Cefnogi magu cywion adar hela ac adar hela ifanc

URN: LANGa15
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi magu cywion adar hela ac adar hela ifanc. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i ofalu am gywion adar hela ac adar hela ifanc yn ystod cyfnod cynnar eu bywyd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes gwarchod helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod sydd yn gysylltiedig â magu cywion adar hela ac adar hela ifanc.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
ymdrin â chywion adar hela
sefydlu cywion adar hela yn ddiogel mewn uned fagu
gofalu am gywion adar hela ac adar hela ifanc
cynnal lles adar hela ifanc.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. ifanc yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. paratoi’r uned fagu fel ei bod mewn cyflwr glân a diogel yn barod i dderbyn cywion adar hela
  3. paratoi’r cyfarpar magu i ddarparu’r amodau amgylcheddol sydd yn angenrheidiol ar gyfer cywion adar hela
  4. cefnogi magu cywion adar hela trwy eu sefydlu’n ddiogel yn yr uned fagu
  5. ymdrin â chywion adar hela mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles ac yn cynyddu eu siawns o oroesi
  6. darparu porthiant a dŵr sy’n briodol i oed a chyfnod datblygiad y cywion adar hela
  7. arsylwi ymddygiad cywion adar hela sydd yn newydd i’r stoc ac adrodd am unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
  8. monitro twf a datblygiad cywion adar hela i bennu pryd y dylent gael eu symud i’r ardal fagu
  9. cefnogi magu adar hela ifanc trwy gadw’r ardal fagu mewn cyflwr glân a diogel er mwyn darparu’r amodau amgylcheddol angenrheidiol
  10. monitro a chynnal swyddogaeth cyfarpar magu i gynyddu siawns y cywion adar hela o oroesi
  11. darparu porthiant a dŵr sydd yn addas i anghenion datblygiad yr adar hela ifanc
  12. arsylwi ymddygiad yr adar hela ifanc ac adrodd am unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
  13. gwaredu gwastraff a marwolaethau yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol 
  14. cadw cofnodion cywir fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol  


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â magu cywion adar hela ac adar hela ifanc
  2. gofynion yr uned fagu a’r ardal fagu sydd yn cynnal cyflwr a siawns cywion adar hela ac adar hela ifanc o oroesi
  3. pwysigrwydd cynnal diogelwch a diogeledd yr uned fagu a'r ardal fagu
  4. sut i ddiogelu cywion adar hela ac adar hela ifanc rhag plâu ac ysglyfaethwyr
  5. sut i baratoi a chynnal unedau magu ac ardaloedd magu
  6. yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol gan gywion adar hela a chan adar hela ifanc, a phwysigrwydd cynnal yr amodau hyn
  7. sut i gynnal yr amodau amgylcheddol, gan ystyried tywydd cyffredin
  8. nodweddion ymddygiad arferol a’r arwyddion sydd yn dangos straen ac anhwylder mewn cywion adar hela ac adar hela ifanc
  9. y gofynion lles ar gyfer cyfnodau gwahanol o ddatblygiad cywion adar hela ac adar hela ifanc
  10. yr anhwylderau cyffredin sydd yn gysylltiedig â chywion adar hela ac adar hela ifanc a sut i ymdrin â nhw
  11. achosion tebygol marwolaethau mewn cywion adar hela ac adar hela ifanc
  12. sut i ymdrin â chywion adar hela ac adar hela ifanc mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles
  13. y gofynion porthiant a dŵr ar gyfer cyfnodau datblygiad gwahanol cywion adar hela ac adar hela ifanc
  14. sut i galedu adar hela ifanc
  15. sut i atal pigo plu
  16. sut a phryd i ffrwyno adar hela
  17. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli cludo adar hela
  18. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu marwolaethau a gwastraff
  19. y ddeddfwriaeth, codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Adar hela – ffesantod, petris, hwyaid

Amodau amgylcheddol:
tymheredd
hylendid


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa15

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

adar hela; cywion; ifanc; gofal; ffesantod; petris; hwyaid