Cefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela

URN: LANGa13
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i gefnogi stoc bridio helfilod a chynhyrchu wyau adar hela hyfyw.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu wyau adar hela.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
ymdrin ag adar hela a’u sefydlu mewn ardaloedd bridio
gofalu am adar hela mewn ardal fridio
casglu, glanhau a storio wyau adar hela yn barod ar gyfer eu deori.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyflawni gweithgareddau i gefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. paratoi llociau bridio i sicrhau a diogelu adar hela
  3. paratoi a chynnal a chadw cyfarpar a chyfleusterau mewn cyflwr glân
  4. paratoi stoc sydd wedi eu dal neu stoc gaeaf sydd wedi eu trosglwyddo
  5. ymdrin ag adar hela gan roi sylw dyledus i’w hiechyd a’u lles, er mwyn osgoi eu hanafu a lleihau straen
  6. paratoi a sefydlu adar hela mewn llociau bridio i gymhareb benodol o wrywod a benywod i gefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela 
  7. cynnal gofynion lles adar hela trwy gymhwyso adnoddau yn effeithlon
  8. arsylwi ymddygiad adar hela ac adrodd ar unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
  9. symud, cofnodi ac adrodd ar unrhyw farwolaethau o fewn stoc bridio
  10. casglu wyau adar hela mewn ffordd sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar y stoc bridio ac yn cynnal ansawdd wyau adar hela
  11. symud ac adrodd ar wyau adar hela nad ydynt yn hyfyw
  12. graddio, glanhau a didoli wyau adar hela
  13. storio wyau adar hela i gynnal eu hyfywedd
  14. gwaredu marwolaethau, wyau adar hela nad ydynt yn hyfyw a gwastraff arall yn unôl â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  15. cadw cofnodion cywir fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu, casglu a storio wyau adar hela
  2. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer cynhyrchu, cludo a lles adar hela
  3. sut i baratoi a chynnal a chadw llociau bridio i hwyluso bridio
  4. y cymarebau bridio ar gyfer adar hela a sut i adnabod a phennu rhyw stoc bridio
  5. ymddygiad arferol adar hela a’r arwyddion sydd yn arwydd o straen ac anhwylder
  6. sut i ddewis a phennu oed adar hela sy’n bridio a’r ffordd y gall oed effeithio ar gynhyrchu wyau
  7. gofynion lles stoc bridio
  8. y manylebau bridio a’u goblygiadau
  9. y cymarebau gwrywaidd/benywaidd priodol ar gyfer stociau bridio
  10. achosion tebygol marwolaethau wrth fridio adar hela
  11. y rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i leihau pigo plu a niwed a achosir wrth ymladd
  12. sut i osod ‘specs’ a ‘brails’ a pham y cânt eu defnyddio ar stoc bridio
  13. pryd dylid casglu wyau a sut i gasglu ac ymdrin â’r wyau
  14. pam y mae’n bwysig amharu cyn lleied â phosibl ar stoc bridio wrth gasglu wyau
  15. hyfywedd wyau a’i bwysigrwydd i’r broses fridio
  16. sut i ddidoli wyau a nodi’r rheiny nad ydynt yn hyfyw
  17. pam y caiff wyau eu diheintio cyn eu storio
  18. y gofynion storio wyau
  19. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu marwolaethau, wyau helfilod nad ydynt yn hyfyw a gwastraff arall
  20. y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol ar gyfer cwblhau cofnodion


Cwmpas/ystod


Paratoi llociau i’w diogelu rhag:
plâu ac ysglyfaethwyr
amodau amgylcheddol niweidiol
lladrad 

Paratoi a chynnal a chadw cyfarpar a chyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer:
casglu wyau
glanhau wyau
storio wyau

Paratoi un o’r canlynol:
stoc adar hela sydd wedi eu dal
stoc gaeaf sydd wedi eu trosglwyddo (haid gaeëdig)


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Adar hela – Ffesantod, petris, hwyaid

Haid gaeëdig – Stoc bridio sydd yn cael ei chadw mewn caethiwed trwy gydol ei bywyd

Adnoddau:
bwyd
dŵr
graean
meddyginiaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

adar hela; wyau; bridio; ffesantod; petris; hwyaid