Rheoli gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth

URN: LANFLR9
Sectorau Busnes (Suites): Blodeuwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 12 Ebr 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys rheoli gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth.  Rheoli hyfforddiant a datblygiad staff mewn perthynas â gwasanaeth cwsmeriaid, systemau, cyfarpar a thechnolegau, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliadol, data cyfredol a diogelu data sydd yn berthnasol i’r amgylchedd blodeuwriaeth.  Yn ogystal â rheoli ymchwil defnyddwyr, rheoli strwythurau prisiau o fewn deddfwriaeth yr amgylchedd blodeuwriaeth a rheoli datblygu a chyflwyno dyluniadau blodau sydd yn cwmpasu anghenion diwylliannol ac amrywiol y cwmser.

Gallai’r cwsmeriaid yn y safon hon fod yn gwsmeriaid sydd yn rhoi archeb flodau yn uniongyrchol i’r gwerthwr blodau, asiantaethau sydd yn gysylltiedig ag archebu ar ran cleient, y cwsmer sydd yn derbyn yr archeb ond nid yn rhoi’r archeb yn uniongyrchol.

Mae’r NOS hwn yn addas ar gyfer Gwerthwr Blodau Datblygedig gyda rhywfaint o gyfrifoldeb dros staff.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Rheoli gofynion staffio ac amserlenni gweithleoedd er mwyn gwella gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
  2. Rheoli a datblygu hyfforddiant yr holl staff mewn perthynas â gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
  3. Gweithredu hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer yr holl staff, yn cynnwys sgiliau cyfathrebu, mewn amgylchedd blodeuwriaeth
  4. Rheoli a gweithredu hyfforddiant ar bolisïau a gweithdrefnau’r sefydliadol sydd yn berthnasol i wasanaeth cwsmeriaid, y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr cyfredol a’r holl gyfraith defnyddwyr sy’n ymddangos
  5. Gweithredu hyfforddiant ar ddefnyddio systemau, cyfarpar a thechnolegau a ddefnyddir i alluogi’r gwaith o brosesu gofynion cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
  6. Gweithredu hyfforddiant yn ymwneud â defnyddio a storio gwybodaeth am cwsmeriaid yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad a deddfwriaeth gyfredol
  7. Rheoli cydymffurfiaeth gan yr holl staff â deddfwriaeth gyfredol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad yn ymwneud â gofal defnyddwyr
  8. Datblygu a gweithredu offer ymchwil i gynorthwyo’r ddealltwriaeth o ofynion cwsmeriaid
  9. Rheoli ymchwil i ofynion cwsmeriaid i helpu’r busnes i ddatblygu cyfleoedd gwerthu a gweithgareddau hyrwyddo yn y dyfodol
  10. Arwain staff iau i ddatblygu a chyflwyno dyluniadau blodau sydd yn cwmpasu anghenion diwylliannol ac amrywiol demograffeg defnyddwyr
  11. Cynorthwyo staff iau i ymateb i gwestiynau ac ymholiadau cwsmeriaid yn ymwneud ag opsiynau blodeuwriaeth a gyflwynir i’r cwsmer
  12. Rheoli ystod gymhleth o ofynion cwsmeriaid lle mae angen cydweithrediad sawl parti i gyflawni canlyniad llwyddiannus
  13. Sefydlu, gweithredu a monitro’r strwythur prisio ar gyfer blodau, planhigion a manion bethau yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i helpu i wella gwasanaeth cwsmeriaid

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Sut i reoli gofynion staffio ac amserlenni gweithle er mwyn gwella rheolaeth gwasanaeth cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
  2. Sut i reoli, datblygu a gweithredu hyfforddiant yr holl staff mewn perthynas â gwasanaeth cwsmeriaid, polisïau a gweithdrefnau’r sefydliadol perthnasol, y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr gyfredol a chyfraith defnyddwyr sy’n ymddangos i’r amlwg, mewn amgylchedd blodeuwriaeth
  3. Pwysigrwydd hyfforddi’r holl staff ar ddefnyddio systemau, cyfarpar a thechnolegau i alluogi’r gwaith o brosesu gofynion cwsmeriaid mewn amgylchedd blodeuwriaeth
  4. Pwysigrwydd hyfforddi’r holl staff yn ymwneud â defnyddio a storio gwybodaeth am y cwsmeriaid yn ddiogel yn unol â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol a deddfwriaeth gyfredol
  5. Sut i reoli cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol a pholisi a gweithdrefnau’r sefydliadol yn ymwneud â gofal defnyddwyr gan yr holl staff
  6. Y mathau gwahanol o amrywiaeth diwylliannol o fewn sylfaen cwsmeriaid/demograffeg defnyddwyr y busnes
  7. Sut i ddatblygu a gweithredu offer ymchwil i ddeall gofynion cwsmeriaid
  8. Sut i reoli’r gwaith ymchwil i ofynion cwsmeriaid i helpu’r busnes blodeuwriaeth i ddatblygu cyfleoedd gwerthu a gweithgareddau hyrwyddo yn y dyfodol
  9. Sut i arwain staff iau wrth ddatblygu a chyflwyno dyluniadau blodau sydd yn cwmpasu anghenion diwylliannol ac amrywiol demograffeg defnyddwyr
  10. Pwysigrwydd cynorthwyo staff iau i ymateb i gwestiynau ac ymholiadau cwsmeriaid yn ymwneud â’r opsiynau blodeuwriaeth a gyflwynir i’r cwsmer
  11. Sut i gydweithredu â sawl parti i gyflwyno ystod gymhleth o ofynion cwsmeriaid
  12. Sut i sefydlu, gweithredu a monitro strwythur prisiau blodau, planhigion a manion bethau yn yr amgylchedd blodeuwriaeth i helpu i wella gwasanaeth cwsmeriaid

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deunydd Botanegol Ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri. 

Dull enwi: Y ffordd y mae deunyddiau botanegol yn cael eu hadnabod gan ddefnyddio eu genws, rhywogaeth ac amrywiad.

Heneiddiad: Y broses o’r ffordd y mae deunydd botanegol yn aeddfedu ar ôl eu torri.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

12 Ebr 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFLR3

Galwedigaethau Perthnasol

Gwerthwr Blodau Datblygedig

Cod SOC

1150

Geiriau Allweddol

Blodau; planhigion; gwerthiannau; gwerthu blodau;