Cyfrannu at ddatblygiad polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

URN: LANEM4
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â chyfrannu at ddatblygu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd.  Mae polisi Rheolaeth Amgylcheddol yn ddatganiad ysgrifenedig sydd yn crynhoi bwriadau'r sefydliad yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol, ôl troed carbon, prynu moesegol, cynaliadwyedd, ymgysylltu cymunedol lleol a llawer mwy.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

Unrhyw un sydd yn cyfrannu at ddatblygu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd.

Mae'r safon hon yn cynnwys cyfrannu at ddatblygiad polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd, naill ai'n seiliedig ar adolygu a gwerthuso polisïau amgylcheddol presennol ac ymrwymiadau amgylcheddol y sefydliad neu yn achos sefydliad newydd, mewn ymgynghoriad ag uwch reolwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill.

Mae hefyd yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig â datblygu polisi amgylcheddol newydd, cyn, yn ystod ac ar ôl ei ddatblygiad.

Dylai'r ffocws ar gyfer polisïau Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd ddeillio o iechyd ac effaith gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ddeillio o broses gylchol, arloesol lle nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu a lle mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy, ac mae bioamrywiaeth yn cael ei ddiogelu, ei werthfawrogi a'i adfer mewn ffyrdd sydd yn gwella cadernid cymdeithas.  Mae angen i bolisïau Rheolaeth Amgylcheddol ganolbwyntio ar y ffordd y gallwn ddatgysylltu o'r defnydd o adnoddau a gosod safon ar gyfer cymdeithas ddiogel a chynaliadwy.

Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.  Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol.

Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cyfrannu at nodi unrhyw bolisïau amgylcheddol sefydliadol presennol ac ymrwymiadau sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
  2. Cyfrannu at adolygu a gwerthuso unrhyw bolisïau amgylcheddol presennol ac ymrwymiadau sefydliadol sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau arwyddocaol y sefydliad
  3. Cyfrannu at gynnal Asesiadau Effaith perthnasol ar unrhyw bolisïau amgylcheddol sefydliadol a nodir i nodi unrhyw effeithiau tebygol neu wirioneddol y gallai'r polisïau fod wedi eu cael ar berfformiad amgylcheddol y sefydliad
  4. Cyfrannu at nodi bylchau, hepgoriadau a gwelliannau i unrhyw bolisïau amgylcheddol presennol ac ymrwymiadau sefydliadol
  5. Cyfrannu at gofnodi'r canfyddiadau mewn fformat sydd yn bodloni gofynion sefydliadol a'r dechneg orau sydd ar gael yn seiliedig ar ddulliau cofnodi cydnabyddedig a deddfwriaeth berthnasol
  6. Cyfrannu at baratoi drafft o'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd, yn seiliedig ar eich canfyddiad ac agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
  7. Ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o'r nodweddion gwarchodedig, ar gynnwys y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft
  8. Cyfrannu at adolygu'r adborth gan randdeiliaid perthnasol i gynorthwyo'r gwaith o ddiweddaru'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft lle bo angen
  9. Cyfrannu at baratoi fersiwn terfynol o'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd, yn seiliedig ar agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad, a'i fod yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill
  10. Ymgysylltu a chyfathrebu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd i randdeiliaid, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr
  11. Cyfrannu at nodi mesurau ar gyfer monitro a yw'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd yn weithredol
  12. Gwneud cais am adborth parhaus gan randdeiliaid perthnasol ar gynnwys y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  Gweledigaeth amgylcheddol y sefydliad a ble maent yn dymuno bod

2.  Diben y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

3.  Agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

4.  Gofynion deddfwriaeth amgylcheddol sydd yn berthnasol i'r sefydliad a'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

5.  Polisïau sefydliadol presennol ac ymrwymiadau sydd yn berthnasol i agweddau ac effeithiau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad

6.  Pwysigrwydd adolygu a gwerthuso polisïau amgylcheddol ac ymrwymiadau sefydliadol presennol

7.  Sut i adnabod meysydd lle gellir gwella polisïau ac ymrwymiadau amgylcheddol sefydliadol presennol

8.  Pwysigrwydd cofnodi canfyddiadau ar fformat sydd yn bodloni gofynion y sefydliad a sut i ddefnyddio'r canfyddiadau i gynorthwyo drafftio'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

9.  Sut i gynhyrchu polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd sydd yn berthnasol i natur a graddfa'r sefydliad

10.  Fformat gofynnol y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol newydd

11.  Y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, y mae'n ofynnol iddynt adolygu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft

12.  Pwysigrwydd adolygu adborth gan randdeiliaid perthnasol wrth ddiweddaru'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol drafft

13.  Pwysigrwydd paratoi fersiwn terfynol y polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol, yn seiliedig ar yr agweddau a'r effeithiau arwyddocaol a nodir, canfyddiadau unrhyw bolisïau amgylcheddol presennol, adborth gan randdeiliaid, deddfwriaeth berthnasol ac sydd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau sefydliadol eraill

14.  Pwysigrwydd gwelliant parhaus sefydliadol o ran perfformiad amgylcheddol

15.  Sut i ymgysylltu a chyfathrebu'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys uwch reolwyr ac arweinwyr

16.  Y mathau o fesurau ar gyfer monitro a yw'r polisi Rheolaeth Amgylcheddol sefydliadol yn weithredol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Asesiadau Effaith:

Asesu Effaith ar Gydraddoldeb (ar bobl yn ymwneud ag anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu oed)

Asesu Effaith Reoliadol

Asesu Risg

Asesu Effaith ar Iechyd a Hawliau Dynol

Asesu Effaith Amgylcheddol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Amgylcheddol, Swyddog Polisi Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesu; llygredd; diogelu; hinsawdd