Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt

URN: LANGa23
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddatblygu a gweithredu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw boblogaeth o helfilod mewn unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt. 

Gellir disgrifio rheoli bywyd gwyllt fel ymyrraeth wedi ei thargedu i newid poblogaeth, strwythur neu ddosbarthiad rhywogaethau gwyllt. Gall gynnwys eu cadwraeth, eu hailgyflwyno neu eu trawsleoli, diogelu eu hiechyd a’u lles neu eu didol a’u difa i reoli eu niferoedd a’u heffaith ar gynefinoedd neu rywogaethau eraill.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gwaith sydd yn gwarchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod. 

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
cyfrannu at ddatblygiad cynlluniau rheoli helfilod a bywyd gwyllt
cyfrannu at weithredu cynlluniau rheoli helfilod a bywyd gwyllt
goruchwylio gweithgareddau sydd â’r nod o gynnal helfilod gwyllt.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau bod y gweithgaredd yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. cynnal asesiad cywir o nodweddion poblogaeth helfilod gwyllt
  3. sefydlu potensial yr ardal rheoli bywyd gwyllt i gefnogi poblogaethau helfilod gwyllt 
  4. datblygu dealltwriaeth glir o’r holl ddylanwadau hysbys a allai effeithio ar reoli poblogaethau helfilod gwyllt
  5. cyfrannu at ddatblygiad cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt i gynyddu potensial saethu cynaliadwy poblogaethau helfilod gwyllt yn yr hirdymor
  6. cadarnhau bod y cynllun yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer cenedlaethol perthnasol
  7. cael adborth ar y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt arfaethedig a thrafod hyn gyda’r rheolwr saethu
  8. cyfrannu at weithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt i gyflawni’r amcanion a gynlluniwyd
  9. cyfrannu at gynnal y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, o fewn cyfyngiadau adnoddau a gofynion sefydliadol hysbys
  10. cadarnhau mai nod y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yw gwarchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i, a lleddfu effeithiau newid hinsawdd
  11. gweithredu i gywiro unrhyw wyriadau o’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  12. parhau i gyfathrebu gyda’r bobl berthnasol i hwyluso rheoli poblogaethau helfilod gwyllt yn effeithiol
  13. cadw cofnodion rheoli cywir yn ymwneud â rheoli poblogaethau helfilod gwyllt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â rheoli poblogaethau helfilod gwyllt
  2. y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cenedlaethol perthnasol yn ymwneud â rheoli poblogaethau helfilod gwyllt
  3. beth yw’r potensial chwaraeon a sut gellir cyflawni potensial chwaraeon hirdymor cynaliadwy
  4. yr hanes o helfilod gwyllt sy’n berthnasol i’r ardal rheoli bywyd gwyllt, a phwysigrwydd hyn i ddatblygu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  5. gyda phwy sydd angen ymgynghori am y cynllun arfaethedig a'r camau i’w cymryd os na ellir dod i gytundeb
  6. sut i asesu nodweddion stoc helfilod gwyllt 
  7. gofynion cynefin helfilod gwyllt, a sut i asesu cynefin helfilod am ei botensial i gadw helfilod
  8. y dulliau arolygu a ddefnyddir i fonitro poblogaethau helfilod gwyllt
  9. y dulliau a ddefnyddir i bennu strwythur poblogaeth a goblygiadau strwythur poblogaeth ar botensial chwaraeon
  10. clefydau cyffredin helfilod, achosion posibl heintio a dulliau atal a rheoli
  11. y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoleiddio lles anifeiliaid, bioddiogelwch, rheoli clefydau a rheoli plâu
  12. y dulliau o reoli poblogaethau helfilod gwyllt a sut mae’r rhain yn amrywio trwy gydol y flwyddyn galendr
  13. y ffordd y gall adnoddau ategol gael eu defnyddio i gefnogi poblogaethau helfilod gwyllt
  14. y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol ar ddyrannu adnoddau ychwanegol
  15. ble gellir defnyddio meddyginiaeth i reoli iechyd helfilod a’r rheoliadau sydd yn rheoli hyn
  16. y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol mewn perthynas â monitro a rheoli plâu ac ysglyfaethwyr asgwrn cefn
  17. y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd
  18. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Asesu nodweddion poblogaeth helfilod o ran:
maint a strwythur
dosbarthiad
rhyngweithio gyda bywyd gwyllt a chynefin

Datblygu dealltwriaeth glir o dri o’r dylanwadau canlynol ar helfilod gwyllt:
cynefin
gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
lles a maeth helfilod
clefydau
defnydd o dir
dylanwadau dynol

Cynnal y gweithgareddau rheoli canlynol:
monitro helfilod, bywyd gwyllt a chynefin
rheoli plâu ac ysglyfaethwyr
cymhwyso adnoddau ategol i gefnogi helfilod

Cynnal y defnydd o’r adnoddau canlynol, o fewn cyfyngiadau hysbys:
pobl
cyfarpar
deunydd
amser

Gweithredu yn ymwneud â thri o’r gwyriadau canlynol:
dirywiad cynefin
gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
diffygion maeth helfilod
clefydau
prinder adnoddau
dylanwadau dynol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyrff cynghori – er enghraifft: Ymddiriedolaeth Gwarchod Helfilod, BASC, ac ati

Gallai codau ymarfer gynnwys:
Cod Ymarfer Saethu Da
Canllawiau Arfer Gorau Menter Ceirw 
Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban

Cyfleusterau – ardaloedd o dir a chyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cymhwyso adnoddau

Helfilod – unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu yn digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Gwybodaeth reoli – gwybodaeth a gesglir i gefnogi gweithgareddau, er enghraifft:
cofnodion saethu
cofnodion helfilod
defnydd o adnoddau
data wedi ei gyhoeddi

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureSco
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Rheoli plâu
plaladdwyr
gwenwyn llygod
trapiau a maglau
saethu

Potensial saethu – helfilod sydd ar gael i gefnogi gweithgareddau saethu

Adnoddau – er enghraifft: bwyd, dŵr, lloches, meddyginiaeth, ac ati

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa23

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; bywyd gwyllt; rheoli; cynllun