Sefydlu gweithdrefnau i gynorthwyo â chasglu data pysgodfeydd
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sefydlu gweithdrefnau i gynorthwyo â chasglu data pysgodfeydd yn gysylltiedig â’r cynefin a’r pysgod o fewn y bysgodfa. Mae’n cynnwys gallu nodi’r dulliau priodol ar gyfer cofnodi data a thechnegau i gynorthwyo â dadansoddi’r data a gasglwyd.
Mae’r safon hon yn gofyn am ddealltwriaeth o ddiben casglu data poblogaeth pysgod e.e. i amlinellu maint y boblogaeth, ei strwythur oedran a’i chyflwr.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- coladu a dadansoddi gwybodaeth o ffynonellau perthnasol i sefydlu gweithdrefnau er mwyn cynorthwyo â chasglu data pysgodfeydd
- sefydlu gweithdrefnau i fonitro cynefin pysgodfa, gan gyfrif am amodau amgylcheddol
- sefydlu gweithdrefnau samplu i gynorthwyo â chasglu data cynrychioliadol ar gyfer poblogaeth pysgod
- sefydlu gweithdrefnau ar gyfer casglu samplau a data o bysgod unigol
- cadarnhau bod yr holl weithdrefnau yn bodloni gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol a bioddiogelwch perthnasol a gofynion cyfreithiol perthnasol eraill
- cyfleu gweithdrefnau i bawb sy’n ymwneud â’r gweithredu
- nodi a sefydlu’r adnoddau sy’n ofynnol i gynorthwyo â chasglu data pysgodfeydd
- nodi’r technegau a ddefnyddir gan y sefydliad i ddadansoddi data pysgodfeydd
- sefydlu systemau ar gyfer adrodd ar a chofnodi data pysgodfeydd gyda sicrwydd ansawdd priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyflwr pysgodfa o ran ei nodweddion ffisegol, ansawdd y dŵr ac agweddau biolegol
- sut i sefydlu gweithdrefnau i gynorthwyo â chasglu data pysgodfeydd
- pwysigrwydd cadarnhau bod gweithdrefnau i gynorthwyo â chasglu data pysgodfeydd yn cael eu cyfleu i bawb sy’n gysylltiedig
- y technegau sydd ar gael i gasglu data cynefin a data pysgod
- protocolau casglu data pysgod a sefydliadol safonol a’u rôl mewn casglu data pysgodfeydd
- diben casglu data pysgodfeydd a sut mae hyn yn effeithio ar ddylunio casglu data
- y dulliau ar gyfer dewis safle arolwg addas ar gyfer casglu data pysgodfeydd
- sut i samplu poblogaethau pysgod
- dulliau pysgota a’u cymhwyso wrth gasglu samplau
- sut i gasglu samplau a data o bysgod byw a physgod marw
- y mathau o sefyllfaoedd argyfwng, gan gynnwys llygredd a phroblemau iechyd pysgod, a all effeithio ar bysgod a sut gallant gael eu monitro
- y mathau o dechnegau dadansoddi data a defnydd data pysgodfeydd yn y pen draw
- sut i sefydlu systemau ar gyfer cofnodi data pysgodfeydd, yn unol â phrotocolau sefydliadol safonol
- gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a chyfreithiol perthnasol sy’n gysylltiedig â rheoli gweithgareddau mewn pysgodfa