Nodi’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a’r gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill ar gyfer y sefydliad a phennu cydymffurfio

URN: LANEM7
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae’r safon hon yn disgrifio’r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn nodi’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a’r gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill ar gyfer sefydliad ac yn pennu cydymffurfio.

Gellir nodi pan mae sefydliad yn penderfynu gwerthuso’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a’r gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill gyntaf, neu fel rhan o welliant parhaus.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer:

· Unrhyw un sydd â chyfrifoldeb mewn sefydliad ar gyfer nodi gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill ar gyfer y sefydliad a phennu cydymffurfio.

Mae’r safon hon yn cynnwys nodi’r ddeddfwriaeth amgylcheddol bresennol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill sydd yn ymwneud â’r sefydliad, ac unrhyw ofynion sydd yn benodol i sector, cwsmer neu sefydliad. Gallai’r rhain gynnwys cynlluniau sydd yn cadw at arfer da neu wasanaethau gyda gwerth ychwanegol.  Gall deddfwriaeth ddod ar draws y gwledydd datganoledig, yn lleol, yn rhanbarthol yn ogystal â deddfwriaeth Genedlaethol a Rhyngwladol.

Mae hefyd yn cynnwys gwerthuso perfformiad amgylcheddol y sefydliad yn erbyn y gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill i bennu cydymffurfio a sicrhau bod y cydymffurfio parhaus â gofynion cyfreithiol amgylcheddol yn cael ei arddangos trwy reoli, cofnodi a chyfathrebu.

Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.  Mae angen i’r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal ag ar lefel leol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Nodi ffynonellau gwybodaeth perthnasol ar ofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

2.  Defnyddio methodoleg wedi ei chymeradwyo'n sefydliadol i nodi a chael mynediad at ofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

3.  Pennu sut mae gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill yn berthnasol i agweddau amgylcheddol y sefydliad

4.  Ymgysylltu rhanddeiliaid perthnasol yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, wrth werthuso cydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

5.  Defnyddio methodoleg wedi ei chymeradwyo'n sefydliadol i werthuso cydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill y sefydliad

6.  Pennu cydymffurfio sefydliadol â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill y sefydliad

7.  Sefydlu'r rheolaethau sydd yn cadarnhau cydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill y sefydliad

8.  Cofnodi canlyniadau'r gwerthusiad gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol

9.  Cynnig opsiynau ar gyfer rheolaeth sefydliadau o'u hagweddau amgylcheddol, er mwyn sicrhau cydymffurfio parhaus â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

10.  Cyfathrebu canlyniad y gwerthusiad i randdeiliaid perthnasol yn y sefydliad

11.  Ymgysylltu â'r rhanddeiliaid perthnasol yn y broses o sicrhau cydymffurfio parhaus â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

12.  Defnyddio methodoleg wedi ei chymeradwyo'n sefydliadol i gynnal ymwybyddiaeth o ofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill yn ymwneud ag agweddau amgylcheddol y sefydlia

13.  Nodi'r gofynion cymorth ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio i neu ar ran y sefydliad i gadarnhau cydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

14.  Cyfathrebu unrhyw ofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill i'r person/au sydd yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfio cyfreithiol amgylcheddol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Rhanddeiliaid allweddol mewnol ac allanol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, y sefydliad

2.  Y gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a'r gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill sy'n berthnasol i'r sefydliad

3.  Sut i gael mynediad at ffynonellau gwybodaeth perthnasol ar ofynion ac arbenigedd amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion ac arbenigedd amgylcheddol anrheoliadol eraill

4.  Sut i bennu sut mae gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill yn berthnasol i agweddau amgylcheddol y sefydliad

5.  Y prif reoleiddwyr a'r cyrff gorfodi amgylcheddol

6.  Y canlyniadau i'r sefydliad, sydd yn gysylltiedig â thorri rheolau deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol

7.  Y gofynion ar gyfer dogfennau amgylcheddol cyfreithiol sydd yn berthnasol i'r sefydliad

8.  Gofynion amgylcheddol eraill sydd yn berthnasol i'r sector a'r sefydliad

9.  Y rhesymau dros gydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill y sefydliad

10.  Y dulliau gwahanol sydd ar gael ar gyfer gwerthuso cydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill y sefydliad

11.  Sut i ymgysylltu rhanddeiliaid perthnasol yn y broses o nodi a gwerthuso cydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

12.  Diben a defnydd o fecanweithiau rheoli i gynorthwyo cydymffurfiad sefydliadau â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

13.  Y broses o adnabod a gweithredu gweithredoedd cywiro, ataliol neu wella

14.  Y dulliau ar gyfer cyfathrebu canlyniad gwerthuso i bennu cydymffurfio â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

15.  Yr agweddau amgylcheddol sydd yn gysylltiedig â sefyllfaoedd annormal brys gyda'r sefydliad

16.  Y rhesymau dros gynnal ymwybyddiaeth o'r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a'r gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill

17.  Y dulliau gwahanol sydd ar gael ar gyfer cadarnhau cydymffurfio parhaus â gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol presennol eraill y sefydliad

18.  Sut i gofnodi eich canfyddiadau ar fformat wedi ei gymeradwyo'n sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gofynion amgylcheddol eraill: cydsyniadau rhyddhau, trwyddedau proses, trwyddedau a dogfennau awdurdodi, cofnodi gwastraff yn cynnwys nodiadau trosglwyddo, cynlluniau rheoli gwastraff safle, nodiadau anfon gwastraff peryglus


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwr Amgylcheddol, Perchennog/Rheolwr, Swyddog Polisi Amgylcheddol, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; deddfwriaeth; cyfraith; asesiad