Rheoli mynediad carcasau helfilod bach i’r gadwyn fwyd ddynol

URN: LANGa31
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli mynediad carcasau helfilod bach i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol.

Mae’n berthnasol i gyflenwi carcasau helfilod mewn ffwr/mewn plu (y cyfeirir atynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel “cynnyrch sylfaenol helfilod gwyllt”) i sefydliad trin helfilod cymeradwy (AGHE) ac mae wedi cael ei ddatblygu er mwyn gallu ei gymhwyso i unrhyw helfilod bach sydd wedi eu saethu fel rhan o weithgareddau saethu.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
dilyn gweithdrefnau i sicrhau trin carcasau helfilod bach yn gywir
cynnal y cyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer storio a pharatoi carcasau helfilod bach
cefnogi hylendid wrth baratoi a storio carcasau helfilod bach.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a allai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. cadarnhau bod gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer trin, cludo, paratoi a storio carcasau helfilod bach yn lân
  3. cadarnhau bod cyfleusterau a chyfarpar yn cael eu cadw mewn cyflwr glân, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. archwilio carcasau helfilod bach am eu haddasrwydd i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  5. sicrhau mai dim ond carcasau sy’n bodloni gofynion cyfreithlon sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol
  6. cadarnhau bod trin, cludo, paratoi a storio carcasau helfilod bach yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  7. cadarnhau bod gwaredu gwastraff a charcasau anaddas yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  8. paratoi datganiadau sypiau carcasau yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  9. cadw cofnodion cywir o gynhyrchu helgig yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â pharatoi carcasau helfilod bach ar gyfer y gadwyn fwyd ddynol
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â rheoliadau hylendid bwyd cyfredol yn cynnwys egwyddorion olrheiniadwyedd a Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Hanfodol (HACCP) fel y maent yn berthnasol i gyflenwi carcasau helfilod bach i gael eu bwyta gan bobl
  3. y codau ymarfer perthnasol sy’n rheoli trin, cludo, storio a pharatoi carcasau helfilod bach
  4. y gofynion cludo a storio ar gyfer carcasau helfilod bach, yn cynnwys y gofynion ar gyfer oeri
  5. y ffordd y gall arferion trin anghywir niweidio helgig
  6. sut i archwilio carcasau helfilod bach
  7. y gofynion ansawdd ar gyfer carcasau helfilod bach sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, yn cynnwys lefelau derbyniol niwed i gnawd
  8. y prosesau a ddefnyddir gan ddelwyr helfilod ar gyfer cynnwys cig helfilod bach yn y gadwyn fwyd ddynol
  9. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu gwastraff a charcasau anaddas
  10. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli cadw cofnodion, labelu ac olrheiniadwyedd ar gyfer cig helfilod bach sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd
  11. y datganiad unigol gan y person sydd wedi ei hyfforddi i gyd-fynd â phob swp o garcasau i’r sefydliad trin helfilod cymeradwy (AGHE).  


Cwmpas/ystod


Archwilio carcasau helfilod i bennu:
niwed ergyd
cyflwr

Cadw cofnodion cywir o:
fanylion carcasau
manylion didol a difa


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Paratoi – y broses o wisgo carcasau cwningod ac ysgyfarnogod trwy dynnu’r pen, y traed, y perfedd a’r organau atgenhedlu, fel y bo’n briodol.

Cynnyrch sylfaenol helfilod gwyllt – helfilod mewn ffwr neu mewn plu sydd wedi cael dim mwy na’r paratoadau angenrheidiol sydd yn rhan o arferion hela arferol. (FSA, The Wild Game Guide Tach 2015).

Carcasau helfilod bach – adar hela, adar gwyllt, ceinachffurfiaid (cwningod ac ysgyfarnogod), mamaliaid tir eraill (e.e. gwiwerod llwyd)

Person wedi ei hyfforddi – rhywun sydd wedi cael hyfforddiant priodol wedi ei dderbyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa31

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helgig; carcasau; paratoi; cadwyn fwyd