Cyfrannu at ddatblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt

URN: LANGa24
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer ceirw gwyllt mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.

Mae ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a rheoli ceirw gwyllt a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
pennu gofynion rheoli ceirw gwyllt
awgrymu opsiynau ar gyfer rheoli ceirw gwyllt
cyfrannu at ddatblygiad cynllun rheoli ceirw gwyllt
trafod cynllun rheoli ceirw gwyllt gyda’r bobl berthnasol

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. dadansoddi cofnodion blynyddoedd chwaraeon blaenorol i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau blaenorol a nodi cyfleoedd datblygu
  2. dadansoddi defnydd blaenorol o adnoddau i bennu eu heffeithlonrwydd
  3. asesu effaith ceirw ar y cynefin
  4. cyfrannu at ddatblygiad cynllun rheoli ceirw gwyllt
  5. awgrymu targedau a syniadau ar gyfer cynnal a gwella opsiynau rheoli ceirw yn y dyfodol yn seiliedig ar eich dadansoddiad
  6. nodi buddion y cynllun rheoli ceirw gwyllt i gadwraeth bywyd gwyllt a chynefin
  7. trafod gofynion y cynllun rheoli ceirw gwyllt, a’i weithredu, gyda’r bobl berthnasol
  8. cytuno ar ddulliau ar gyfer monitro’r cynllun rheoli ceirw gwyllt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodweddion a chyfyngiadau’r ardal o dir lle mae’r cynllun rheoli ceirw gwyllt yn berthnasol
  2. gofynion cynllunio hirdymor a thymor byr
  3. sut i ddadansoddi cofnodion i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau rheoli ceirw blaenorol
  4. pwysigrwydd cofnodion saethu yn pennu gwir botensial chwaraeon
  5. egwyddorion rheoli ceirw gwyllt
  6. y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cenedlaethol perthnasol sy’n rheoli rheolaeth ceirw gwyllt
  7. y ffordd y gellir defnyddio rheoli cynefin a bywyd gwyllt i ddatblygu potensial cynllun rheoli ceirw gwyllt
  8. effaith gweithgareddau rheoli ceirw ar ddefnydd arall o’r tir
  9. y ffordd y gall ceirw effeithio ar gynefinoedd gwahanol a'r technegau a ddefnyddir i asesu eu heffaith
  10. gyda phwy sydd angen ymgynghori ar y cynllun rheoli ceirw gwyllt arfaethedig a'r camau i’w cymryd os na ellir dod i gytundeb
  11. sut i gyflwyno syniadau mewn ffordd sydd yn hybu dealltwriaeth
  12. y gofynion diogelwch sydd yn gysylltiedig â rheoli ceirw


Cwmpas/ystod


Awgrymu targedau a syniadau ar gyfer datblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt yn cwmpasu:
y tymor byr
yr hirdymor


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Adnoddau:
 • pobl
• deunyddiau
• cyfarpar
• cyllid

Adnoddau:
• cofnodion didol a difa
• cofnodion amgylcheddol
• potsio


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa24

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

ceirw; rheoli; cynllunio