Defnyddio gynnau haels a reifflau yn ddiogel ar gyfer rheoli bywyd gwyllt ac at ddibenion chwaraeon
URN: LANGa5
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymdrin â’r cymhwysedd sydd yn ofynnol i ddefnyddio gynnau haels a reifflau yn ddiogel i reoli bywyd gwyllt ac at ddibenion chwaraeon.
Mae’n cynnwys ymdrin, tanio a chynnal a chadw gynnau haels a reifflau yn ddiogel yn ogystal â gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â’u perchnogaeth, eu defnydd a’u diogeledd.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• storio, cludo, cario, ymdrin, llwytho a saethu gynnau haels a reifflau at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon
• dewis, llwytho a dadlwytho’r arfau cywir at y diben yn unol â deddfwriaeth gyfredol
• cynnal a chadw gynnau haels a reifflau a ddefnyddir at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon
• cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol yn ymwneud â pherchnogaeth, storio, cludo, cario a defnyddio gynnau haels a reifflau at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad risg o‘r amgylchedd lle bydd gynnau haels a reifflau’n cael eu defnyddio
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithgaredd
- cludo gynnau haels a reifflau a’u harfau yn ddiogel, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
- cario gynnau haels a reifflau heb eu llwytho ac wedi eu llwytho yn ofalus, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer perthnasol
- dewis yr arfau cywir yn unol â’r rhywogaethau targed a gofynion deddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol sy’n benodol i wlad
- cynnal gweithdrefnau llwytho a dadlwytho diogel ar gyfer gynnau haels a reifflau
- pennu uchafswm amrediad effeithiol taflegrau gynnau haels a reifflau yn unol â’r arfau a ddefnyddir
- pennu uchafswm amrediad effeithiol y gwn haels a’r reiffl, yn unol â’r arfau a ddefnyddir a’r rhywogaethau targed
- defnyddio osgo a safleoedd tanio diogel ar gyfer y targed wrth ddefnyddio gynnau haels a reifflau at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon
- anelu a saethu gynnau haels a reifflau yn ddiogel ac yn gywir, gan ddefnyddio cymhorthion saethu reiffl lle y bo’n briodol
- ymdrin â rhwystrau barilau neu gamdanio
- datgymalu a chydosod gynnau haels a reifflau yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion gwaith diogel
- glanhau, archwilio a chynnal a chadw gynnau haels a reifflau yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion gweithio diogel
- storio gynnau haels a reifflau a’u harfau yn ddiogel, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â defnyddio gynnau haels a reifflau at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon, yn cynnwys peryglon gweithio unigol
- sut i ddewis dillad addas a chyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithgaredd
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth a defnydd o arfau tanio at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli storio, cludo a chario arfau tanio ac arfau
- y broses ar gyfer gwneud cais am dystysgrif gwn haels neu reiffl chwaraeon at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon
- y gweithdrefnau diogelwch ar gyfer gynnau haels a reifflau chwaraeon
- y gofynion ar gyfer cludo gynnau haels a reifflau chwaraeon a’u harfau yn ddiogel
- y dulliau cludo diogel ar gyfer gynnau haels a reifflau pan gânt eu llwytho a’u dadlwytho a sut i drafod rhwystrau yn y maes
- sut i ddewis yr arfau cywir ar gyfer gynnau haels a reifflau, y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer cyfredol sy’n benodol i wlad yn ymwneud â defnyddio mathau gwahanol o arfau, a beth arall ddylid ei ystyried
- sut i lwytho a dadlwytho gynnau haels a reifflau yn ddiogel
- beth i’w ystyried wrth ddewis y safle a’r osgo tanio ar gyfer saethu gynnau haels a reifflau at ddibenion rheoli bywyd gwyllt a chwaraeon
- y cymhorthion y gellir eu defnyddio i gynorthwyo saethu gyda reiffl a sut caiff y rhain eu defnyddio
- beth i’w wneud os bydd gwn haels neu reiffl yn cael ei gamdanio
- beth i’w wneud os bydd rhwystr mewn baril gwn haels neu reiffl
- prif gydrannau gynnau haels a reifflau a sut i’w datgymalu a’u cydosod
- sut i lanhau, archwilio a chynnal a chadw gynnau haels a reifflau a pham y mae hyn yn bwysig
- yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i lanhau a chynnal a chadw gynnau haels a reifflau
- y camau y dylid eu cymryd os bydd nam yn cael ei ganfod gyda gwn haels neu reiffl
- y gofynion ar gyfer storio gynnau haels a reifflau a’u harfau yn ddiogel
Cwmpas/ystod
Defnyddio un o’r mathau canlynol o wn haels:
• ochr yn ochr
• ar ben ei gilydd
• gweithred barilfollt unigol neu weithred torri
• os caiff lled-awtomatig ei ddefnyddio, mae’n rhaid defnyddio un o’r mathau eraill hefyd
Defnyddio un o’r mathau canlynol o reiffl:
• gweithred barilfollt
• gweithred lifer
• os caiff lled-awtomatig ei ddefnyddio mae’n rhaid defnyddio un o’r mathau eraill hefyd
Glanhau gynnau haels a reifflau gan ddefnyddio:
• olew gwn
• gwiail glanhau sy’n cael eu tynnu drwodd
• clytiau glanhau
• cadachau
• brwshis efydd ffosffor
• mopiau gwlân
• pigynnau glanhau
Storio gynnau ac arfau:
• math cywir o ddiogelwch gynnau i fodloni’r gofynion ar gyfer gwn haels a reiffl
• arfau’n cael eu storio ar wahân o dan glo
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Math o ynnau haels:
• amrywiaeth o feintiau tyllfedd gwahanol
• maint ergyd arf a math o ergyd
Mathau o reiffl:
• amrywiaeth o galibr ar gyfer reifflau chwaraeon ar gyfer lladd helfilod bach i helfilod mawr
• mathau o arfau ac ystod y calibr
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) – diogelwch clustiau a llygaid
Cymhorthion saethu reifflau e.e. gafl reiffl, ffyn ar gyfer saethu reifflau oddi wrthynt
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa5
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper, Llech-heliwr, Gweithgareddau Milfeddygol Para-broffesiynol
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
gynnau haels; reifflau; rheoli plâu; chwaraeon saethu