Cefnogi poblogaethau helfilod

URN: LANGa9
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi poblogaethau helfilod mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu cyflawni i gefnogi helfilod yn y gwyllt trwy ddarparu bwyd, dŵr ac adnoddau eraill.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
 
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
paratoi a chynnal a chadw cyfarpar i gael ei ddefnyddio i ddarparu bwyd, dŵr ac adnoddau eraill ar gyfer poblogaethau helfilod
darparu adnoddau i gefnogi poblogaethau helfilod yn effeithiol
monitro ac adrodd ar ymateb helfilod i adnoddau.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. pennu’r mathau o adnoddau ychwanegol sy’n ofynnol i gefnogi poblogaethau helfilod
  3. nodi pryd a ble mae angen yr adnoddau ychwanegol i gefnogi poblogaethau helfilod
  4. dewis, paratoi a chynnal y safleoedd, y cyfarpar a'r cyfleusterau a ddefnyddir i ddarparu adnoddau 
  5. gweithio mewn ffordd sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar gynefin a bywyd gwyllt
  6. darparu adnoddau yn effeithiol i gefnogi helfilod gan wastraffu cyn lleied â phosibl
  7. monitro ymateb yr helfilod i’r adnoddau a’u defnydd, a chofnodi ac adrodd ar hyn yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  8. cofnodi ac adrodd am unrhyw bryderon o ran lles helfilod yn unol â gweithdrefnau sefydliadol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â darparu adnoddau i gefnogi poblogaethau helfilod, yn cynnwys gweithio unigol
  2. gofynion lles helfilod, yn cynnwys problemau lles cyffredin helfilod
  3. y mathau o adnoddau ychwanegol a ddefnyddir i gefnogi lles helfilod
  4. sut mae adnoddau’n cael eu darparu i gefnogi poblogaethau helfilod
  5. pam y mae’n bwysig amharu cyn lleied â phosibl wrth ddarparu adnoddau
  6. y cyfarpar a’r cyfleusterau sydd yn angenrheidiol i ddarparu adnoddau i boblogaethau helfilod a'u cynefin
  7. ymateb disgwyliedig helfilod i’r adnoddau a ddarperir
  8. y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol ar ddyrannu adnoddau ychwanegol
  9. y meddyginiaethau a ddefnyddir i gynnal iechyd helfilod a’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer yn ymwneud â’u defnydd
  10. pwysigrwydd cadw cofnodion o adnoddau ychwanegol a ddarperir i boblogaethau helfilod 


Cwmpas/ystod


Cymhwyso adnoddau i helpu i gefnogi’r canlynol:
lles helfilod
lleoliad helfilod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod

Adnoddau:
porthiant
lloches
dŵr
graean
meddyginiaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; poblogaethau; adnoddau; porthiant; dŵr; lloches; meddyginiaeth