Monitro a gwerthuso perfformiad ynni adran neu brosiect
URN: LANEM19
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2021                        
                    
                Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth i fonitro a gwerthuso defnydd a pherfformiad ynni yr adran neu'r prosiect. Mae'n cynnwys sut i reoli dulliau a phrosesau sefydliadol a gwerthuso defnydd a pherfformiad ynni adran neu brosiect, sut i gael, dadansoddi a chofnodi'r wybodaeth am berfformiad ynni a darparu'r wybodaeth sydd yn ofynnol i gynyddu perfformiad ynni.
Mae'r safon hon ar gyfer:
- Rheolwr â chyfrifoldeb dros reoli ynni
 - Perchennog busnes bach sydd eisiau gwella perfformiad ynni y sefydliad
 - Cydlynydd systemau rheoli ynni neu gyfwerth
 - Archwiliwr ynni
 - Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor rheoli ynni.
 
Mae'r safon hon yn cynnwys monitro a gwerthuso canlyniadau perfformiad ynni, creu adroddiadau ac ymgysylltu a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig â chynyddu perfformiad ynni adran neu brosiect.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Diffinio cwmpas a diffinio prosesau perfformiad ynni adran neu brosiect sydd yn gofyn am fonitro a gwerthuso
 - Adolygu unrhyw ddulliau monitro perfformiad ynni adran neu brosiect yn unol â gofynion
 - Nodi dulliau monitro ar gyfer defnyddio ynni a, lle y bo'n berthnasol, adolygu yn erbyn dulliau presennol
 - Creu gweithdrefn i fonitro a gwerthuso defnydd a pherfformiad ynni adrannol neu brosiect
 - Nodi'r holl adnoddau sydd eu hangen i weithredu'r dulliau monitro
 - Gweithredu dulliau monitro yn unol â graddfeydd amser ac adnoddau
 - Cael a chofnodi'r wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer gwerthuso perfformiad ynni yr adran neu'r prosiect
 - Cael gwybodaeth am berfformiad ynni gan y cyflenwyr cynnyrch a phrosesau sydd yn cael eu cyflenwi i'r adran neu'r prosiect
 - Cofnodi a recordio perfformiad ynni'r adran neu'r prosiect
 - Gwerthuso a dadansoddi perfformiad ynni'r adran neu'r prosiect yn cynnwys gwybodaeth a dderbyniwyd gan gyflenwyr
 - Recordio a chofnodi canlyniadau'r gwerthusiad gan ddilyn gofynion sefydliadol
 - Cymharu'r canlyniadau â gofynion ynni presennol yr adran neu'r prosiect
 - Nodi a chytuno ar feysydd lle mae angen gwella perfformiad ynni yr adran neu'r prosiect
 - Cyfathrebu perfformiad ynni'r adran neu'r prosiect i randdeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y prosesau sydd yn gofyn am fonitro a gwerthuso
 - Yr ystod o ddulliau monitro ar gyfer gwerthuso defnydd adran neu brosiect o ynni a sut i ddewis y system(au) gofynnol
 - Sut i gydgrynhoi a chofnodi gwybodaeth am ddulliau a phrosesau monitro gan ddilyn gofynion sefydliadol
 - Sut i amcangyfrif yr adnoddau sydd yn ofynnol i weithredu'r dulliau a'r prosesau monitro
 - Sut i gael cymeradwyaeth ar gyfer yr adnoddau gofynnol i weithredu dulliau a phrosesau monitro
 - Sut i reoli'r adnoddau i weithredu dulliau a phrosesau monitro
 - Sut i gael a chofnodi'r wybodaeth sydd yn ofynnol i asesu effeithlonrwydd ynni adran neu brosiect o'r dulliau a'r prosesau monitro
 - Sut i gael gwybodaeth am berfformiad ynni gan gyflenwyr cynnyrch a phrosesau a gyflenwir i'r adran neu'r prosiect
 - Yr ystod o gyflenwyr a'r wybodaeth y gallant ei darparu ar effeithlonrwydd ynni eu cynnyrch a'u prosesau
 - Sut i gydgrynhoi a chofnodi gwybodaeth am berfformiad ac effeithlonrwydd ynni
 - Egwyddorion a phrosesau cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso
 - Yr ystod o ddulliau gwerthuso a dadansoddi a sut i ddatblygu a chymhwyso system(au) perthnasol
 - Sut i gydgrynhoi a chofnodi canlyniadau gwerthusiadau a dadansoddiadau
 - Sut i ddefnyddio canfyddiadau'r gwerthusiad i nodi meysydd posibl ar gyfer gwella perfformiad ynni adran neu brosiect a buddion gwella
 - Y ffynonellau ynni a ddefnyddir gan yr adran neu'r prosiect ac effaith amgylcheddol bob un
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANEM20
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr, Perchennog/Rheolwr, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol, Archwilydd Ynni        
    
Cod SOC
        1439
        
    
Geiriau Allweddol
            effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd;