Ymateb i ddigwyddiad lladd pysgod

URN: LANFiM23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo: 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â gallu ymateb i ddigwyddiadau lladd pysgod trwy dynnu a gwaredu pysgod marw, cymryd camau i leihau neu ddileu achos lladd y pysgod a gweithio i atal marwolaethau pellach pysgod. Mae’n cynnwys y gallu i weithio ochr yn ochr â phobl eraill.

Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.

Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl y lleoliad yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i ymateb yn ddiogel i ddigwyddiad lladd pysgod, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. monitro digwyddiad lladd pysgod i bennu natur y straen i’r pysgod neu eu marwolaeth, ac achos tebygol hynny, a rhoi gwybod i’r awdurdod priodol
  3. dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
  4. paratoi a chynnal cyfarpar i’r safon ofynnol ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau lladd pysgod
  5. dosbarthu cyfarpar i reoli a lleihau effaith y digwyddiad lladd pysgod
  6. paratoi unedau cadw i dderbyn a chynnal cyflwr y pysgod byw sy’n cael eu dal o’r digwyddiad lladd pysgod
  7. defnyddio dulliau dal i ddal a thynnu pysgod byw yn effeithiol, fel y bo’n briodol
  8. cael samplau o’r digwyddiad lladd pysgod a’u labeli’n gywir, er mwyn cefnogi ymchwiliadau
  9. monitro ac arsylwi effaith ymyriadau i atal digwyddiadau lladd pysgod pellach
  10. gwaredu pysgod marw a gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol, amgylcheddol a sefydliadol
  11. cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch wrth ymateb i ddigwyddiadau lladd pysgod
  12. glanhau a storio cyfarpar dal pysgod ar ôl ei ddefnyddio
  13. cynnal gwybodaeth gywir er mwyn cadw cofnodion cyfredol am ddigwyddiadau lladd pysgod

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sy’n gysylltiedig ag ymateb i ddigwyddiadau lladd pysgod
  2. y cyfarpar sy’n ofynnol i ymateb i ddigwyddiadau lladd pysgod
  3. pwysigrwydd defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
  4. achosion straen neu farwolaeth pysgod a pham mae’n bwysig rhoi gwybod i’r awdurdod priodol
  5. sut gall blymau algaidd achosi straen mewn pysgod
  6. sut i adnabod straen mewn pysgod
  7. sut i adnabod clefydau cyffredin pysgod
  8. beth sy’n cael ei ystyried yn ddigwyddiad lladd pysgod
  9. rolau a chyfrifoldebau’r asiantaethau sy’n gyfrifol am ddelio â digwyddiadau lladd pysgod
  10. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch yn ystod digwyddiadau lladd pysgod
  11. sut i ymateb i ddigwyddiad lladd pysgod
  12. sut i roi gwybod am ddigwyddiadau lladd pysgod gan ddilyn gweithdrefnau a gofynion eich sefydliad
  13. achosion cyffredin llygredd a’r dulliau a ddefnyddir i leihau ei effaith ar bysgod byw a’r amgylchedd
  14. awyru a’i ddefnydd mewn ymatebion i ddigwyddiadau lladd pysgod
  15. sut i gasglu, storio a gwaredu ac anfon samplau dŵr ynghyd â samplau o bysgod byw a marw
  16. y gofynion cyfreithiol, amgylcheddol a sefydliadol sy’n rheoli gwaredu gwastraff o ddigwyddiadau lladd pysgod

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Achosion posibl y digwyddiad lladd pysgod, gan gynnwys:
1. lefelau ocsigen isel
2. digwyddiadau llygredd
3. rheolaeth amgylcheddol wael
4. prinderau dŵr
5. cyfryngau biolegol
6. clefydau
 
Cyfarpar:
1. awyru tasgu
2. awyru chwistrell aer
3. awyru hydrogen perocsid
4. bwmau
5. citiau gollyngiadau
 
Ymyriadau
Y camau a gymerir i leihau effaith y digwyddiad e.e. tynnu’r pysgod byw, defnyddio awyru, defnyddio bwmau
 
Unedau cadw
Cyfarpar a ddefnyddir i ddal pysgod byw e.e. bwcedi, biniau sbwriel, tanciau, ac ati.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM31

Galwedigaethau Perthnasol

Arolygydd, Perchennog/Rheolwr, Beili/Warden, Prif Feili, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa, Swyddog Datblygu Pysgodfeydd, Biolegydd Pysgodfeydd, Cynorthwyydd Maes

Cod SOC

1212

Geiriau Allweddol

pysgod, lladd, digwyddiadau, gwaredu, tynnu