Casglu a dadansoddi data o bysgod marw
URN: LANFiM15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Pysgodfeydd
Datblygwyd gan: Lantra
Wedi'i gymeradwyo:
2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu a dadansoddi data o bysgod marw. Mae’n cwmpasu’r gallu i ddadansoddi pysgod marw er mwyn cynhyrchu data pysgodfeydd, sy’n cynorthwyo â rheoli pysgodfeydd.
Mae’r safon hon yn gofyn eich bod yn gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, a’ch bod yn gweithio i gynnal bioddiogelwch a lleihau tarfu amgylcheddol bob amser.
Bydd y ddeddfwriaeth berthnasol sy’n rheoli cymhwyso’r safon hon yn amrywio yn ôl lleoliad y bysgodfa – yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r holl weithgareddau sy’n ofynnol i gasglu a dadansoddi data o bysgod marw yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar priodol ar gyfer casglu a dadansoddi data o bysgod marw
- dewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ar gyfer y gwaith sy’n ofynnol
- cynnal y gallu i olrhain samplau o bysgod marw a chynnal rheolaeth ar y samplau
- paratoi samplau o bysgod marw i’w dadansoddi, yn unol â gofynion eich sefydliad a phrotocolau safonol y diwydiant pysgota
- dadansoddi samplau o bysgod marw yn unol â gofynion eich sefydliad a phrotocolau safonol y diwydiant pysgota
- gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- diheintio a, lle bo hynny’n briodol, storio cyfarpar ar gyfer casglu a dadansoddi data o bysgod marw ar ôl eu defnyddio, yn unol â gofynion
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch wrth gasglu a dadansoddi data o bysgod marw
- cofnodi a chyflwyno data o bysgod marw yn gywir gan ddefnyddio systemau sefydliadol, gan amlygu unrhyw ganfyddiadau annisgwyl
- cwblhau archwiliadau gwallau ar ddata a gasglwyd o bysgod marw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â chasglu a dadansoddi data o bysgod marw
- pwysigrwydd defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir
- sut i gasglu a pharatoi samplau o bysgod marw i’w dadansoddi
- sut i ddefnyddio protocolau safonol y diwydiant pysgota i nodi oedran pysgod, ynghyd â dadansoddi ôl-gyfrifiadau o batrymau twf (cen a defnyddio esgyrn)
- sut i dynnu deunyddiau o bysgod marw i nodi oedran pysgod
- anatomi a ffisioleg pysgod
- abnormaleddau cyffredin pysgod a’u hachosion
- parasitiaid cyffredin (mewnol ac allanol) pysgod
- sut i nodi a dosbarthu cynnwys stumog pysgod marw
- sut i ddadansoddi data o bysgod marw
- technegau cyflwyno data (histogramau hyd/amlder) wrth ddadansoddi data o bysgod marw
- technegau ystadegol a defnyddir i ddadansoddi data o bysgod marw
- technegau gwahanol ar gyfer cyflwyno data o bysgod marw
- pwysigrwydd archwilio data am wallau, i ddileu camgymeriadau a chadarnhau cywirdeb y data sydd i’w ddadansoddi a/neu ei gyflwyno
- sut i gael at gyngor a chymorth ychwanegol
- pwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch a’u rôl o ran lleihau risgiau i’r bysgodfa
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau dadansoddi:
- dadansoddi cynnwys stumog
- llwyth parasitiaid mewnol
- llwyth parasitiaid allanol
- rhyw ac aeddfedrwydd
- patholeg gros fewnol
- patholeg gros allanol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2021
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANFiM17
Galwedigaethau Perthnasol
Swyddog Datblygu Pysgodfeydd, Biolegydd Pysgodfeydd, Cynorthwyydd Maes
Cod SOC
1212
Geiriau Allweddol
pysgodfeydd; data; casglu; goruchwylio