Llech-hela a didol a difa ceirw

URN: LANGa17
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â llech-hela a didol a difa ceirw. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i reoli poblogaethau ceirw gan ddefnyddio arf tanio.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n rheoli poblogaethau ceirw gan ddefnyddio arfau tanio, naill ai mewn rhinwedd proffesiynol neu hamdden.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
paratoi ar gyfer llech-hela
nodi ceirw unigol a grwpiau o geirw
mynd at geirw ac yn ddigon agos i sicrhau lladd yn ddyngarol
saethu ceirw
lleoli’r carw sydd wedi ei saethu a sicrhau bod yr anifail wedi marw
cadarnhau bod y carw sydd wedi ei saethu yn bodloni gofynion didol a difa.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer y gweithgaredd
  3. cyn llech-hela, nodi’r rhywogaeth, rhyw, dosbarth oed a chyflwr anifeiliaid fydd yn bodloni gofynion y didol a difa ar yr achlysur hwn
  4. dewis, cludo a pharatoi arfau tanio ac arfau i fodloni gofynion y didol a difa a gynlluniwyd, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer arfau tanio cenedlaethol presennol
  5. dewis, paratoi a defnyddio’r offer a’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau didol a difa, yn ddiogel ac yn effeithiol
  6. anelu arf tanio am gywirdeb
  7. arddangos cywirdeb wrth ddefnyddio’r arf tanio o safleoedd tanio priodol
  8. dewis carw unigol i fodloni’r gofynion didol a difa a gwneud asesiad yn unol â gofynion heliwr wedi hyfforddi
  9. llech-hela carw ar bellter lle gellir cymryd ergyd ddiogel, effeithiol, ddyngarod a glân, gan ystyried nodweddion y lleoliad
  10. ymdrin â’r arf tanio yn ddiogel ac yn effeithiol bob amser, yn unol â’r codau ymarfer perthnasol
  11. saethu ceirw yn ddiogel, yn ddyngarol ac yn lân yn unol â nodweddion y lleoliad a'r gofynion cyfreithiol, gan ddefnyddio cymhorthion saethu lle bo angen
  12. arsylwi ymateb y carw i’r ergyd i bennu ei gyflwr
  13. mynd at y carw yn ddiogel yn unol â’r cyflwr yr honnir y mae ynddo
  14. lleoli a chadarnhau cyflwr y carw sydd wedi ei saethu
  15. lladd y carw sydd wedi ei anafu yn ddyngarol 
  16. cadarnhau statws y carw yn erbyn gofynion didol a difa
  17. glanhau, cynnal a chadw a storio arfau tanio ac arfau yn ddiogel ar ôl eu defnyddio, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
  18. cadw cofnodion yn unol â’r gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y ddeddfwriaeth bywyd gwyllt ac amgylcheddol berthnasol sy’n effeithio ar ddidol a difa ceirw
  2. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â llech-hela a didol a difa ceirw, yn cynnwys y peryglon sydd yn gysylltiedig â gweithio unigol
  3. y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  4. y rhesymau dros ddidol a difa ceirw fel rhan o reoli ceirw
  5. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli perchnogaeth a’r defnydd o arfau tanio
  6. y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli storio, cludo a chario arfau tanio
  7. y gofynion cyfreithiol cenedlaethol a’r codau ymarfer ar gyfer dewis arfau
  8. y gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer ar gyfer llech-hela a didol a difa rhywogaethau gwahanol o geirw
  9. y cylch bywyd a deinameg poblogaeth penodol, yn cynnwys deinameg grwpiau teulu rhywogaethau gwahanol o geirw
  10. y ffordd y mae rhywogaethau ceirw’n cael eu hadnabod a’u dosbarthu o ran oed, rhyw a chyflwr
  11. anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad arferol ceirw, yn cynnwys arwyddion sydd yn dangos salwch
  12. clefydau cyffredin ceirw yn cynnwys y rheiny sydd yn hysbysadwy
  13. y gofynion cynefin ar gyfer rhywogaethau gwahanol o geirw
  14. halogiad carcasau posibl o achsion amgylcheddol sydd yn gallu effeithio ar ansawdd yr helgig, yn cynnwys ffactorau sydd yn gallu effeithio ar iechyd dynol ar ôl eu bwyta
  15. y ffordd y gall nodweddion y lleoliad, yr amser o’r dydd a’r tywydd effeithio ar lech-hela a didol a difa ceirw
  16. sut i ddefnyddio cynefin a thir i gynorthwyo llech-hela
  17. yr arfau tanio gwahanol y gellir eu defnyddio wrth ddidol a difa
  18. sut i ddewis yr arfau cywir a beth ddylid ei ystyried
  19. pam y mae’n bwysig anelu reifflau
  20. yr heldir gofynnol a lleoliad y bwled fydd yn sicrhau lladd diogel a dyngarol
  21. y dulliau o leoli a llech-hela ceirw a sut i ddewis y carw unigol i gael ei ddidol a’i ddifa
  22. y defnydd o gadeiriau uchel fel ategiad i lech-hela, yn cynnwys sut i ddringo’n ofalus ac yn ddiogel i’r seddi hyn
  23. sut i wneud ergyd ddiogel, ddyngarol a glân ar dir gwahanol a’r ffordd y gellir defnyddio atgyfnerthwyr i gynorthwyo gyda chywirdeb saethu
  24. sut i leoli ceirw wedi eu saethu a’r cymhorthion y gellir eu defnyddio, yn cynnwys pryd mae’n briodol i ddefnyddio cŵn
  25. ymateb y carw i gael ei saethu yn rhannau gwahanol o’r corff a sut i fynd at garw sydd wedi ei saethu
  26. yr arwyddion sydd yn dangos ergyd
  27. sut i gadarnhau cyflwr carw sydd wedi ei saethu
  28. y dulliau a ddefnyddir i ladd carw wedi ei anafu yn ddyngarol
  29. sut i lanhau, archwilio a chynnal a chadw reifflau a pham y mae hyn yn bwysig
  30. y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau cofnodion


