Rheoli’r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ac asesu’r effaith ar y bysgodfa

URN: LANFiM22
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ac asesu'r effaith ar y bysgodfa, tra'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae'n cynnwys monitro ac adrodd am berfformiad y gweithgareddau rheoli wrth bawb sydd yn gysylltiedig.

Mae'r safon hon yn gofyn am y gallu i ymateb i amrywiadau a wneir i gynlluniau rheoli pysgodfeydd.

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau'n ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn sicrhau bod gwaith yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd bob amser.

Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli'r gwaith o roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ar gyfer pysgodfa o fewn cyfyngiadau eich adnoddau
  2. monitro gweithgareddau rheoli'r pysgodfeydd yn y cynllun i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, sefydliadol ac iechyd a diogelwch perthnasol
  3. rhoi cymorth i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â rhoi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith
  4. ymateb i amrywiadau a chyfyngiadau o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, gan wneud addasiadau lle bo angen
  5. asesu effaith cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y bysgodfa
  6. parhau i gyfathrebu gyda'r rhanddeiliad er mwyn hwyluso rheolaeth effeithiol o'r bysgodfa
  7. cadw cofnodion rheoli pysgodfeydd cywir fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol perthnasol yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd
  2. y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn gysylltiedig â symud a stocio pysgod
  3. y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol mewn perthynas â rheoli cynefin yn eich pysgodfa
  4. hanes bywyd a gofynion cynefin y rhywogaethau pysgod yn eich pysgodfa
  5. clefydau pysgod cyffredin a dulliau o'u hatal a'u rheoli
  6. sut i roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith ar gyfer pysgodfa
  7. yr adnoddau sy'n ofynnol i roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith
  8. dulliau arolygu a ddefnyddir i fonitro pysgodfeydd
  9. y ffordd y dylid casglu a chofnodi data pysgodfeydd
  10. y ffordd y gellir gwella stociau pysgod, yn cynnwys defnyddio rhaglenni ailstocio
  11. dulliau dal pysgod a sut gellir eu defnyddio i reoli pysgod mewn pysgodfa
  12. y gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn rheoli symud pysgod
  13. y camau y gellir eu cymryd i gywiro amrywiadau yn y cynlluniau rheoli pysgodfeydd
  14. sut i adnabod effaith cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar y bysgodfa
  15. pwysigrwydd cyfathrebu wrth roi cynlluniau rheoli pysgodfeydd ar waith a'r asesiad o'u heffaith ar y bysgodfa
  16. rheoli personél, yn cynnwys rheoli contractwyr mewn pysgodfa
  17. diogelwch stoc pysgod a'r ffordd y gellir rheoli presenoldeb rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid i gyfyngu eu heffaith ar ecoleg pysgodfa gynhenid
  18. beth yw stoc pysgod cynaliadwy a beth mae manteisio yn ei olygu
  19. y gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a gofynion cyfreithiol eraill yn ymwneud â rheoli pysgodfeydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gweithgareddau rheoli pysgodfeydd:

  • cynnal cynefin
  • gwella cynefin
  • rheoli manteisio cynaliadwy
  • rheoli stoc pysgod cynaliadwy
  • monitro a chasglu data
  • rheoli diogelwch stoc
  • bioddiogelwch

Amrywiadau:

  • dylanwadau dynol

  • rhyngweithio rhwng ysglyfaethwr/ysglyfaeth

  • clefydau
  • prinder adnoddau
  • dirywiad cynefin
  • ymosodiad rhywogaethau nad ydynt yn gynhenid

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LAN|FiM26

Galwedigaethau Perthnasol

Perchennog/Rheolwr, Beili/Warden, Prif Feili, Rheolwr Pysgodfa, Uwch Reolwr Pysgodfa, Swyddog Datblygu Pysgodfeydd

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

pysgodfeydd; rheoli; cynefin; stoc; data