Rheoli’r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd

URN: LANFiM16
Sectorau Busnes (Suites): Cadwraeth Amgylcheddol,Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu a dadansoddi data pysgodfeydd yn ymwneud â chynefin y pysgodfeydd a'r pysgod yn y bysgodfa. Mae'n cynnwys rheoli'r gwaith o ddyrannu adnoddau i gefnogi'r gwaith o gasglu data a rheoli'r prosesau casglu data. Mae'n cynnwys rheoli'r gwaith o ddadansoddi data'r pysgodfeydd sy'n cael ei gasglu ac adrodd ar y canlyniadau i bawb sydd yn gysylltiedig.

Mae'r safon hon yn cynnwys rheoli pawb sydd yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd.  Mae hefyd yn cynnwys rheoli cyfarpar, deunyddiau ac amser er mwyn samplu a chasglu data pysgodfeydd sy'n ymwneud â maint poblogaeth, strwythur oed poblogaeth, cyflwr y pysgod, maint pysgod unigol ac oed pysgod unigol.

Mae'r safon hon yn gofyn am reoli gweithgareddau sydd yn monitro cynefin pysgodfeydd, yn cynnwys nodweddion ffisegol, ansawdd dŵr ac agweddau biolegol (monitro anifeiliaid di-asgwrn-cefn).

Mae'r safon hon yn gofyn eich bod yn cadarnhau bod gwaith yn cael ei gwblhau yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'ch bod yn sicrhau bod y gwaith yn cynnal bioddiogelwch ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd, bob amser.

Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sydd yn rheoli'r gwaith o gymhwyso'r safon hon yn amrywio yn dibynnu ar leoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau bod yr holl weithdrefnau perthnasol ar gyfer casglu a dadansoddi data pysgodfeydd wedi eu sefydlu a'u bod yn bodloni gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch a gofynion cyfreithiol perthnasol eraill
  2. cadarnhau bod y rheiny sydd yn gysylltiedig â'r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd yn defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol
  3. sefydlu systemau ar gyfer cofnodi'r data sydd wedi ei gasglu a'i ddadansoddi o bysgodfeydd
  4. cadarnhau bod yr adnoddau i reoli'r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd ar gael i wneud y gwaith yn llwyddiannus
  5. rheoli'r gwaith o weithredu gweithgareddau monitro pysgodfeydd, er mwyn casglu a dadansoddi data, gan ystyried yr amodau amgylcheddol a'r cyfyngiadau o ran adnoddau
  6. rheoli'r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd a samplau o bysgod byw a marw yn unol â manylebau perthnasol a gofynion sefydliadol
  7. rheoli'r gwaith o gynnal gweithgareddau monitro pysgodfeydd i gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  8. rheoli unrhyw argyfyngau a nodwyd yn y bysgodfa tra'n casglu data pysgodfeydd
  9. ymateb i'r arwyddion a phresenoldeb rhywogaethau ymledol, lle y bo'n briodol
  10. rheoli'r gwaith o ddadansoddi data pysgodfeydd i bennu nodweddion y bysgodfa
  11. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd
  12. cadarnhau bod data pysgodfeydd yn cael ei gyflwyno yn unol â manylebau perthnasol a gofynion sefydliadol
  13. cynnal cofnodion rheoli fel sy'n ofynnol gan eich sefydliad
  14. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch, amgylcheddol, bioddiogelwch, sefydliadol a gofynion cyfreithiol perthnasol eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a'r codau ymarfer sydd yn gysylltiedig â rheoli'r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd
  2. sut i fonitro'r amodau ffisegol, biolegol a chemegol mewn pysgodfa
  3. pwysigrwydd sefydlu gweithdrefnau perthnasol i gefnogi'r gwaith o gasglu a dadansoddi data pysgodfeydd
  4. pwysigrwydd y gweithgareddau monitro i reolaeth pysgodfa
  5. sut i addasu gweithgareddau monitro i ystyried amodau amgylcheddol a chyfyngiadau o ran adnoddau
  6. anatomeg a ffisioleg pysgod
  7. y ffordd y mae pysgod yn rhygweithio â'u hamgylchedd
  8. sut i reoli'r gwaith o gasglu data pysgodfeydd a samplau biolegol o bysgod byw a marw
  9. y mathau o dechnegau dadansoddi data a'r defnydd o ddata pysgodfeydd yn y pen draw
  10. y prosesau a ddefnyddir i roi oed i bysgod
  11. sut i adnabod clefydau cyffredin a phroblemau iechyd mewn pysgod
  12. sut i reoli'r adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r gweithgareddau casglu, dadansoddi a monitro
  13. y ffactorau a all ddylanwadu ar gyflwr yr amgylchedd dyfrol
  14. y mathau o rywogaethau ymledol a'u heffaith ar gynefinoedd glannau a physgodfeydd
  15. y protocolau sefydliadol ar gyfer adrodd am rywogaethau ymledol
  16. pwysigrwydd casglu data pysgodfeydd mewn ymateb i argyfyngau a nodir (h.y. dirywiad cynefin, gweithredoedd ysglyfaethwyr, clefydau a dylanwadau dynol) a'r technegau samplu priodol i'w defnyddio
  17. pwysigrwydd cyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â chasglu a dadansoddi data pysgodfeydd
  18. y manylebau perthnasol a'r gofynion sefydliadol ar gyfer cyflwyno data pysgodfeydd
  19. y technegau gwahanol ar gyfer cyflwyno data pysgodfeydd
  20. y safonau perthnasol ar gyfer casglu a dadansoddi data pysgodfeydd
  21. pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a'u rôl yn lleihau risg i'r bysgodfa

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2021

Dilysrwydd

Etifeddiaeth

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFiM16

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddog Datblygu Pysgodfeydd, Biolegydd Pysgodfeydd, Cynorthwyydd Maes

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

Pysgodfeydd; data; casglu; goruchwylio