Cynllunio, rheoli a gwerthuso hyfforddiant gwn haels

URN: LANGa33
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli a gwerthuso hyfforddiant gwn haels. Mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd â swyddogaeth reoli a gweithgaredd sydd yn gysylltiedig â hyfforddwr saethu uwch.

Mae’n rhaid i’r sgiliau sy’n ofynnol gan hyfforddwr uwch o reidrwydd gael eu cymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd hyfforddiant gwn haels. Mae disgwyl i chi weithredu o fewn rôl addysgu uwch gyda chyfrifoldeb dros reolaeth a dilyniant amrywiaeth o gleientiaid saethu h.y. o lefel ganolradd i uwch.

Mae cyflwyno’r amrywiaeth o hyfforddiant gwn haels yn briodol i’r lefel hon o weithgaredd addysgu a dylid ei reoli i gyflawni gofynion unigol y cleient yn y ffordd orau.

Cynhelir y rôl hyfforddi yma o fewn cyd-destun amgylchedd tir/ysgol a/neu faes saethu wedi ei reoli’n fasnachol.

Er mwyn bodloni’r safon alwedigaethol hon mae’n rhaid i chi:
sicrhau bod yr hyfforddiant a’r datblygiad personol sy’n ofynnol yn ddigonol ar gyfer cymhwyso a gwneud cynnydd i’r lefel hon
cyflwyno hyfforddiant gwn haels ar draws amrywiaeth uchel, gan fodloni gofynion cleientiaid unigol
gorffen a gwerthuso hyfforddiant gwn haels ar draws yr ystod uwch hon gan roi adborth effeithiol i alluogi a chynllunio cynnydd y cleient
arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth addas sy’n briodol i’r lefel hon o gyfarwyddyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cynnal asesiad risg cyn cynnal yr hyfforddiant gwn haels
  2. gwneud gwaith yn unol â gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â defnyddio gynnau haels
  3. cynllunio cyfarwyddyd/hyfforddiant gwn haels
  4. dewis cyfarpar addas ar gyfer hyfforddiant gwn hales
  5. sicrhau bod amgylchedd hyfforddiant priodol yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal, sy’n berthnasol i’r gofyniad hyfforddiant gwn haels a lefel ei gyflwyno
  6. cynnal cymhwysedd personol trwy gynnal datblygiad personol a'i gofnodi
  7. rheoli cyflwyno hyfforddiant gwn haels yn ddiogel
  8. gwerthuso trin gwn haels yn ddiogel a’i ddefnyddio o fewn cyd-destun hyfforddiant gwn haels
  9. arfarnu lefel profiad cleientiaid a sefydlu amcanion hyfforddiant
  10. sicrhau mabwysiadu’r osgo saethu cywir gan y cleient a chynghori ar hyn lle y bo’n briodol
  11. gwerthuso perfformiad cleient yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  12. rhoi cyngor ac adborth priodol, yn seiliedig ar berfformiad y cleient, ac integreiddio hyn i’r hyfforddiant gan ddefnyddio technegau cyfarwyddyd/hyfforddiant
  13. rhoi cyngor ar addasrwydd gwn haels yn ymwneud â pherfformiad cleient
  14. dehongli adborth cleientiaid ar eich technegau rhoi cyfarwyddyd/hyfforddiant eich hun a'i addasu lle y bo’n briodol
  15. rheoli canlyniad tanio byw, gan arsylwi’r gweithdrefnau diogelwch perthnasol
  16. gwneud y gwn haels yn ddiogel yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  17. adolygu a gwerthuso amcanion hyfforddiant yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  18. dod â hyfforddiant gwn haels i ben a rhoi’r arweiniad priodol ar gynnydd cleient yn y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. cyfrifoldebau penodol yr hyfforddwr i’r weithdrefn iechyd a diogelwch, sydd yn gysylltiedig ag ymdrin a defnyddio gynnau haels yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  2. y gofynion cyfreithiol sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o wn haels
  3. sut i gynnal asesiad risg yn ymwneud â’r amgylchedd hyfforddiant gwn haels 
  4. y gweithdrefnau ymateb i argyfwng, yn cynnwys cymorth cyntaf
  5. sut i gynllunio a rheoli rhaglen hyfforddiant gwn haels wedi ei strwythuro sydd yn gysylltiedig â chynnydd cleient unigol
  6. pwysigrwydd dewis cyfarpar priodol sy’n berthnasol i hyfforddiant gwn haels a'i lefel gyflwyno
  7. gofynion y lleoliad/stondin saethu priodol mewn perthynas â hyfforddiant gwn haels a'i lefel gyflwyno
  8. sut i gael ymwybyddiaeth fanwl o’r cyd-destun hyfforddi o ran disgyblaeth maes neu darged
  9. pwysigrwydd datblygu technegau hyfforddi i fodloni gofynion cleientiaid
  10. gweithrediad a pherfformiad technegol gwn haels ac arfau, yn cynnwys amrywiaeth o fathau o ynnau haels ac arfau
  11. sut i werthuso arddull ddysgu cleient a phwysigrwydd caniatáu gwyro oddi wrth yr hyfforddiant a gynlluniwyd i fodloni anghenion cleientiaid
  12. sut i feistroli damcaniaeth llygaid a’i gweithrediad ymarferol
  13. y damcaniaethau saethu a dderbynnir a'u rhinweddau technegol yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  14. cymhwysiad gwn haels mewn perthynas ag addysgu, ei gyfraniad perthynol tuag at osod gynnau a'i fanteision posibl yn ymwneud â’r cleient unigol, y cyd-destun a/neu ddisgyblaeth targed
  15. y technegau wrth gyfathrebu damcaniaeth saethu fel rhan o addysgu a dysgu medrusrwydd saethu
  16. sut i werthuso llwyddiant yr hyfforddiant gan ddefnyddio adborth a ddarperir gan y cleient yn ymwneud â’r dechneg hyfforddi
  17. pwysigrwydd adborth cleintiaid a sut i’w ddefnyddio i werthuso, addasu a datblygu 

