnoleg i fonitro a chynnal amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu 
  11. pwysigrwydd cadarnhau bod y gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â rheoli’r amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu wedi eu cwblhau yn unol â’r manylebau
  12. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  13. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  15. y confensiynau a’r ffyrdd y mae’n rhaid cofnodi gwybodaeth yn ymwneud ag amodau amgylcheddol


Cwmpas/ystod


A. Nodi’r amodau amgylcheddol canlynol sydd eu hangen ar gnydau sy’n cael eu diogelu:
1. tymheredd
2. lleithder
3. golau a chysgod (yn cynnwys golau lliw pan fydd yn cael ei ddefnyddio)
4. lefelau carbon deuocsid

B. Sefydlu a defnyddio’r mathau canlynol o gyfarpar i reoli amodau amgylcheddol:
1. cyfrifiadur
2. gwres
3. awyru
4. golau/cysgod
5. systemau dyfrhau
6. cynhyrchwyr/chwistrellwyr carbon deuocsid
7. cyfarpar cofnodi data

C. Gwneud addasiadau i’r amodau amgylcheddol canlynol:
1. tymheredd
2. lleithder
3. golau a chysgod (yn cynnwys golau lliw pan fydd yn cael ei ddefnyddio)
4. lefelau carbon deuocsid
5. awyru


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Amodau amgylcheddol:

•  tymheredd
•  lleithder
•  golau a chysgod
•  lefelau carbon deuocsid


Manylebau: 
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
canllawiau cynhyrchwyr
gofynion cwsmeriaid
gofynion sicrhau ansawdd
gofynion cnydau
polisïau sefydliadol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH16

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau wedi eu diogelu; tŷ gwydr; polydwnnel; clochwydr