Datblygu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt

URN: LANGWM3
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am ddatblygu cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol lle mae angen rheoli helfilod a bywyd gwyllt.  

Gellir disgrifio rheoli bywyd gwyllt fel ymyrraeth wedi ei thargedu i newid poblogaeth, strwythur neu ddosbarthiad rhywogaethau gwyllt. Gall gynnwys eu cadwraeth, eu hailgyflwyno neu eu trawsleoli, diogelu eu hiechyd a’u lles neu eu didol a’u difa i reoli eu niferoedd a’u heffaith ar gynefinoedd neu rywogaethau eraill.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gwaith i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am ddatblygu cynllun ar gyfer rheoli helfilod a bywyd gwyllt.   

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau allai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. sefydlu systemau i gefnogi casglu a dadansoddi data perthnasol yn ymwneud â’r ardal rheoli bywyd gwyllt yn gywir
  2. dadansoddi’r data i bennu’r angen i reoli helfilod a bywyd gwyllt a’r cyfleoedd sydd ar gael i hwyluso mwy o gynnyrch helfilod 
  3. ystyried unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol neu gyfyngiadau eraill ar ddatblygiad cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  4. ceisio cyngor arbenigol lle bo angen
  5. defnyddio dadansoddi poblogaeth helfilod a data arall i bennu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt ar gyfer y tymor byr - (1 – 2 fis), y tymor canolig - (12 mis) a’r hirdymor - (5 mlynedd) – yn cynnwys cynefin, helfilod, bywyd gwyllt, gallu saethu a’r elw ariannol
  6. pennu’r ymyriadau y gellir eu defnyddio i reoli’r helfilod a’r bywyd gwyllt yn effeithiol 
  7. pennu’r adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt yn llwyddiannus
  8. asesu arwyddocâd dylanwadau a allai effeithio ar weithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  9. pennu dulliau gweithredol sydd yn cynnal iechyd a diogelwch ac sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
  10. cadarnhau bod y cynllun yn ystyried gweithgareddau eraill ardal rheoli bywyd gwyllt ac yn ystyried cyfleoedd ar gyfer ymagwedd reoli integredig
  11. cadarnhau bod y cynllun yn ystyried yr angen i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
  12. cadarnhau bod y cynllun yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n benodol i wlad, codau ymarfer, arweiniad sector a gofynion sefydliadol perthnasol
  13. sefydlu’r gweithdrefnau sydd yn angenrheidiol i fesur effeithiolrwydd y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  14. ystyried safbwyntiau pobl eraill, yn cynnwys y rheiny sydd yn gysylltiedig â, neu wedi eu heffeithio gan, y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, cyfathrebu gofynion yn cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y technegau a ddefnyddir i gasglu data poblogaeth helfilod i bennu gofynion cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  2. y dulliau a ddefnyddir i bennu gallu saethu helfilod 
  3. technegau casglu a dadansoddi data, yn cynnwys defnydd a dehongliad o fapiau a data graffigol, deunydd wedi ei gyhoeddi a chofnodion eraill 
  4. y rheoliadau cenedlaethol a lleol yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad, rheoli bywyd gwyllt a helfilod gwyllt
  5. ble i gael cyngor arbenigol
  6. y broses o bennu nodau ac amcanion mesuradwy ar gyfer y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  7. y berthynas rhwng y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt ac amcanion cyffredinol yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  8. egwyddorion rheoli bywyd gwyllt a’r ymyriadau y gellir eu defnyddio i gyflawni amcanion rheoli helfilod a bywyd gwyllt, yn cynnwys monitro a rheoli cynefin, monitro poblogaeth helfilod a bywyd gwyllt, rheoli plâu ac ysglyfaethwyr, mesurau i gynnal lles helfilod a mesurau i wella iechyd helfilod
  9. y ffodd y mae helfilod yn rhyngweithio gyda bywyd gwyllt a’i amgylchedd a sut gellir rheoli, cefnogi ac annog hyn
  10. yr adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, er enghraifft, pobl, cyfarpar, cyllid, anifeiliaid
  11. y dylanwadau sy’n effeithio ar reoli helfilod a bywyd gwyllt,
  12. gweithgareddau eraill rheoli bywyd gwyllt a gwerth datblygu cynllun integredig rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  13. y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
  14. rôl y ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n benodol i wlad, y codau ymarfer, arweiniad sector a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol sy’n cefnogi rheoli helfilod a bywyd gwyllt 
  15. y gweithdrefnau y gellir eu defnyddio i fesul effeithiolrwydd y cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt
  16. sut i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt, neu wedi eu heffeithio ganddynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai data gynnwys data:
daearyddol (hinsawdd, daearegol, priddoedd, ac ati)
bywyd gwyllt a chynefin
plâu ac ysglyfaethwyr
poblogaeth helfilod (maint a strwythur, dosbarthiad)
cofnodion saethu
defnydd o dir
dynodiadau tir
deddfwriaeth sy’n benodol i wlad

Gallai dynodiadau gynnwys:
Parc Cenedlaethol
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)
RAMSAR
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
Safle Archaeolegol
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
Parthau Diogelu Dŵr Yfed
Henebion Cofrestredig (SM)
Adeiladau Rhestredig (LB)
Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
Meysydd Brwydrau Cofrestredig (RB) 
Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)

Helfilod:
unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Dylanwadau sy’n effeithio ar reoli helfilod a bywyd gwyllt:
e.e. amgylchedd ffisegol, cynefin, bywyd gwyllt, rhyngweithio â phlâu ac ysglyfaethwyr, lles a maeth helfilod, clefydau helfilod, defnydd arall o’r tir, gwrthdaro buddiannau, pwysau gwleidyddol, deddfwriaeth

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Gallai arweiniad sector gynnwys:
Cod Ymarfer Saethu Da
Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw 
Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain

Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGWM3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; bywyd gwyllt; rheoli