Pennu a gweithredu amcan a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol

URN: LANEM11
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd yn ofynnol i bennu a gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol.  Mae'r safon yn edrych ar nodi amcanion a thargedau sefydliadol a datblygiad cynllun i weithredu'r rhain.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer:

  • Rheolwr â chyfrifoldeb dros reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Perchennog/rheolwr busnes sydd yn ceisio gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
  • Unigolyn â briff penodol i adolygu perfformiad amgylcheddol
  • Cydlynydd systemau rheolaeth amgylcheddol neu gyfwerth
  • Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.

Mae'r safon hon yn cynnwys pennu a gweithredu amcanion a thargedau gan ddefnyddio arfer da.

Mae'n cynnwys nodi, mesur a chyfathrebu ymarfer presennol a chyfathrebu â phawb sydd yn gysylltiedig â gweithredu amcan a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol.

Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â phennu a gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol fod yn gysylltiedig â chyfrifiadau carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau.  Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud eu penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon.  Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.  Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol.Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu'r effaith


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i bennu a sefydlu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
  2. Pennu amcanion a thargedau sydd yn gysylltiedig ag agweddau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
  3. Pennu'r risgiau i'r sefydliad a risg y sefydliad i'r amgylchedd
  4. Cadarnhau bod yr amcanion a'r targedau sefydliadol yn cyd-fynd â pholisi amgylcheddol sefydliadol, deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion rheoliadol eraill
  5. Cadarnhau bod amcanion a thargedau sefydliadol yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, bod cyfrifoldeb wedi ei neilltuo ac yn gaeth i amser
  6. Cyfathrebu amcan a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol gyda rhanddeiliaid perthnasol
  7. Gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
  8. Cadarnhau bod mesurau gwerthuso a reoli yn cael eu rhoi ar waith i fonitro'r amcanion a'r targedau sefydliadol ar gyfer y perfformiad amgylcheddol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

    1. Pwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol wrth bennu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
    2. Sut i bennu amcanion a thargedau sydd yn gysylltiedig ag agweddau amgylcheddol arwyddocaol y sefydliad
    3. Sut i bennu'r risgiau i'r sefydliad a risg y sefydliad i'r amgylchedd
    4. Y cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol sydd gennym i gyd yn ymwneud â'r amgylchedd a phwysigrwydd addasu i sicrhau dyfodol y genhedlaeth nesaf
    5. Pwysigrwydd cadarnhau bod yr amcanion a'r targedau sefydliadol yn cyd-fynd â deddfwriaethau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion rheoliadol eraill
    6. Sut i bennu a fydd yr amcanion a'r targedau yn gwella'r perfformiad amgylcheddol sefydliadol ac yn eu helpu i addasu i'r newid yn yr hinsawdd
    7. Pwysigrwydd cadarnhau bod amcanion a thargedau yn cyd-fynd â'r polisi amgylcheddol sefydliadol
    8. Pwysigrwydd cadarnhau bod yr amcanion a'r targedau yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, bod cyfrifoldeb wedi ei neilltuo, ac yn gaeth i amser
    9. Dulliau perthnasol ar gael ar gyfer cyfathrebu amcanion a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol i randdeiliaid perthnasol
    10. Pwysigrwydd cyfathrebu gyda rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud ag amcanion a thargedau ar gyfer perfformiad amgylcheddol
    11. Dulliau perthnasol ar gyfer gweithredu amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol
    12. Pwysigrwydd cael mesurau gwerthuso a reoli ar waith i fonitro amcanion a thargedau sefydliadol ar gyfer perfformiad amgylcheddol



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM11

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwyr, Rheolwyr ac arweinwyr â chyfrifoldeb dros waith rhyng-asiantaethol, Uwch Reolwyr a Rheolwyr Canol yng Ngwasanaethau’r Sector Cyfiawnder

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

rheoli; amgylcheddol; sefydliadol; polisïau;