  18. technegau rhoi cyfarwyddyd/hyfforddi i fodloni gofynion cleientiaid
  19. pwysigrwydd adlewyrchu ar brofiad rhoi cyfarwyddyd/hyfforddi a chynnal datblygiad personol 


Cwmpas/ystod


Sicrhau amgylchedd hyfforddiant priodol sy’n berthnasol i’r cyd-destun hyfforddi:
stondin/safle saethu
targedau addysgu priodol
disgyblaeth maes neu darged, fel y bo angen

Cyflwyno cyfarwyddyd/hyfforddiant yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels uwch:
disgyblaeth darged
saethu maes

Cyflwyno cyfarwyddyd/hyfforddiant uwch ar draws ystod:
canolradd
uwch
gwrywaidd a benywaidd
traws-uchafiaeth
defnydd o wn haels arbenigol: maes a/neu math o gystadleuaeth

Cynghori ar addasrwydd gwn uwch:
gwerthuso hyd carn y tyniad: sawdl, canol, bawd
gwerthuso’r plyg/gollyngiad: crib, wyneb, sawdl
gwerthuso’r cast: i ffwrdd, ymlaen, sawdl, bawd
gwerthuso pitsh: i lawr, niwtral, i fyny
gwerthuso gwanhâd yr wrthnaid: ysgwydd, boch, wyneb
gwerthuso’r llaw/gafael
gwerthuso proffil stoc
mesuriad cywir o nodweddion stoc gwn haels

Adolygu a gwerthuso amcanion gwers:
adborth llafar
bodloni amcanion gwers uwch


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarpar addas i’r rôl rhoi cyfarwyddyd/hyfforddi:
dillad
codwyr crib
esgid i’r carn
capiau clec
gwanhäwr gwrthnaid
plât patrwm
gynnau cynnig (dewisol)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa33

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Hyfforddwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

gwn haels; hyfforddiant; cyfarwyddyd; hyfforddiant