Monitro poblogaethau a chynefinoedd helfilod

URN: LANGa8
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro poblogaethau a chynefinoedd helfilod mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i fonitro helfilod a’u cynefin.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
gwneud asesiadau o boblogaethau helfilod gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau 
monitro a gwneud asesiadau o allu cynefin yr helfilod i gefnogi helfilod 

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio tuag at warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwneud y gweithgaredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i arsylwi helfilod a rhywogaethau bywyd gwyllt eraill i fonitro nodweddion poblogaethau helfilod
  3. nodi a defnyddio arwyddion i sefydlu nodweddion poblogaeth helfilod, yn cynnwys arwyddion o weithgareddau plâu ac ysglyfaethwyr
  4. monitro ymddygiad a chyflwr poblogaethau helfilod ac adnabod yr arwyddion sydd yn dangos salwch ymysg helfilod
  5. casglu gwybodaeth am gyflwr cynefinoedd helfilod
  6. adnabod cynefinoedd da helfilod a’r rheiny y mae angen eu gwella
  7. adnabod cynefinoedd gwael helfilod a rhai sydd wedi eu niweidio a phennu’r achosion tebygol
  8. cyflawni gweithgareddau monitro mewn ffordd sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar yr helfilod, bywyd gwyllt a’r cynefinoedd bob amser
  9. cofnodi ac adrodd ar ganfyddiadau yn unol â gofynion y sefydliad, yn cynnwys arwyddion o salwch a gweithgaredd ysglyfaethwyr a'r angen i gynnal a chadw a gwella cynefinoedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â monitro gweithgareddau, yn cynnwys gweithio unigol
  2. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro poblogaethau helfilod gwyllt gwahanol, yn cynnwys gweithgaredd plâu ac ysglyfaethwyr
  3. sut i adnabod rhywogaethau o helfilod a bywyd gwyllt sy'n gyffredin i'r ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys eu rhyw a’u hoed
  4. yr amrywiadau disgwyliedig ym mhoblogaethau helfilod yn ystod y cylch blynyddol
  5. y ffordd y gall newidiadau tymhorol effeithio ar boblogaethau a chynefinoedd helfilod
  6. y ffordd y gall nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt effeithio ar boblogaethau helfilod
  7. sut i adnabod ymddygiad a chyflwr arferol poblogaethau helfilod a’r arwyddion sydd yn dangos salwch mewn helfilod
  8. hunaniaeth rhywogaethau cynefinoedd cyffredin a geir yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  9. nodweddion cynefin da helfilod a'r ffordd y gall cynefin reoli presenoldeb rhywogaethau gwahanol o helfilod ar ardal o dir
  10. sut i adnabod niwed i gynefin ac achosion tebygol niwed
  11. y gweithgareddau rheoli a ddefnyddir i gynnal a gwella cynefin helfilod
  12. y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
  13. pam y mae’n bwysig amharu cyn lleied â phosibl ar helfilod, bywyd gwyllt a chynefinoedd wrth eu monitro
  14. pwysigrwydd cadw cofnodion o boblogaeth helfilod a chyflwr y cynefin


Cwmpas/ystod


Sefydlu pedwar o’r nodweddion poblogaeth canlynol ar gyfer helfilod a bywyd gwyllt:
rhywogaethau
niferoedd
iechyd
rhyw
oed
lleoliad
ymddygiad
amharu
tymoroldeb

Casglu gwybodaeth am gynefin o ran tri o’r canlynol:
rhywogaethau planhigion cyffredin
math o gynefin
rhyngweithio gyda helfilod
newidiadau tymhorol
cyflwr cynefin sy’n berthnasol i’r tymor


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod

Nodweddion ardal – Er enghraifft: topograffeg, defnydd o dir, gweithgareddau eraill, math o dir, draeniad


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa8

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; cynefin; monitor