Monitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion
URN: LANH12
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Systemau Toi Pilenni Gwrth-ddŵr (Adeiladu),Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n monitro ac yn cynnal twf cnydau neu blanhigion mewn amodau awyr agored neu wedi eu diogelu.
Bydd hyn yn cynnwys sefydlu mesurau i wella iechyd a datblygiad planhigion, ac mewn rhai achosion, goruchwylio gweithredwyr.
Mae hyn yn cynnwys cnydau neu blanhigion mewn unrhyw leoliad amaethyddol neu arddwriaethol, p’un ai’n gyfleustod (toeon gwyrdd, parciau a gerddi, tyweirch chwaraeon, ac ati) neu gynhyrchu cnydau (ffrwythau, llysiau, blodau, coed ac ati).
Bydd angen gwybodaeth sylweddol arnoch o egwyddorion twf a datblygiad planhigion ac iechyd planhigion.
Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau, cyfarpar neu gemegau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â monitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion
- cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod mesurau i gynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch wedi eu sefydlu, yn unol â gofynion sefydliadol
- cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gwaith
- nodi a chynllunio dulliau addas i fonitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- cadarnhau bod y dulliau gweithio ar gyfer monitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion wedi eu sefydlu ac yn cael eu cyfathrebu’n glir i’r rheiny sydd yn gysylltiedig
- nodi a chadarnhau argaeledd adnoddau sydd eu hangen ar gyfer monitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion
- archwilio cnydau neu blanhigion i asesu eu cyflwr
- cael cyngor technegol lle bo angen
- nodi unrhyw broblemau gydag iechyd cnydau neu blanhigion
- pennu mesurau addas ar gyfer ymdrin â’r materion a nodwyd a chynnal iechyd cnydau neu blanhigion
- nodi ffyrdd o wella twf a datblygiad cnydau neu blanhigion
- gweithredu mesurau i gynnal neu wella twf cnydau neu blanhigion, yn unol â’r cyfarwyddiadau a'r manylebau
- sicrhau bod y cyfarpar sydd ei angen i weithredu mesurau yn cael ei ddefnyddio a’i gynnal a’i gadw’n ddiogel ac yn gywir
- cadarnhau bod mesurau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd yr holl gamau a gymerir i gynnal twf iach cnydau neu blanhigion
- cadarnhau bod yr holl waith yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n lleihau niwed amgylcheddol
- cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg yn cael eu gweithredu ar draws eich maes cyfrifoldeb
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon, asesu risgiau a dehongli asesiadau risg
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch wrth fonitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion, a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o’r safle cyn dechrau gwaith a’r canfyddiadau a allai effeithio ar weithgareddau
- pwysigrwydd cadarnhau bod y gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â monitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion yn cael eu cwblhau yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro twf a datblygiad cnydau neu blanhigion, yn cynnwys y defnydd o drothwyon ac amserlenni
- y cyfarpar a’r deunyddiau sydd yn angenrheidiol ar gyfer monitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion a sut i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio a'u cadw mewn cyflwr diogel ac effeithiol a'u storio’n ddiogel
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â monitro a rheoli twf cnydau neu blanhigion a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- y defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau wrth fonitro a chynnal twf cnydau neu blanhigion
- cyfnodau datblygiad cnydau neu blanhigion
- pwysigrwydd archwilio cnydau neu blanhigion a sut i bennu pryd y dylid gwneud hyn
- ble i gael cyngor technegol ar adnabod materion gyda chnydau neu blanhigion a’r mesurau y gellir eu cymryd
- sut i adnabod arwyddion o niwed neu faterion gydag iechyd cnydau neu blanhigion
- sut i bennu mesurau addas ar gyfer ymdrin â materion a chynnal twf cnydau neu blanhigion, a goblygiadau peidio gweithredu
- y dulliau ar gyfer gwella iechyd a datblygiad cnydau neu blanhigion
- y ddeddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thriniaethau ar gyfer cnydau a phlanhigion
- y problemau a allai godi wrth fonitro a rheoli twf cnydau neu blanhigion a sut dylid ymdrin â’r rhain
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer trin, cludo ac ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben
- pwysigrwydd monitro a gwerthuso canlyniad yr holl gamau a gymerir i gynnal twf iach cnydau neu blanhigion
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd, yn cynnwys ystyriaethau NVZ (Parth Perygl Nitradau), llygredd dŵr ac effeithiau gorddos ar iechyd planhigion
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cadw cofnodion ar ddatblygiad cnydau neu blanhigion, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Materion gyda thwf a datblygiad cnydau neu blanhigion:
• twf cnydau neu blanhigion
o twf crebachlyd, gormodol neu amhriodolo planhigion wedi eu niweidio (e.e. gwynt, cenllysg, niwed gan storm)o chwyn• plâu, clefydau ac afiechyd
o anifeiliaido pryfedo feirysolo bacterolo ffyngolo maetho diffyg elfen hybrino sychdero dwrlenwi
Cyfarwyddiadau a manylebau:• darluniau/cynlluniau• amserlenni• datganiadau dull• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)• canllawiau cynhyrchwyr/cyflenwyr• gofynion cwsmeriaid• gofynion sicrhau ansawdd• gofynion cnydau• gofynion llafar
Mesurau i gynnal a gwella twf cnydau neu blanhigion:• diogelwch rhag adar a phlâu asgwrn cefn• mesurau rheoli plâu• mesurau rheoli clefydau• mesurau rheoli chwyn• diogelu rhag y tywydd• tocio a thacluso• lleihau/teneuo• darparu cymorth• darparu maethynnau• darparu dŵr• rheoleiddwyr twf• rheoli tymheredd, lleithder, golau a chysgod
Rheoli plâu:• ffensio• dychrynwyr• ymlidwyr• saethu• biolegol• cemegol• defnydd o bryfed ac anifeiliaid buddiol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH12
Galwedigaethau Perthnasol
Garddwr, Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; planhigion; twf; ffrwythau; llysiau; llwyni; bywlys; tocio; tacluso; maethynnau; dŵr