Adolygu perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac argymell gwelliannau

URN: LANEM12
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd yn ofynnol i adolygu perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac argymell gwelliannau. Mae'r safon yn edrych ar nodi newidiadau a datblygu cynllun i roi'r rhain ar waith.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

  • Rheolwr â chyfrifoldeb dros reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
  • Unigolyn â briff penodol i adolygu perfformiad amgylcheddol
  • Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
  • Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.

Mae'r safon hon yn cynnwys mesur cyflawniad amcanion sefydliadol a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol a'r gwaith o nodi gwelliannau.

Mae'n cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu gan bawb sydd yn gysylltiedig â chyflawni amcanion sefydliadol a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol.

Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig ag adolygu perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac argymell gwelliannau fod yn gysylltiedig â chyfrifo carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau.  Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon.  Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.  Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lleol.  Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi amcanion a thargedau sefydliadol presennol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
  2. Sefydlu mesurau i werthuso cyflawni amcanion a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol
  3. Nodi, cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig, i gynorthwyo gydag adolygu a gwerthuso perfformiad amgylcheddol sefydliadol
  4. Adolygu a gwerthuso cyflawni amcanion a thargedau perfformiad amgylcheddol
  5. Nodi amrywiadau mewn perfformiad amgylcheddol a sefydlu'r rhesymau dros y rhain
  6. Nodi arfer da a meysydd gwella yn y sefydliad mewn perthynas â pherfformiad amgylcheddol
  7. Cofnodi'r canfyddiadau yn ymwneud â pherfformiad amgylcheddol sefydliadol a gwelliannau a argymhellir
  8. Cyfathrebu'r gwelliannau a argymhellir i berfformiad amgylcheddol i randdeiliaid perthnasol
  9. Sefydlu a chytuno ar gynllun newid, sydd yn nodi mesurau a'r effaith ar amcanion a thargedau a'r adnoddau sydd yn ofynnol
  10. Cadarnhau y bydd unrhyw adnoddau yn cael eu tarddu'n lleol os yn bosibl

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. Buddion i'r sefydliad a'r amgylchedd yn sgîl perfformiad amgylcheddol gwell
  2. Adnoddau sydd yn ofynnol i roi gwelliannau posibl i berfformiad amgylcheddol ar waith
  3. Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol a gofynion amgylcheddol anrheoliadol eraill sydd yn berthnasol i'r sefydliad
  4. Sut i adnabod y rhanddeiliaid perthnasol, yn cynnwys y rheiny o nodweddion gwarchodedig a gwerthuso eu safbwyntiau
  5. Arfer da presennol diwydiant sydd yn gysylltiedig â gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
  6. Dulliau ar gyfer meincnodi perfformiad amgylcheddol sefydliadol
  7. Dulliau ar gyfer adolygu a gwerthuso cyflawni amcanion a thargedau perfformiad amgylcheddol
  8. Y gwahaniaeth rhwng monitro perfformiad amgylcheddol gweithredol (rhagweithiol) a monitro adweithiol
  9. Sut i ragfynegi buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gwelliannau posibl i berfformiad amgylcheddol y sefydliad
  10. Y rhesymau dros, a buddion gwella perfformiad amgylcheddol yn barhaus
  11. Sut i gofnodi canfyddiad ar fformat addas a chyflwyno argymhellion i randdeiliaid perthnasol, ar gyfer gwelliannau i berfformiad amgylcheddol sefydliadol
  12. Dangosyddion Perfformiad Allweddol sydd yn gysylltiedig â gwelliant i berfformiad amgylcheddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM6

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Perchennog/Rheolwr, Swyddog Polisi Amgylcheddol, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol, Rheolaeth Amgylcheddol

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd;