Datblygu a gweithredu rhaglen cynhyrchu adar hela

URN: LANGWM10
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu rhaglen cynhyrchu adar hela.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes ffermio helfilod ac sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen cynhyrchu adar hela a sefydlu gweithdrefnau i weithredu a monitro’r rhaglen.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. dadansoddi’r wybodaeth a’r data perthnasol i bennu’r gofynion ar gyfer cynhyrchu adar hela 
  2. cael cyngor arbenigol pan fo angen
  3. sefydlu blaenoriaethau a thargedau ar gyfer cynhyrchu adar hela, yn unol â’r gofynion cynhyrchu
  4. datblygu rhaglen cynhyrchu adar hela gyda nodau ac amcanion mesuradwy 
  5. pennu’r gofynion adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithredu’r rhaglen cynhyrchu adar hela yn llwyddiannus
  6. pennu’r amgylchedd ffisegol, hwsmonaeth, lles a’r gofynion deietegol ar gyfer yr adar hela sy’n cael eu ffermio
  7. sefydlu mesurau i gynnal lefelau addas o les anifeiliaid, hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod yn cael eu gweithredu
  8. sefydlu mesurau ar gyfer rheoli plâu ac ysglyfaethwyr
  9. sefydlu mesurau i fonitro a rheoli diogeledd yr adar hela sy’n cael eu magu
  10. sefydlu dulliau gwaith sydd yn cynnal iechyd a diogelwch ac sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
  11. sefydlu gweithdrefnau i reoli cyfyngiadau ac argyfyngau a allai effeithio ar weithredu rhaglen cynhyrchu adar hela yn llwyddiannus
  12. sefydlu’r gweithdrefnau sydd yn angenrheidiol i weithredu a monito’r rhaglen cynhyrchu adar hela
  13. cadarnhau bod y rhaglen cynhyrchu adar hela sydd wedi ei chynllunio yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth genedlaethol, y codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol
  14. ystyried safbwyntiau pobl eraill, yn cynnwys y rheiny sydd yn gysylltiedig neu wedi eu heffeithio gan y rhaglen cynhyrchu adar hela, fel rhan o ddatblygiad cyffredinol y rhaglen
  15. cyfathrebu gofynion y rhaglen cynhyrchu adar hela i bawb sydd yn gysylltiedig â’i gweithredu 
  16. cadw cofnodion o gynhyrchu adar hela fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y technegau dadansoddi data a rôl data yn gosod targedau wrth ddatblygu rhaglen cynhyrchu adar hela
  2. ble i gael cyngor arbenigol
  3. egwyddorion cynhyrchu adar hela
  4. y safonau cyfreithiol cenedlaethol ac wedi eu cymeradwyo gan y sector sy’n berthnasol ar gyfer magu adar hela
  5. y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy, yn cwmpasu’r tymor byr - (1 – 2 fis), canolig - (12 mis) a’r hirdymor (5 mlynedd)
  6. cynllunio a defnyddio adnoddau, yn cynnwys pobl, cyflenwadau pŵer, cyfleusterau, cyfarpar a chyllid
  7. nodweddion, hwsmonaeth, gofynion lles a deietegol adar hela wedi eu ffermio
  8. dylanwad yr amgylchedd ffisegol a’i nodweddion ar gynhyrchu adar hela
  9. y gofynion cyfreithiol cenedlaethol perthnasol sy’n rheoli iechyd a lles anifeiliaid, rheoli clefydau, rheoli plâu, gwaredu gwastraff ac iechyd dynol
  10. clefydau cyffredin adar hela, yn cynnwys sut i’w hadnabod a’u trin 
  11. egwyddorion bioddiogelwch ac atal clefydau ar gyfer ffermio adar hela
  12. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a rheoli presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr
  13. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a threfnu diogeledd yr adar hela sy’n cael eu magu
  14. y cyfyngiadau hysbys a’r argyfyngau a allai effeithio ar gynhyrchu adar hela
  15. cynllunio brys sy’n berthnasol i gynhyrchu adar hela 
  16. rôl deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol wrth gynhyrchu adar hela
  17. pwysigrwydd asesu risgiau ar gyfer uned ffermio adar hela
  18. pwysigrwydd rheoli’r tir sydd ar gael i gynyddu cynaliadwyedd ei allu cynhyrchu
  19. y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfyngiadau ac argyfyngau:
 sydd yn dylanwadu ar gynhyrchu adar hela
e.e. amcanion busnes, pwysau gwleidyddol, clefydau, methiant pŵer, methiant cyfarpar, deddfwriaeth berthnasol, prinder adnoddau, difrodi, plâu ac ysglyfaethwyr, amrywiadau mewn amodau amgylcheddol

Adar hela:
ffesantod, petris, hwyaid

Rheoli plâu ac ysglyfaethwyr:
plaladdwyr
gwenwyn llygod
trapiau a maglau
saethu

Gallai arweiniad sector gynnwys:
Y Côd Ymarfer Saethu Da
Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain

Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGWM10

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

aderyn hela; bridio; ffesantod; petris; hwyaid