Cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

URN: LANEM6
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol.  Mae polisi Rheolaeth Amgylcheddol yn ddatganiad ysgrifenedig yn crynhoi bwriadau'r sefydliad yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol, ôl troed carbon, prynu moesegol, cynaliadwyedd ac ymgysylltu cymunedol lleol a llawer mwy.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

Unrhyw un sydd yn cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

Mae'r safon hon yn cynnwys cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol gyda'r bwriad o argymell gwelliannau.

Mae hefyd yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig ag asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol.

Dylai'r ffocws ar gyfer gwerthuso ac argymell gwelliannau i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol ddeillio o iechyd ac effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn deillio o broses gylchol, arloesol, lle nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu a lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, a bioamrywiaeth yn cael ei ddiogelu, ei werthfawrogi a'i adfer mewn ffyrdd sydd yn gwella cadernid cymdeithas.  Mae angen i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol ganolbwyntio ar y ffordd y gallwn ddatgysylltu o ddefnyddio adnoddau a gosod safon ar gyfer cymdeithas ddiogel a chynaliadwy.

Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt fod yn fwy cynaliadwy.  Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith garbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol.  Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  Cyfrannu at nodi polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol a all fod angen asesiad effaith a gwerthusiad ar gyfer gwella

2.  Cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol ac ymrwymiadau mewnol ac allanol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

3.  Cyfrannu at gynnal Asesiadau Effaith perthnasol ar y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol a nodir i nodi unrhyw effeithiau tebygol neu wirioneddol y gallai y polisïau eu cael

4.  Cyfrannu at nodi bylchau, hepgoriadau a gwelliannau i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol ac ymrwymiadau yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol sefydliadol

5.  Cyfrannu at gofnodi'r canfyddiadau mewn fformat sydd yn bodloni gofynion sefydliadol a'r technegau gorau sydd ar gael, yn seiliedig ar ddulliau cofnodi cydnabyddedig a deddfwriaeth berthnasol

6.  Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, ar gynnwys y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

7.  Cyfrannu at adolygu'r adborth gan randdeiliaid i gynorthwyo'r gwaith o baratoi'r argymhellion

8.  Cyfrannu at baratoi argymhellion yn seiliedig ar y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

9.  Cadarnhau bod yr argymhellion yn seiliedig ar agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad, deddfwriaeth berthnasol a'u bod yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill

10.  Cyfrannu at sicrhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn cynnwys ymrwymiad i welliant parhaus mewn perfformiad amgylcheddol sefydliadol

11.  Cyfrannu at sicrhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn darparu fframwaith ar gyfer amcanion amgylcheddol

12.  Cyfrannu at sicrhau bod yr argymhellion ar gyfer y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn berthnasol inatur a graddfa'r sefydliad a'u bod yn y fformat sydd yn ofynnol ar gyfer rhandeiliaid, yn cynnwys uwch rheolwyr ac arweinwyr

13.  Ymgysylltu a chyfathrebu argymhellion y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol i randdeiliaid yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr

14.  Cyfrannu at nodi mesurau ar gyfer monitro a yw'r argymhellion ar gyfer polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol yn weithredol

15.  Gwneud cais am adborth parhaus gan randdeiliaid ar gynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Diben polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

2.  Y mathau o ganllawiau yn ymwneud â chynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

3.  Agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

4.  Gofynion deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r sefydliad a pholisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

5.  Yr ymrwymiadau sefydliadol presennol sydd yn berthnasol i'r agweddau a'r effeithiau amgylcheddol a chynnwys polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

6.  Y systemau, offer a'r dulliau sefydliadol sydd wedi eu sefydlu, os o gwbl, ar gyfer cyfrannu at asesu a gwerthuso polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

7.  Y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, y mae'n ofynnol iddynt adolygu polisïau rheolaeth amgylcheddol sefydliadol perthnasol

8.  Y mathau o Asesiadau Effaith sydd yn ofynnol i werthuso ac asesu effaith y polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol

9.  Sut i adnabod meysydd lle gellir gwella polisïau ac ymrwymiadau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol

10.  Pwysigrwydd cofnodi canfyddiadau ar fformat perthnasol

11.  Sut i ddefnyddio'r canfyddiadau o adolygiad polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol ac ymrwymiadau sefydliadol i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r polisïau

12.  Sut i ymgysylltu a chyfathrebu argymhellion ar bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr

13.  Y mathau o fesurau ar gyfer monitro a yw'r polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol presennol yn weithredol

14.  Pwysigrwydd gwelliant parhaus yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Asesiadau Effaith:

Asesu Effaith ar Gydraddoldeb (ar bobl yn ymwneud ag anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu oed)

Asesu Effaith Reoliadol

Asesu risg

Asesu Effaith ar Iechyd a Hawliau Dynol

Asesu Effaith Amgylcheddol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Amgylcheddol, Swyddog Polisi Amgylcheddol

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd