Cyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela

URN: LANGa28
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela. Gellir ei chymhwyso i unrhyw wyau adar hela sydd yn cael eu deori ac yn deor o dan amodau wedi eu rheoli.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
cyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela
sefydlu a chynnal deori glân
cyfrannu at y broses ddeori/ddeor
cynnal cynhyrchiant cywion adar hela diwrnod oed.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela trwy weithredu’r rhaglen bridio adar hela er mwyn gallu cyflawni ei thargedau, yn unol â’r gofynion cyfreithiol cenedlaethol a'r codau ymarfer perthnasol
  2. cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  3. cynnal gweithrediadau cynhyrchu o fewn argaeledd hysbys yr adnoddau ac yn unol â gofynion lles
  4. gweithredu gweithrediadau’r ddeorfa i gyflawni’r cynhyrchiant angenrheidiol, yn unol â’r gofynion cyfreithiol cenedlaethol, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
  5. gweithredu mesurau i fonitro a chynnal diogelwch a diogeledd y ddeorfa
  6. gweithredu mesurau i reoli plâu ac ysglyfaethwyr
  7. profi a sefydlu lefelau glendid ac amodau gwaith cyfarpar deorfa
  8. pennu a chymharu ffrwythlondeb mewn wyau adar hela
  9. dilyn gweithdrefnau wedi eu sefydlu i leihau effaith ffactorau sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu cywion adar hela
  10. cadarnhau bod wyau adar hela’n cael eu dethol a’u paratoi yn unol â’r cynhyrchiant a gynlluniwyd gan y ddeorfa
  11. rheoli gweithrediad cyfarpar deori a deor i gynnal y tymheredd a'r lleithder sydd yn hanfodol i gynhyrchu cywion adar hela
  12. cynnal cynhyrchiant cywion adar hela o fewn y cyfyngiadau adnoddau hysbys ac yn unol â’r gofynion lles perthnasol
  13. cadarnhau bod lles cywion adar hela yn cael ei gynnal wrth ddeor, rhoi mewn bocsys a’u cludo
  14. parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig i hwyluso cynhyrchiant effeithiol y ddeorfa
  15. cadarnhau bod cofnodion cywir cynhyrchu cywion adar hela yn cael eu cynnal, fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y cyfyngiadau cyfreithiol cenedlaethol a’r codau ymarfer perthnasol sy’n rheoli cynhyrchiant deorfa
  2. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â deori wyau adar hela
  3. sut i weithredu rhaglen cynhyrchu adar hela i gyflawni'r targedau sydd wedi eu cynllunio
  4. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a chynnal diogelwch a diogeledd y ddeorfa
  5. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a rheoli presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr
  6. sut i sefydlu a chynnal cyflwr glân y cyfarpar deori
  7. y problemau sydd yn gysylltiedig â hylendid gwael deorfa
  8. sut i brofi a sefydlu amodau gwaith cyfarpar deorfa
  9. sut i fonitro a rheoli tymheredd a lleithder cyfarpar deori
  10. gweithdrefnau gweithredu’r cynhyrchydd, yn cynnwys systemau wrth gefn mewn argyfwng, sydd yn gysylltiedig â’r cyfarpar deori, yn ogystal â’r cyfnod inswleiddio
  11. yr amodau a’r amser sydd yn angenrheidiol ar gyfer deori a deor llwyddiannus
  12. sut i leihau’r effaith bosibl ffactorau sydd yn gallu amharu ar gynhyrchiant cywion adar hela
  13. y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol yn ymwneud â chynhyrchu, cludo a lles cywion adar hela sydd wedi eu magu
  14. y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio cofnodion


Cwmpas/ystod


Sefydlu cyflwr cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer:
deori
deor

Cynnal system gofnodi er mwyn cofnodi:
ffrwythlondeb
canran yr wyau ffrwythlon sydd yn deor
canran deor cyffredinol
niferoedd sydd yn cael eu deori

Gweithredu gweithrediadau deorfa yn ymwneud â:
pharatoi wyau
deori wyau
deor wyau
lladd cywion sydd wedi eu hanffurfio
rhoi cywion diwrnod oed mewn bocsys

Dilyn gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â phedwar o’r ffactorau canlynol sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu:
methiant deori
newidiadau mewn amodau amgylcheddol
prinder adnoddau
clefydau ac annormalrwydd
gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
difrodi


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Deori – y broses a ddefnyddir i gefnogi datblygiad cywion y tu mewn i’r ŵy

Deor – y broses a ddefnyddir i gefnogi deor cywion o’r ŵy

Helfilod – ffesantod, petris, hwyaid

Adnoddau – pobl, deunyddiau, porthiant a dŵr, cyfarpar, pŵer, amser


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa28

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

aderyn hela; wyau; deori; cywion; deorfa