Cynnal a gwella cynefin helfilod a bywyd gwyllt
URN: LANGa10
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal a gwella cynefin helfilod a bywyd gwyllt er mwyn cefnogi poblogaethau helfilod.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• rheoli twf a datblygiad planhigion
• gwella ffurfiau tir cynefinoedd.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio tuag at warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gemegau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol ac yn meddu ar yr ardystiad perthnasol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Er mwyn deall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r gweithgareddau yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer y gweithgaredd
- nodi pan fydd cynefin helfilod a bywyd gwyllt yn gofyn am reoli ymyrraeth
- paratoi’r offer, y cyfarpar a’r adnoddau gofynnol i gyflwr diogel, yn barod i’w defnyddio
- cynnal a gwella llystyfiant yn y cynefin helfilod a bywyd gwyllt gan ddefnyddio arferion gwaith a argymhellir gan eich sefydliad
- cwblhau gwaith mewn ffordd sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd
- ymdrin ag unrhyw anawsterau a brofir wrth gynnal sydd yn dod o fewn eich lefel cyfrifoldeb
- cynnal a chadw offer a chyfarpar mewn cyflwr gweithredol trwy gydol y broses
- gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a’r rhai’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
- cadw cofnodion yn unol â gofynion y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â rheoli cynefin, yn cynnwys y goblygiadau sydd yn gysylltiedig â gweithio unigol
- dewis, defnyddio a gofalu am gyfarpar diogelu personol
- pam mae llystyfiant yn cael ei reoli
- y dulliau a ddefnyddir i gynnal a gwella llystyfiant mewn cynefin helfilod a bywyd gwyllt
- achosion cyffredin niwed i gynefin
- pwysigrwydd cynefin a rheoli cynefin
- sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i reoli cynefin yn ddiogel
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
- rôl llystyfiant canopi ac ymylol wrth gynnal helfilod
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol i weithgareddau rheoli yn cynnwys y rheiny sydd yn gysylltiedig â safleoedd sydd wedi eu dynodi’n gyfreithiol yn cynnwys Safleoedd o Diddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
- ble gellir defnyddio cemegau i reoli llystyfiant a'r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i’r rhain
- nodweddion biolegol, ffisegol a chemegol y cynefinoedd
- pam y mae’n bwysig effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd wrth gyflawni gweithgareddau cynnal
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad sy’n rheoli gwaredu gwastraff
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cwblhau cofnodion
Cwmpas/ystod
Gwella tirffurfiau i gefnogi datblygiad o leiaf un o’r mathau canlynol o gynefin:
• gwlyptir
• ucheldir/grugiar
• iseldir
Rheoli llystyfiant trwy:
• dorri
• annog adnewyddu naturiol
• plannu
Defnyddio’r mathau canlynol o offer:
• offer a chyfarpar llaw
• offer a chyfarpar pŵer
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ymyrraeth reoli – Camau a gymerir i wella neu gynnal cyflwr y cynefin
Canopi – Ardal sydd wedi ei gorchuddio gan ganopïau coed neu lwyni
Risg amgylcheddol – Y tebygolrwydd o niwed yn cael ei achosi i’r amgylchedd naturiol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa10
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
cynefin; cynnal; rheoli; bywyd gwyllt; helfilod