Rheoli cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt

URN: LANGWM8
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am reoli cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd.  

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am sefydlu polisi cysylltiadau cyhoeddus, rheoli cysylltiadau cyhoeddus a chefnogi eraill i gynnal cysylltiadau cyhoeddus.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. sefydlu polisi cysylltiadau cyhoeddus i gefnogi gweithgareddau mewn ardal rheoli bywyd gwyllt 
  2. ceisio cyngor arbenigol lle bo angen
  3. cyfathrebu gofynion y polisi cysylltiadau cyhoeddus i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu 
  4. cynghori ar gynhyrchu deunydd cysylltiadau cyhoeddus sydd yn hyrwyddo cysylltiadau cyhoeddus da, adlewyrchu’r polisi cysylltiadau cyhoeddus a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol 
  5. rheoli gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus yn unol a’r polisi cysylltiadau cyhoeddus 

  6. monitro a gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus ac addasu gweithgareddau a chynlluniau yn unol â hynny

  7. cynnal ymwybyddiaeth o faterion lleol a chenedlaethol perthnasol sy’n debygol o effeithio ar weithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt 
  8. cefnogi eraill sydd yn gysylltiedig â’r ardal rheoli bywyd gwyllt i gynnal cysylltiadau cyhoeddus
  9. cyfathrebu gyda’r cyhoedd mewn ffordd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o’r gweithgareddau mewn ardal rheoli bywyd gwyllt ac yn cynnal cysylltiadau cyhoeddus 
  10. rheoli unrhyw anghydfodau sy’n debygol o effeithio ar gysylltiadau cyhoeddus 
  11. rhoi adborth i gefnogi staff ar ddatblygiad cysylltiadau cyhoeddus da
  12. ymgynghori â defnyddwyr, cymdogion a grwpiau diddordeb i gael adborth ar weithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. rôl cysylltiadau cyhoeddus yn cefnogi gweithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt
  2. egwyddorion rheoli a chynnal cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
  3. cydrannau hanfodol polisi cysylltiadau cyhoeddus fel hyrwyddo gweithgareddau, rolau a chyfrifoldebau, y ffordd dylai digwyddiadau fel amharu ar saethu gael eu trin a chyfathrebu gyda’r cyfryngau
  4. ble i gael cyngor arbenigol
  5. y materion lleol a chenedlaethol perthnasol sy’n effeithio ar amgyffrediad y cyhoedd a rheolaeth cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
  6. nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys dynodiadau tir, hawliau mynediad ac ardaloedd o ddiddordeb arbennig
  7. rheoliadau cenedlaethol a lleol yn ymwneud â hawliau tramwy, mynediad a’r hawl i grwydro
  8. y dulliau effeithiol ar gyfer cyfathrebu gofynion y polisi cysylltiadau cyhoeddus
  9. rôl ac effeithiau, cadarnhaol a negyddol, y cyfryngau cymdeithasol ar yr ardal rheoli bywyd gwyllt a sut i reoli’r rhain yn effeithiol
  10. y dulliau y gellir eu cymhwyso i ddatrys anghydfodau
  11. rôl yr heddlu ac awdurdodau lleol yn cefnogi gweithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt 
  12. pwysigrwydd datblygu perthynas waith dda gyda defnyddwyr eraill y tir, cymdogion a grwpiau eraill
  13. y dulliau a ddefnyddir ar gyfer ymgynghori â defnyddwyr, cymdogion a grwpiau diddordeb
  14. y ffordd y mae’r wasg a’r cyfryngau’n gweithredu, a’r dulliau ar gyfer rheoli cysylltiadau cyhoeddus


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai dynodiadau gynnwys:
Parc Cenedlaethol
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)
RAMSAR
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
Safle Archaeolegol
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
Parthau Diogelu Dŵr Yfed
Henebion Cofrestredig (SM)
Adeiladau Rhestredig (LB)
Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
Meysydd Brwydrau Cofrestredig (RB) 
Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)

Gallai arweiniad sector gynnwys:
Cod Ymarfer Saethu Da
Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw 
Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban

Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGWM8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; bywyd gwyllt; cysylltiadau cyhoeddus; saethu; ystâd