Cynllunio a sefydlu archwiliad amgylcheddol sefydliadol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer cynllunio a sefydlu archwiliad amgylcheddol sefydliadol. Mae'n cynnwys y gwaith paratoi sydd yn ofynnol i gynnal archwiliad amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
- Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
- Cydlynydd systemau reoli amgylcheddol neu gyfwerth
- Archwilydd amgylcheddol
- Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn cynnwys y gwaith paratoi sydd yn ofynnol i gynnal archwiliad amgylcheddol sefydliadol effeithiol, gan ystyried yr adnoddau, yr amcanion archwilio a'r dulliau cyfathrebu sydd yn ofynnol.
Mae'n rhaid i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â chynllunio a sefydlu archwiliad amgylcheddol sefydliadol ystyried cyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd y cynnyrch, gwasanaethau, a'r gweithgareddau y mae'r sefydliad yn eu cynnig. Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon y cynnyrch a'r gwasanaethau. Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn reoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy. Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Nodi amcanion yr archwiliad amgylcheddol sefydliadol a nodi beth yw mesurau llwyddiant
- Sefydlu'r rhanddeiliaid perthnasol i gysylltu â nhw yn ystod y broses archwilio, yn cynnwys y rheiny o'r nodweddion gwarchodedig
- Cynllunio a sefydlu'r cyfrifoldebau a'r adnoddau sydd yn ofynnol i gynnal yr archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Cynllunio a sefydlu'r technegau archwilio sydd yn ofynnol i gyflawni amcanion yr archwiliad a phennu a yw'r sefydliad yn bodloni'r mesurau y cytunwyd arnynt
- Sefydlu dulliau cyfathrebu addas yn ystod ac ar ôl y broses archwilio
- Cyfathrebu amcanion yr archwiliad gyda'r holl randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig
- Sefydlu'r ffynonellau gwybodaeth i'w defnyddio yn ystod y broses archwilio
- Cadarnhau bod yr amcanion archwilio yn realistig ac yn bodloni gofynion y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Sut i sefydlu amcanion yr archwiliad amgylcheddol sefydliadol a'r mesurau llwyddiant
- Y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o'r nodweddion gwarchodedig, i gysylltu â nhw yn ystod y broses archwilio
- Sut i gynllunio a sefydlu'r cyfrifoldebau a'r adnoddau sydd yn ofynnol i gynnal yr archwiliad amgylcheddol sefydliadol
- Y mathau gwahanol o archwiliadau amgylcheddol
- Rôl archwiliadau amgylcheddol a sefyllfaoedd lle maent yn berthnasol
- Y cyfnodau yn y broses archwilio amgylcheddol
- Y technegau archwilio i gael eu defnyddio a'r rhesymau dros eu dewis
- Sut i bennu mesurau llwyddiant ac asesu a yw sefydliad yn bodloni'r mesurau y cytunwyd arnynt
- Yr agweddau hynny o'r sefydliad i gael eu harchwilio a ffynonellau gwybodaeth
- Sut i nodi a chael unrhyw arbenigedd archwilio ychwanegol pan fo angen
- Y dulliau o gysylltu â rhanddeiliaid perthnasol yn ystod ac ar ôl y broses archwilio
- Sut i ddiffinio'r lefel berthnasol o gyswllt ac ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol