Monitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol

URN: LANEM21
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol.  Mae'n cynnwys sut i reoli dulliau a phrosesau i fonitro a gwerthuso gwelliannau i berfformiad ynni sefydliadol, sut i gael, dadansoddi a chofnodi gwybodaeth am welliannau i berfformiad ynni sefydliadol.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

  • Rheolwr â chyfrifoldeb dros reoli ynni
  • Perchennog busnes bach sydd yn ceisio gwella perfformiad ynni'r sefydliad
  • Cydlynydd systemau rheoli ynni neu gyfwerth
  • Archwilydd ynni
  • Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor ar reoli ynni.

Mae'r safon hon yn cynnwys monitro a gwerthuso canlyniadau gwella ynni a chreu adroddiadau ac ymgysylltu a chyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gwella perfformiad ynni.

Wrth fonitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol, mae angen i chi/y monitor gofio'r gofynion i ddiogelu natur a chryfhau cadernid ecolegol, hybu effeithlonrwydd adnoddau, gostwng twf carbon a lleihau bygythiadau i iechyd a lles dynol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi prosesau gwella perfformiad ynni sefydliadol sydd angen eu monitro a'u gwerthuso
  2. Nodi'r mathau o ddulliau monitro ar gyfer defnydd o ynni
  3. Nodi'r holl adnoddau sydd yn ofynnol i fonitro a gwerthuso gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol
  4. Monitro a gwerthuso'r gwelliannau a weithredwyd i berfformiad ynni yn unol â gofynion sefydliadol
  5. Gweithredu os nad yw gwelliannau a weithredwyd i berfformiad ynni sefydliadol yn cael eu cyflawni yn unol â chwmpas a diffiniad y prosesau gwella perfformiad ynni sefydliadol
  6. Lle bo angen, cael gwybodaeth am berfformiad ynni gan gyflenwyr cynnyrch a phrosesau, i helpu i nodi a yw gwelliannau i berfformiad ynni yn gweithio
  7. Cofnodi a recordio canfyddiad wrth fonitro a gwerthuso gwelliannau i berfformiad ynni sefydliadol
  8. Cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

    1. Y rhesymau dros, a buddion gwella, perfformiad ynni yn barhaus
    2. Y dulliau monitro gwahanol ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol
    3. Yr adnoddau sydd yn ofynnol i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau a wnaed i berfformiad ynni sefydliadol
    4. Y gofynion rheoliadol o ran effeithlonrwydd ynni sydd yn berthnasol i'r sefydliad
    5. Sut i adnabod yr angen am, a chael, arbenigedd ychwanegol o fewn y graddfeydd amser gofynnol
    6. Sut i adnabod sgiliau gofynnol rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig yn gwella perfformiad ynni
    7. Y ffyrdd y gall rhanddeiliaid perthnasol fod yn gysylltiedig â monitro a gwerthuso gwelliannau a'r rhesymau dros eu cyfranogiad
    8. Y rhwystrau posibl i wella effeithlonrwydd ynni a sut i'w hystyried wrth fonitro a gwerthuso
    9. Y rhesymau dros fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau
    10. Y dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso effeithiolrwydd gwelliannau
    11. Y gofynion sefydliadol a'r gweithdrefnau ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau
    12. Y ffyrdd y dylid cyfathrebu canlyniadau'r gwerthusiad i randdeiliaid perthnasol
    13. Y mathau o ddogfennau sydd yn ofynnol ar gyfer monitro a gwerthuso gwelliannau



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM9

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwr Amgylcheddol, Perchennog/Rheolwr, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol, Archwilydd Ynni

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd;