Cyfrannu at weithredu gweithgareddau saethu helfilod

URN: LANGa19
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at weithredu gweithgareddau saethu helfilod. Mae’n ymdrin â’r cymhwysedd sydd yn angenrheidiol gan unigolion sydd yn trefnu ac yn gweithredu rhaglenni saethu.

Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw weithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu trefnu ar unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod. Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.

I fodloni’r safon hon byddwch yng gallu:
trefnu diwrnodau saethu unigol
rheoli diwrnodau saethu unigol.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. cael y fanyleb saethu helfilod a chytuno ar weithredu’r rhaglen saethu helfilod gyda’r tîm sy’n rheoli saethu
  3. cadarnhau bod y gweithgareddau saethu helfilod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  4. cyfrannu at ddatblygu cynlluniau wrth gefn i ymdrin yn effeithiol â ffactorau a allai effeithio ar y rhaglen saethu helfilod
  5. cyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â, neu wedi eu heffeithio gan, y gweithgareddau saethu helfilod mewn da bryd, cyn y digwyddiad
  6. cyfrannu at y sefydliad a dyrannu adnoddau yn effeithiol i gynorthwyo’r rhaglen saethu helfilod a gynlluniwyd
  7. cyfrannu at sefydlu trefniadau i ymdrin a gwaredu helfilod marw
  8. cyfrannu at weithredu gweithgareddau diwrnod saethu er mwyn gwneud y gorau o’r topograffeg a'r cynefin naturiol wrth gyflwyno’r helfilod i’r cyfranogwyr
  9. cyfathrebu gofynion diogelwch saethu yn effeithiol i bawb sydd yn gysylltiedig â’r diwrnod saethu
  10. sicrhau bodlonrwydd saethwyr trwy gyfathrebu’n dda, a nodi ac ymateb i anghenion cyfranogwyr saethu helfilod
  11. cyfrannu at weithredu gweithgareddau er mwyn gallu cyflawni’r canlyniad a fwriadwyd wrth saethu helfilod mewn ffordd sydd yn cynnal diogelwch yr holl gyfranogwyr
  12. ymdrin ag unrhyw ffactorau sy’n effeithio ar y gweithgaredd saethu helfilod i leihau eu heffaith ar y rhaglen saethu helfilod
  13. monitro symudiad helfilod ac addasu’r rhaglen saethu yn unol â hynny 
  14. arsylwi helfilod gwyllt i bennu a yw eu cyflwr yn addas ar gyfer eu bwyta gan bobl 
  15. sicrhau bod helfilod wedi eu hanafu’n cael eu lladd yn ddyngarol
  16. sicrhau bod carcasau helfilod yn cael eu trin a’u storio i gynnal eu hansawdd a'u gwerth, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
  17. archwilio carcasau helfilod i gadarnhau bod eu cyflwr yn addas ar gyfer mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol, a chymryd y camau priodol pan fydd carcasau’n cyflwyno risg i iechyd dynol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  18. sicrhau bod gweithgareddau saethu’n dod i ben er mwyn i’r ardal saethu gael ei dychwelyd i’w chyflwr cyn y saethu
  19. cadw cofnodion cywir yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gweithredu gweithgareddau saethu helfilod
  2. y gofynion cyfreithiol perthnasol (cenedlaethol ac is-ddeddfau lleol) yn ymwneud â’r gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio
  3. pwysigrwydd hysbysu’r holl bobl berthnasol am y gweithgaredd saethu helfilod
  4. nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys manylion am ffyrdd eraill y mae’r ardal yn cael eu defnyddio gan bobl eraill
  5. y ffordd y caiff nodweddion topograffeg a chynefin yr ardal eu defnyddio i gynyddu potensial chwaraeon
  6. poblogaeth yr helfilod sydd ar gael yn yr ardal
  7. nodweddion ymddygiad rhywogaethau gwahanol o helfilod a’r ffordd y caiff y rhain eu defnyddio i ddarparu cyfleoedd chwaraeon i saethwyr
  8. y gofynion o ran adnoddau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio
  9. gofynion chwaraeon cyfranogwyr mewn gweithgareddau saethu helfilod
  10. gwerth sgiliau cyfathrebu da i ddiogelwch a threfniadaeth saethu
  11. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli storio, cludo a chario arfau tanio ac arfau
  12. y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth a’r defnydd o arfau tanio
  13. egwyddorion ymdrin â gynnau’n ddiogel
  14. sut i reoli gweithgareddau saethu helfilod i gynyddu potensial chwaraeon
  15. sut i bennu pryd mae ymddygiad a chyflwr helfilod yn nodi nad ydynt yn addas ar gyfer eu bwyta gan bobl 
  16. y camau i’w cymryd pan fydd amheuaeth o glefydau hysbysadwy mewn helfilod 
  17. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli paratoi a storio/dal helfilod a’r ffordd y gall newidiadau i’r amgylchedd paratoi a storio effeithio ar y cynnyrch
  18. sut i archwilio carcasau helfilod a’r camau i’w cymryd os caiff annormaleddau carcasau eu nodi
  19. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu helfilod marw a’r rhesymau dros gydymffurfio â’r rhain
  20. y sail gyfreithiol ar gyfer eich presenoldeb cyfreithlon ar y tir er mwyn cynnal y gweithgaredd saethu helfilod
  21. y rhesymau dros gadw cofnodion a phwysigrwydd eu cywirdeb


Cwmpas/ystod


Datblygu cynlluniau wrth gefn i ymdrin â dau o’r ffactorau canlynol:
amodau amgylcheddol gwahanol
ymddygiad annisgwyl helfilod
dylanwadau dynol
prinder adnoddau

Hysbysu’r bobl ganlynol am weithgareddau saethu:
cyfranogwyr yn y gweithgaredd saethu
perchnogion tir cyfagos
y rheolwr saethu neu’r ystâd
defnyddwyr eraill y tir

Trefnu o leiaf dau o’r gweithgareddau canlynol:
curo
• atal
codi
ymdrin â helfilod marw
‘sewelling’
fflagio
dilyn
llwytho

Trefnu’r adnoddau canlynol:
helfilod sydd ar gael
pobl
trafnidiaeth
cyfarpar
cyllid

Cynllunio gweithgareddau saethu i gynnwys:
nifer y diwrnodau a gynlluniwyd
niferoedd angenrheidiol o ysglyfaeth
ardaloedd saethu a fwriedir 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod – unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu yn digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Gweithgareddau saethu helfilod
trefn yr ardal saethu
paratoi cyfarpar a deunyddiau
cyswllt a threfniant gyda saethwyr 
y trefniant o guro, fflagio, atal, codi, ymdrin a storio helfilod marw

Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa19

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

gweithgareddau saethu; helfilod