Cefnogi gweithgareddau saethu helfilod

URN: LANGa2
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi gweithgareddau saethu helfilod. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i gefnogi diwrnodau saethu mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y diwrnod saethu, ymdrin â charcasau a dychwelyd yr ardal saethu i’r cyflwr gofynnol.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod. 

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
cynorthwyo gyda gweithgareddau sy’n hanfodol i gynnal y diwrnod saethu, gan weithio yn unol â’r rhaglen saethu helfilod a gynlluniwyd
gorffen gwaith yn ymwneud â chyfarpar, cyfleusterau a’r ardal saethu
cludo, didoli a storio carcasau helfilod.

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol wrth wneud y gweithgaredd hwn.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon, a’r gweithgareddau, yn llawn, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Ewch i’r Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyflawni’r holl weithgareddau yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. cefnogi gweithgareddau saethu helfilod trwy gyflawni amrywiaeth o weithgareddau yn effeithiol, er mwyn cyflawni gofynion y rhaglen saethu helfilod
  3. cynnal diogelwch cyfranogwyr, staff a’r cyhoedd trwy gydymffurfio â’r rhaglen saethu helfilod a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. cyfathrebu gofynion diogelwch saethu yn effeithiol i bawb sydd yn gysylltiedig â'r diwrnod saethu
  5. cynorthwyo’r cyfranogwyr a’r cydweithwyr gyda gynnau 
  6. monitro symudiadau helfilod, addasu gweithgareddau yn unol â hynny ac adrodd ar symudiadau wrth y person priodol
  7. arsylwi helfilod gwyllt i bennu a yw eu cyflwr yn addas i bobl eu bwyta
  8. canfod, mynd at a lladd helfilod wedi eu hanafu yn ddyngarol
  9. ymdrin a chludo carcasau helfilod mewn ffordd sydd yn cadw eu hansawdd a'u gwerth yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  10. cynorthwyo gyda’r gwaith o archwilio carcasau helfilod i gadarnhau a yw eu cyflwr yn addas i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol, ac adrodd ar unrhyw annormaleddau wrth y person priodol 
  11. didoli carcasau helfilod yn gywir yn ôl rhywogaeth, oed a rhyw, fel y bo’n briodol
  12. storio carcasau helfilod yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  13. dychwelyd yr ardal saethu i’w chyflwr cyn y saethu
  14. gwaredu gwastraff yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  15. glanhau, cludo a storio cyfarpar a chymhorthion chwaraeon ar ôl eu defnyddio
  16. cadw cofnodion cywir yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chefnogi gweithgareddau saethu
  2. y gofynion cyfreithiol perthnasol (yn cynnwys y rheiny sy’n benodol i wlad) sydd yn rheoli’r gweithgareddau saethu helfilod
  3. egwyddorion ymdrin â gynnau yn ddiogel
  4. y gweithgareddau gwahanol sydd yn helpu i hwyluso’r diwrnod saethu
  5. sut i adnabod ymddygiad arferol a chyflwr helfilod bach a'r arwyddion eu bod yn dangos salwch
  6. y clefydau sy’n gyffredin i helfilod bach yn cynnwys rhai sydd yn hysbysadwy
  7. symudiadau disgwyliedig yr helfilod, gwyriadau posibl a’r camau angenrheidiol i gywiro gwyriadau
  8. sut i ladd rhywogaethau gwahanol o helfilod yn ddyngarol
  9. y technegau cywir i’w defnyddio i ymdrin, cludo a storio carcasau helfilod, a sut gall arferion ymdrin anghywir niweidio a halogi helgig
  10. y gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer sy’n rheoli ymdrin, cludo a storio carcasau helfilod
  11. achosion posibl halogi sydd yn gallu effeithio ar ansawdd helgig, yn cynnwys y ffactorau sydd yn gallu effeithio ar iechyd dynol ar ôl eu bwyta
  12. sut i archwilio carcasau helfilod a'r camau i’w cymryd os caiff annormaleddau carcasau eu nodi
  13. gofynion paratoi helfilod sydd wedi eu saethu er mwyn iddynt fod yn addas i bobl eu bwyta
  14. y prosesau a ddefnyddir gan ddelwyr helfilod i roi helgig i mewn i’r gadwyn fwyd
  15. y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli cadw cofnodion, labelu ac olrheiniadwyedd helgig sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd
  16. pam y mae angen dychwelyd yr ardal saethu i’w chyflwr cyn saethu
  17. sut i lanhau ac archwilio arfau tanio’n ofalus 


Cwmpas/ystod


Cwblhau dau o’r gweithgareddau canlynol ar ddiwrnod saethu:
defnyddio cŵn i wthio helfilod i mewn i’r canol
curo
atal
codi
cludo helfilod marw
‘sewelling’
fflagio
arwain

Pennu cyflwr helfilod byw trwy arsylwi:
ymddygiad
cyflwr corfforol

Gwahanu carcasau sydd yn cyflwyno risg posibl o ganlyniad i:
ymddygiad annormal
cyflwr corfforol gwael

Archwilio helfilod am:
niwed saethu
cyflwr corfforol
halogiad amgylcheddol

Dychwelyd yr ardal saethu i’w chyflwr cyn saethu:
casglu cyfarpar
gwaredu gweiniau arfau wedi eu defnyddio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gweithgareddau saethu – unrhyw chwaraeon maes cyfreithiol perthnasol sydd yn cynnwys hela helfilod gydag arf tanio

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod

Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu

Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Cymhorthion a chyfarpar chwaraeon:
baneri
ffyn
‘sewelling’
cyfarpar cyfathrebu 
sbienddrych
arfau tanio


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa2

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; saethu; curo; codi