Pennu gofynion Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ac adolygu’r Datganiad Amgylcheddol ar gyfer cynnig prosiect

URN: LANEM25
Sectorau Busnes (Suites): Asesu’r Effaith ar Gynllunio a Datblygu
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu gofynion Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA) ar gyfer cynnig prosiect.  Mae EIA yn broses systematig i nodi, rhagfynegi, cyfathrebu a gwerthuso effeithiau amgylcheddol gweithredoedd a phrosiectau arfaethedig.

Mae camau allweddol EIA fel a ganlyn:

  1. Nodi cynnig
  2. Sgrinio

  3. Cwmpasu

  4. Asesu effaith gadarnhaol a negyddol
  5. Lleddfu
  6. Paratoi Datganiad Amgylcheddol (ES)
  7. Adolygu
  8. Gwneud penderfyniadau
  9. Olrhain (monitro)

Fel isafswm, dylid cynnal ymgynghoriad gyda chyrff statudol a phartïon â diddordeb yn ystod cyfnodau cwmpasu ac adolygu EIA.  Dylid pwysleisio er bod EIA yn broses statudol ar gyfer rhai datblygiadau, nad yw'n broses hollol linellol.  Mae EIA yn broses ddeinamig ac ailadroddol sydd yn gofyn am ryngweithio rhwng cyfnodau wrth i'r asesiad ddatblygu, gyda dolenni adborth sydd yn galluogi cynigion y prosiect i gael eu mireinio a'u haddasu mewn ymateb i ganfyddiadau'r asesiad.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer rhywun sydd:

  • Yn gyfrifol am bennu a oes angen EIA yn gyfreithiol
  • Yn gyfrifol am gynghori cynigwyr prosiect am y testunau amgylcheddol y dylid eu cynnwys mewn EIA
  • Yn gyfrifol am adolygu Datganiad Amgylcheddol a gyflwynwyd i gefnogi cais cynllunio.

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Pennu rheoliadau'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA) sydd yn berthnasol i gynnig y prosiect
  2. Dadansoddi gwybodaeth amgylcheddol a manylion y prosiect i bennu a oes angen EIA ar gyfer cynnig prosiect
  3. Nodi'r gofynion hysbysiad penderfynu statudol a chyfathrebu'r penderfyniad i'r rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig
  4. Cofnodi a hysbysu'r rhanddeiliaid perthnasol yn ffurfiol, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol, am benderfyniad ar yr angen am EIA
  5. Dadansoddi unrhyw adroddiad cwmpasu a gwybodaeth leol berthnasol arall i bennu gofynion yr EIA
  6. Cymhwyso gofynion deddfwriaethol a rheoliadol perthnasol
  7. Nodi nodweddion amgylcheddol pwysig neu sensitif i bennu'r gofyniad am EIA
  8. Adnabod effeithiau arwyddocaol posibl sydd yn debygol o godi yn sgil cais prosiect, yn ynysig ac yn gronnol gyda chynigion prosiectau eraill
  9. Ymgysylltu ag ymgynghoreion statudol perthnasol i bennu'r safbwynt cwmpasu ar gyfer yr EIA
  10. Dehongli a chydgrynhoi cyngor gan ymgynghoreion statudol perthnasol a rhanddeiliaid perthnasol eraill
  11. Ysgrifennu safbwynt cwmpasu ar gyfer EIA
  12. Cyfathrebu safbwynt cwmpasu ar gyfer EIA i'r rhanddeiliaid perthnasol
  13. Dadansoddi'r wybodaeth a ddarparwyd yn y Datganiad Amgylcheddol (ES)
  14. Sicrhau cydymffurfio â gofynion rheoliadol perthnasol
  15. Nodi unrhyw ofynion gwybodaeth ychwanegol ar gyfer adolygu'r ES
  16. Adnabod ble mae angen mewnbwn technegol arbenigol ar gyfer yr adolygiad ES
  17. Cyfathrebu canfyddiadau'r adolygiad ES i'r rhanddeiliaid perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Diben Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA) a'i berthynas â'r broses reoliadol berthnasol
  2. Camau proses EIA a gweithdrefnau statudol
  3. Lleoliad a chynnwys deddfwriaeth berthnasol, rheolau cyfreithiol, dogfennau canllaw a pholisi
  4. Y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer cynnwys y Datganiad Amgylcheddol     (ES) a safonau arfer gorau ar gyfer fformat a strwythur ES
  5. Y mathau o ddulliau adolygu ES
  6. Yr effeithiau amgylcheddol posibl sydd yn deillio o'r mathau gwahanol o brosiectau
  7. Y dulliau asesu perthnasol a'r rhyngweithio cronnol posibl rhwng testunau EIA
  8. Pwysigrwydd ystyried dewisiadau amgen a lleddfiadau
  9. Yr ymgynghoreion statudol perthnasol, a phryd a sut i gyfathrebu ac ymgysylltu â nhw
  10. Sut i hysbysu cynigwyr, a'u hymgynghorwyr, am eich safbwynt sgrinio, eich safbwynt cwmpasu, a chanfyddiadau eich adolygiad o'r Datganiad Amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM26

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Amgylcheddol, Rheolwr Prosiect/Gweithredu, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol

Cod SOC

3112

Geiriau Allweddol

datganiad amgylcheddol; mesurau; llygredd; hinsawdd;