Cefnogi cynhyrchu cywion adar hela

URN: LANGa14
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi cynhyrchu cywion adar hela. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i gefnogi deori a deor wyau adar hela.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cynhyrchu adar hela a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu cywion adar hela.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
llwytho wyau adar hela i mewn i ddeorydd
cynnal wyau adar hela sydd yn cael eu deori
cynnal y broses ddeori
dadlwytho cywion adar hela o ddeorydd.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyflawni gweithgareddau i gefnogi cynhyrchu wyau adar hela yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. paratoi’r deorydd fel ei fod mewn cyflwr glân
  3. monitro a chynnal amodau amgylcheddol addas yn y deorydd i hwyluso deori llwyddiannus, yn unol â’r cyfarwyddiadau, ac adrodd am unrhyw amodau amgylcheddol sydd y tu allan i’r fanyleb a roddwyd
  4. llwytho wyau adar hela yn y deorydd, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  5. canhwyllo wyau adar hela i gadarnhau eu hyfywedd
  6. trosglwyddo wyau adar hela hyfyw i’r deorydd, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
  7. glanhau’r cyfleusterau deori ar ôl eu defnyddio
  8. monitro a chynnal amodau amgylcheddol addas yn y deorydd i hwyluso deori llwyddiannus, yn unol â’r cyfarwyddiadau, ac adrodd ar unrhyw amodau amgylcheddol sydd yn dod y tu hwnt i’r fanyleb a roddwyd
  9. monitro’r broses ddeori
  10. symud cywion adar hela o’r deorydd mewn ffordd sydd yn cynnal lles y cywion ac yn cynyddu eu siawns o oroesi
  11. lladd unrhyw gywion adar hela sydd yn sâl neu’n annormal, yn unol â’r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol
  12. sefydlu cywion adar hela yn ddiogel mewn blychau cywion glân ac wedi eu hawyru’n dda
  13. glanhau cyfleusterau deori ar ôl eu defnyddio
  14. gwaredu gwastraff a marwolaethau yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  15. cadw cofnodion cywir fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o ddeoryddion ac offer deor
  2. yr amodau sydd yn ofynnol ar gyfer deori llwyddiannus a phwysigrwydd tymheredd, lleithder a symud i’r broses ddeori
  3. y dulliau o fonitro a chynnal yr amgylchedd deori
  4. y dulliau a ddefnyddir i gadarnhau ffrwythloni a datblygiad
  5. pwysigrwydd glendid a hylendid i ddeori wyau adar hela a pham y mae wyau adar hela’n cael eu diheintio cyn eu deori
  6. yr amodau sy’n ofynnol ar gyfer deori llwyddiannus i gefnogi cynhyrchu cywion adar hela
  7. y dulliau o fonitro a chynnal yr amgylchedd deori
  8. pwysigrwydd tymheredd, lleithder a symud i’r broses ddeori
  9. pwysigrwydd hylendid i’r broses ddeori
  10. sut i ymdrin â chywion adar hela mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles
  11. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer sy’n rheoli cynhyrchu cywion adar hela
  12. sut i ladd unrhyw gywion adar hela sydd yn sâl neu’n annormal yn ddyngarol
  13. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu marwolaethau
  14. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer cludo cywion adar hela
  15. y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau cofnodion


Cwmpas/ystod


Sefydlu a chynnal yr amodau amgylcheddol canlynol:
tymheredd
lleithder
troi
hylendid 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Adar hela – ffesantod, petris, hwyaid

Deori – y broses a ddefnyddir i gefnogi datblygiad cywion y tu mewn i’r ŵy

Deor – y broses a ddefnyddir i gefnogi deor cywion o’r ŵy

Canhwyllo – y dull o ddefnyddio ffynhonnell olau, fel bylb, i weld trwy blisgyn yr ŵy a phennu a yw’r ŵy yn datblygu’n iawn ac felly’n hyfyw, neu a ddylid ei waredu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa14

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

adar hela; cywion; brîd; deor; ffesantod; petris; hwyaid