Gofalu am iechyd a lles anifeiliaid sy’n gweithio
URN: LANGa6
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwylly
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gofalu am iechyd a lles anifeiliaid sy’n gweithio a ddefnyddir i gefnogi gweithgareddau helwriaeth a rheoli bywyd gwyllt. Mae’n ymwneud â gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i gartrefu, bwydo, dyfrio a gofalu am iechyd a lles yr anifeiliaid.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• bwydo anifeiliaid
• dyfrio anifeiliaid
• ymarfer anifeiliaid
• cynnal cyflwr anifeiliaid.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni gweithgareddau yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- gofalu am a thrin anifeiliaid sy’n gweithio mewn ffordd sydd yn cynnal eu hiechyd a'u lles
- dewis a chyflenwi porthiant ar gyfer anifeiliaid sy’n gweithio sy’n briodol i’w gofynion bwydo
- paratoi a storio porthiant yn gywir
- cynnal cyflenwad digonol o ddŵr glân, ffres ar gyfer anifeiliaid
- arsylwi a chymryd camau priodol os oes unrhyw bryder am ymddygiad bwydo yr anifeiliaid
- monitro cyflwr corfforol ac ymddygiad anifeiliaid sy’n gweithio a chymryd camau priodol os oes unrhyw bryder
- darparu llety addas a diogel ar gyfer anifeiliaid sy’n gweithio sydd yn cynnal eu hiechyd a'u lles
- cynnal glendid a chyflwr llety a gwely anifeiliaid
- rhoi cyfleoedd i anifeiliaid sy’n gweithio i gynnal eu cyflwr a’u lles
- ysgrafellu anifeiliaid sy’n gweithio fel y bo angen i gynnal glendid a lles
- darparu ymarfer corff priodol pan fydd yr anifail yn gweithio neu’n gorffwys
- glanhau a chynnal a chadw offer a chyfarpar ar ôl eu defnyddio
- gwaredu gwastraff yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â gofalu am a thrin anifeiliaid sy’n gweithio
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol iechyd a lles anifeiliaid
- gofynion lles anifeiliaid sy’n gweithio
- sut i hyrwyddo iechyd a lles anifeiliaid sy’n gweithio
- pwysigrwydd bwydo anifeiliaid sy'n gweithio yn unol â’u hanghenion
- gofynion deietegol anifeiliaid sy’n gweithio a'r ffordd y mae’r rhain yn amrywio yn ystod cyfnodau gwahanol o’u bywyd a phan mae’r anifail yn gweithio neu’n gorffwys
- sut i adnabod porthiant anifeiliaid gwahanol
- pwysigrwydd cynnal cyflenwad digonol o ddŵr glân, ffres
- pam y mae’n bwysig glanhau a chynnal cyfarpar bwydo
- beth i’w wneud os oes unrhyw ymddygiad bwydo annormal yn cael ei weld
- cyflwr corfforol ac ymddygiad arferol yr anifail a sut i adnabod unrhyw annormaleddau
- beth i’w wneud os yw cyflwr neu ymddygiad annormal anifail yn cael ei nodi
- yr arwyddion a’r symptomau sydd yn arwydd o anhwylderau cyffredin
- pam mae angen ymarfer corff ar anifeiliaid sy’n gweithio a sut mae’r anghenion hyn yn newid i’r anifeiliaid yn ystod cyfnodau o weithio a gorffwys
- y gofynion ar gyfer llety anifeiliaid i gynnal iechyd a lles
- pwysigrwydd glendid a chynnal a chadw lles anifeiliaid
- y ffordd y mae anifeiliaid yn cynnal eu hymddygiad a’u gweithrediad eu hunain
- sut i ysgrafellu anifeiliaid sy’n gweithio yn ddiogel
- y gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu gwastraff
Cwmpas/ystod
Nodi gofynion bwydo yn nhermau dau o’r canlynol:
• math o fwyd
• amserau bwydo
• arferion bwydo
• meintiau porthiant
Monitro cyflwr ac ymddygiad yn nhermau pedwar o’r canlynol:
• ymddangosiad
• ystum
• symudiad
• gweithrediad y corff
• rhyngweithio cymdeithasol
Sicrhau bod gan anifeiliaid o leiaf un o’r cyfleoedd glanhau canlynol:
• glanhau eu hunain
• cael eu hysgrafellu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai anifeiliaid gynnwys:
• cŵn
• ceffylau
• ffuredau
• adar ysglyfaethus
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa6
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
anifeiliaid sy’n gweithio; gofal; cŵn adara