Cyfrannu at ddatblygiad rhaglen saethu helfilod

URN: LANGa22
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddatblygiad rhaglen saethu helfilod. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw weithgaredd saethu helfilod sydd yn cael ei drefnu ar unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
pennu potensial yr ardal rheoli bywyd gwyllt
awgrymu opsiynau ar gyfer gwella ei photensial chwaraeon
cyfrannu at ddatblygiad rhaglen saethu helfilod 
trafod y rhaglen saethu helfilod gyda’r rheolwr saethu.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. dadansoddi cofnodion blynyddoedd chwaraeon blaenorol i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau blaenorol ac amlygu potensial i’r dyfodol
  2. dadansoddi cofnodion defnydd blaenorol o adnoddau i bennu eu heffeithlonrwydd
  3. asesu opsiynau ac amlinellu argymhellion ar gyfer gallu chwaraeon yr ardal rheoli bywyd gwyllt i’r dyfodol
  4. awgrymu targedau a syniadau ar gyfer cynnal a gwella potensial chwaraeon i’r dyfodol, yn seiliedig ar eich dadansoddiad
  5. cyfrannu at ddatblygu a sefydlu rhaglen saethu helfilod
  6. nodi buddion y rhaglen saethu helfilod i gadwraeth bywyd gwyllt a chynefin
  7. trafod a chytuno ar ofynion y rhaglen saethu helfilod, a’i weithredu, gyda’r rheolwr saethu
  8. cytuno ar y mecanweithiau ar gyfer monitro’r rhaglen saethu helfilod


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodweddion a chyfyngiadau’r ardal rheoli bywyd gwyllt
  2. gofynion cynllunio hirdymor a thymor byr
  3. sut i ddadansoddi cofnodion i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau blaenorol
  4. pwysigrwydd cofnodion saethu yn pennu gwir botensial chwaraeon
  5. egwyddorion rheoli helfilod
  6. y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli rheolaeth helfilod
  7. sut i fanteisio i’r eithaf ar y gallu chwaraeon a geir o helfilod gwyllt a mudol
  8. sut i annog presenoldeb helfilod gwyllt a mudol
  9. y ffordd y gellir defnyddio rheoli cynefin a bywyd gwyllt i ddatblygu potensial ardal rheoli bywyd gwyllt
  10. effaith gweithgareddau chwaraeon ar weithgareddau eraill yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  11. cyd-destun y rhaglen saethu helfilod
  12. sut i gyflwyno eich syniadau mewn ffordd sydd yn hybu dealltwriaeth
  13. y ffordd y gellir monitro rhaglen saethu helfilod


Cwmpas/ystod


Amlinellu gallu chwaraeon yn y dyfodol yn ymwneud ag un o’r canlynol:
helfilod gwyllt
helfilod wedi eu magu
helfilod mudol
ceirw

Awgrymu targedau a syniadau yn cwmpasu naill ai rheoli helfilod neu reoli cynefin ar gyfer:
y tymor byr
yr hirdymor


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod – unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu yn digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Rhaglen saethu helfilod:
Gweithgareddau saethu wedi eu cynllunio yn cwmpasu tymor saethu

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Adnoddau:
pobl
deunyddiau
cyfarpar
cyllid

Cofnodion:
ffurflenni chwaraeon
cofnodion poblogaeth helfilod
cofnodion plâu ac ysglyfaethwyr
cofnodion amgylcheddol
•   potsio

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa22

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

rhaglen saethu; helfilod; ceirw; ffesantod; grugieir