Adnabod, gwirio, rheoli a chynnal deunyddiau botanegol ffres ar gyfer eu dylunio a’u gwerthu

URN: LANFLR1
Sectorau Busnes (Suites): Blodeuwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 12 Ebr 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag adnabod, gwirio, rheoli a chynnal deunyddiau botanegol ffres ar gyfer eu dylunio a’u gwerthu.  Mae deunyddiau botanegol ffres yn cynnwys blodau, deiliach a phlanhigion.

Bydd y safon hon yn cynnwys gwirio’r deunydd botanegol am dystiolaeth o blâu, clefydau, niwed neu ddirywiad, yn ogystal â thrin deunydd planhigion neu flodau gwenwynig/llidiog.

Mae’r safon hon hefyd yn cynnwys gofalu am, rheoli a storio ystod o ddeunyddiau botanegol ffres, yn ogystal â chynnal ansawdd stoc, lefelau stoc a chylchdroi stoc gan ystyried gwastraff stoc.

Wrth wneud y gwaith i gyd, mae’n rhaid ystyried yr effaith ar yr amgylchedd.

Bydd y gwaith i gyd yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer pob Gwerthwr Blodau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Dewis a pharatoi’r offer, y cyfarpar a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer rheoli deunyddiau botanegol ffres ar gyfer eu dylunio a’u gwerthu
  2. Adnabod Genws, rhywogaeth a cyltifar wrth wirio deunyddiau botanegol yn erbyn anfoneb/nodyn dosbarthu ar gyfer nwyddau sydd yn dod i mewn neu yn erbyn stoc y presennol yn y siop, i gadarnhau eu bod o’r math, y nifer a’r ansawdd cywir
  3. Defnyddio ystod o brosesau planhigion yn cynnwys ffotosynthesis, trydarthiad, respiradu, anweddiad, osmosis, trylediad, gwelwder a thropeddau
  4. Gwirio ac adnabod y deunyddiau botanegol ffres ar gyfer unrhyw dystiolaeth o blâu, clefydau, niwed neu ddirywiad a dilyn gweithdrefnau sefydliadol os oes problemau’n cael eu nodi
  5. Defnyddio’r dulliau perthnasol i ddadbacio deunydd wedi ei becynnu, ei glymu ynghyd a deunyddiau planhigion gwenwynig/llidiog, i gynnal eu cyflwr ar gyfer eu dylunio a’u gwerthu
  6. Dewis a pharatoi cynwysyddion addas, lle bo angen, ar gyfer y deunyddiau botanegol ffres sydd yn cael eu rheoli a sicrhau bod y gweithdrefnau hylendid cywir yn cael eu dilyn
  7. Rheoli a storio deunyddiau botanegol ffres wedi eu blaenoriaethu yn unol â’u gofynion gofal
  8. Dilyn canllawiau’r cynhyrchwyr wrth ddefnyddio cynnyrch wedi eu rheoli i gynnal y deunyddiau botanegol ffres
  9. Cynnal amodau storio ac ardaloedd storio oer, lle bo angen, i gynnal ansawdd y deunyddiau botanegol ffres
  10. Adnabod a monitro ansawdd a lefelau stoc botanegol gan ystyried gofynion busnes yn y dyfodol
  11. Gwaredu deunyddiau gwastraff mewn ffordd addas, gan ddilyn systemau rheoli gwastraff, deddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  12. Cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  13. Gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Y mathau o offer, cyfarpar a chyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol ar gyfer rheoli’r deunyddiau botanegol ffres
  2. Y defnydd o ddulliau enwi ac enwau cyffredin y deunyddiau botanegol ffres, yn cynnwys Genws, rhywogaethau a cyltifar/amrywiad
  3. Y gadwyn gyflenwi o ddeunyddiau botanegol ffres yn y diwydiant blodeuwriaeth
  4. Tymoroldeb naturiol y deunyddiau botanegol a’r argaeledd masnachol cyfredol
  5. Ystod o brosesau planhigion yn cynnwys ffotosynthesis, trydarthiad, resbiradu, anweddiad, osmosis, trylediad, gwelwder a thropeddau
  6. Sut i wirio ac adnabod presenolodeb plâu, clefydau, niwed neu ddirywiad sydd yn effeithio ar y deunyddiau botanegol ffres a’r camau i’w cymryd os ydynt yn bresennol
  7. Y dulliau gwahanol i’w defnyddio wrth ddadbacio deunyddiau planhigion wedi eu pecynnu, eu clymu ynghyd neu wenwynig/llidiog i gynnal eu cyflwr ar gyfer eu dylunio a’u gwerthu
  8. Y mathau o ddeunyddiau botanegol llidiog a gwenwynig a sut dylid eu trin
  9. Sut i ddewis a pharatoi cynwysyddion addas, lle bo angen, ar gyfer y deunyddiau botanegol ffres sydd yn cael eu rheoli
  10. Sut i reoli a storio deunyddiau planhigion ffres mewn trefn, gan flaenoriaethu deunyddiau yn unol â’u gofynion gofal botanegol
  11. Y dulliau rheoli gwahanol a’u cymhwysiad sy’n berthnasol i ddeunyddiau botanegol penodol sydd yn cael eu trin
  12. Yr amodau amgylcheddol gorau ar gyfer deunyddiau botanegol ffres sydd yn cael eu trin, yn cynnwys tymheredd, lleithder, golau, dŵr a maethynnau
  13. Sut i gynnal amodau storio ac ardaloedd storio oer, lle bo angen, i gynnal ansawdd deunyddiau botanegol ffres
  14. Egwyddorion cylchdroi stoc ar gyfer deunyddiau botanegol ffres
  15. Bywyd deunyddiau botanegol ffres ar ôl eu cynaeafu a sut gall ffactorau allanol ddylanwadu ar hyn
  16. Sut i waredu deunyddiau gwastraff mewn ffordd gynaliadwy, gan ddilyn unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau a gweithdrefnau’r sefydliad
  17. Pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch, a’r dulliau ar gyfer cyflawni’r rhain
  18. Y ddeddfwriaeth, y polisïau a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer materion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cyflwr ac ystod helaeth deunydd botanegol ffres:

  1. Deiliach
  2. Aeron

  3. Blodau

  4. Glaswellt

Rheoli deunyddiau botanegol ffres ar gyfer eu dylunio a’u gwerthu gan ddefnyddio’r cyfarpar rheoli canlynol:

  1. Siswrn
  2. Cyllyll
  3. Gwellau
  4. Bwyd blodau
  5. Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  6. Cynwysyddion

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Deunydd Botanegol ffres: Planhigion, blodau wedi eu torri, deiliach wedi eu torri. 

Dull enwi: Sut mae deunyddiau botanegol yn cael eu hadnabod gan ddefnyddio eu Genws, rhywogaethau ac amrywiad.

Heneiddiad: Y broses aeddfedu gan ddeunyddiau botanegol unwaith y cânt eu torri.

Rheoli – Paratoi deunyddiau ffres cyn eu defnyddio er mwyn sicrhau eu
hirhoedledd

Amodau amgylcheddol y deunyddiau: golau, lleithder, tymheredd, dŵr a maethynnau

Storfa Oer:

  • Ystafell oer
  • Oerydd blodau
  • Ardal oer

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

12 Ebr 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANFLR1

Galwedigaethau Perthnasol

Gwerthwr Blodau Iau, Gwerthwr Blodau Uwch, Gwerthwr Blodau Datblygedig

Cod SOC

7111

Geiriau Allweddol

Gwerthwr Blodau; blodau; planhigion; deiliach; dull enwi; heneiddiad;