Cwmpas/ystod


Llech-hela a didol a difa ceirw:
Unrhyw un o’r chwe rhywogaeth o garw gwyllt:  
coch 
brith
sica
ewig
Carw’r Dŵr Tsieineaidd
muntjac
eu cymysgrywiau neu rywogaethau sydd yn perthyn yn agos/is-rywiau yn y gwyllt
gellir ddefnyddio unrhyw ddull o saethu i ddidol a difa ceirw
gellir defnyddio unrhyw gyfarpar cyfreithiol i gynorthwyo gyda llech-hela a didol a difa

Lleoli, mynd at a saethu ceirw mewn lleoliadau sydd yn cynnwys un o’r nodweddion canlynol:
coediog
agored
gwastad
pantiog
bryniog
mynyddig

Lleoli ceirw i gael eu didol a’u difa gan ddefnyddio:
cymhorthion gweledol
delweddau thermol
offer gweld yn y nos
synhwyrau
gwybodaeth leol
adroddiadau o’u gweld

Lleoli ceirw wedi eu saethu gan ddefnyddio:
cymhorthion gweledol
delweddau thermol
arwyddion
cŵn

Cadarnhau cyflwr canlynol ceirw wedi eu saethu:
wedi eu hanafu
marw


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Llech-hela – lleoli a mynd atynt

Didol a difa – dewis a lladd anifeiliaid gormodol yn unol â'r cynllun didol a difa 
 
Anelu – addasu arf tanio am gywirdeb 

Lladd glân – lleoliadau saethu a llwybrau bwledi sydd yn lladd ac yn osgoi halogiad o gynnwys y perfedd

Lladd dyngarol – lladd tosturiol sydd yn achosi cyn lleied o straen a phoen â phosibl  

Nodweddion lleoliad:
topograffeg
cynefin
gweithgaredd arall yn yr ardal
mynediad cyhoeddus

Ergyd – y dystiolaeth sydd ar ôl lle’r oedd yn carw’n sefyll, pan gafodd ei saethu

Offer a chyfarpar:
sbienddrych a sbotwyr, yn cynnwys offer thermol a gweld yn y nos
cwmpas reifflau, yn cynnwys offer thermol a gweld yn y nos
cyfarpar diogelwch personol
cyllell
cyfarpar cyfathrebu
cymwysiadau meddalwedd ar gyfer cofnodi/hysbysu am weld


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa17

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Llech-heliwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

ceirw; llech-hela; didol a difa; saethu; reiffl