Paratoi cymhorthion a chyfarpar chwaraeon i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod

URN: LANGa1
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi cymhorthion a chyfarpar chwaraeon i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud yn arwain at ddiwrnodau saethu mewn ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys paratoi cyfarpar a chyfleusterau.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes helwriaeth a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod. 

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
paratoi ardaloedd saethu a chyfarpar i’w defnyddio ar y diwrnod saethu

Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer wrth wneud y gweithgaredd hwn.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon a’r gweithgareddau yn llawn, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwneud yr holl weithgareddau paratoi yn ddiogel, yn unol â’r rhaglen saethu helfilod a'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. gwisgo i roi diogelwch rhag amodau amgylcheddol ac i fodloni’r codau gwisg angenrheidiol
  3. paratoi offer cludo a storio helfilod er mwyn iddynt fod mewn cyflwr glân sydd yn addas ar gyfer derbyn helfilod marw
  4. sicrhau bod yr holl drafnidiaeth mewn cyflwr gweithredol diogel
  5. paratoi cymhorthion a chyfarpar chwaraeon i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio yn effeithiol
  6. sefydlu safleoedd saethwyr yn gywir yn unol â gofynion y rhaglen saethu helfilod
  7. paratoi pwyntiau mynediad yn unol ag anghenion y rhaglen saethu helfilod
  8. cadw cofnodion cywir yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â pharatoi ar gyfer gweithgareddau diwrnod saethu
  2. y gofynion cyfreithiol perthnasol (yn cynnwys y rheiny sy’n benodol i wlad) yn ymwneud â gweithgareddau saethu helfilod
  3. diben a gofynion y rhaglen saethu helfilod
  4. y codau gwisg priodol ar gyfer saethu sydd yn addas i weithgareddau saethu
  5. y cymhorthion a’r cyfarpar chwaraeon a ddefnyddir i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod a sut i’w paratoi
  6. y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli storio, cludo a chario arfau tanio ac arfau
  7. y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth a defnydd o arfau tanio
  8. y gwiriadau sydd angen eu gwneud i arfau tanio ac arfau ar gyfer eu defnyddio
  9. y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer cyfredol yn ymwneud a defnyddio mathau gwahanol o arfau
  10. yr arfau priodol ar gyfer y saethu a’r ardal rheoli bywyd gwyllt
  11. sut gall gosodiad safleoedd saethwyr effeithio ar ddiogelwch ar ddiwrnodau saethu 


Cwmpas/ystod


Paratoi cymhorthion chwaraeon ac ardaloedd saethu i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod ar gyfer dau o’r canlynol:
helfilod wedi eu gyrru
cerdded i fyny at helfilod
adar hela sydd yn hedfan
denu


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gweithgareddau saethu helfilod – unrhyw gamp maes cyfreithlon yn cynnwys hela helfilod gydag arf tanio

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod

Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu

Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Cymhorthion a chyfarpar chwaraeon:
baneri
ffyn
chwyddo
cyfarpar cyfathrebu 
sbienddrych
arfau tanio

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; saethu; curo; codi i fyny