Gweithredu a monitro didol a difa ceirw gwyllt

URN: LANGWM13
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am weithredu a monitro didol a difa ceirw gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd.  

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio fel rheolwyr ceirw ac sy’n gyfrifol am weithredu’r rhaglen didol a difa a monitro llwyddiant y rhaglen.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau allai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gweithredu a monitro gweithgareddau didol a difa ceirw gwyllt yn unol â phrosesau rheoli risg, yn cynnwys sefydlu rhagofalon diogelwch, paratoi cyfarpar a deunyddiau, cysylltu â llech-helwyr a staff cymorth, ymdrin â cheirw wedi eu hanafu ac ymdrin â charcasau a’u storio
  2. rheoli dyrannu adnoddau i gyflawni amcanion didol a difa ceirw gwyllt
  3. cadarnhau bod gweithgareddau didol a difa yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
  4. cadarnhau bod gofynion didol a difa ceirw gwyllt yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
  5. sefydlu a chynnal cyfathrebu effeithiol gyda llech-helwyr a’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu didol a difa ceirw gwyllt 
  6. cadarnhau bod yr holl weithgareddau didol a difa ceirw gwyllt yn bodloni amcanion a’u bod yn cael eu gweithredu a’u monitro yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion cenedlaethol a lleol
  7. cadarnhau bod carcasau ceirw’n cael eu cludo, eu trin a’u storio yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  8. cadarnhau bod cofnodion didol a difa cywir yn cael eu cynnal yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  9. monitro a chael adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â didol a difa ceirw gwyllt i gefnogi datblygiad y cynllun rheoli ceirw gwyllt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y rolau sy’n hanfodol i weithredu didol a difa ceirw gwyllt
  2. yr adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi didol a difa ceirw gwyllt yn cynnwys pobl, trafnidiaeth, cyfarpar, cyllid ac anifeiliaid
  3. y dulliau o baratoi a rhoi cyfarwyddyd i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau didol a difa ceirw gwyllt
  4. y rheoliadau cenedlaethol a lleol perthnasol sy’n rheoli didol a difa ceirw gwyllt yn ymwneud â mynediad, y defnydd o arfau tanio ac arfau, mynediad i gefn gwlad, lles anifeiliaid, a’r defnydd o staff achlysurol a gwirfoddolwyr
  5. y gweithgareddau sy’n ofynnol i reoli gweithredu a monitro’r didol a difa ceirw gwyllt sydd wedi ei gynllunio yn effeithiol
  6. pwysigrwydd cynnal cofnodion cywir didol a difa ceirw gwyllt a’u gwerth i weithredu cynllun rheoli ceirw gwyllt effeithiol
  7. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli trin a storio carcasau ceirw gwyllt
  8. pam mae cyfathrebu effeithiol yn bwysig i weithgareddau saethu
  9. y ffordd y mae ceirw gwyllt yn ymateb yn ystod didol a difa a’r dylanwadau a allai newid eu hymddygiad disgwyliedig
  10. yr angen am gynlluniau wrth gefn a phryd i’w gweithredu, er enghraifft, oherwydd dylanwadau dynol, ymddygiad annisgwyl ceirw gwyllt neu amodau amgylcheddol 
  11. y ffordd i gellir gweithredu didol a difa ceirw gwyllt mewn ardaloedd adeiledig neu goridorau trafnidiaeth
  12. y peryglon diogelwch sydd yn gysylltiedig â didol a difa ceirw gwyllt a’r ffordd y gellir eu rheoli
  13. rôl y ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol yn ymwneud â gweithgareddau didol a difa ceirw gwyllt, yn ogystal â chofnodi manylion didol a difa


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai codau ymarfer gynnwys:
Cod Ymarfer Saethu Da
Canllawiau Arfer Gorau Menter Ceirw 
Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGWM13

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

saethu; ceirw; didol a difa; helfilod