Gweithredu a monitro gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol

URN: LANEM10
Sectorau Busnes (Suites): Ymwybyddiaeth a Rheolaeth Amgylcheddol Sefydliadol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r gofynion sgiliau a gwybodaeth ar gyfer gweithredu a monitro gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol.  Mae'n cynnwys cynllunio a gweithredu gwelliannau a argymhellir a'u monitro yn rheolaidd.

Mae'r safon hon yn briodol ar gyfer:

  • Rheolwr â chyfrifoldeb am reolaeth a/neu gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Perchennog/rheolwr busnes sydd eisiau gwella perfformiad amgylcheddol y sefydliad
  • Cydlynydd systemau rheoli amgylcheddol neu gyfwerth
  • Archwiliwr amgylcheddol
  • Ymgynghorydd sydd yn rhoi cyngor amgylcheddol.

Mae'r safon hon hefyd yn cynnwys ymgysylltu a chyfathrebu â'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu argymhellion archwiliad.

Mae hefyd yn cynnwys monitro'n rheolaidd y ffordd y mae gwelliannau wedi cynorthwyo'r sefydliad i wella eu perfformiad amgylcheddol.

Mae angen i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gweithredu a monitro gwelliannau a argymehllir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol fod yn gysylltiedig â chyfrifiadau carbon ac Asesiadau Cylch Bywyd eu cynnyrch, eu gwasanaethau a'u gweithgareddau.  Bydd hyn yn cynnwys asesu ôl troed carbon eu cynnyrch a'u gwasanaethau, yn ogystal â gwneud penderfyniadau ynghylch pwy i brynu adnoddau oddi wrthynt, trwy werthuso eu cyfrifiadau cyfalaf naturiol a'u cyfrifiadau carbon.  Mae angen i sefydliadau fod yn atebol am y ffordd y maent yn rheoli eu heffaith ar yr amgylchedd, mae angen iddynt ddod yn fwy cynaliadwy.  Mae angen i'r sefydliad edrych ar eu heffaith o ran carbon ar lefel fyd-eang yn ogystal â lefel leol.

Bydd hyn hefyd yn cynnwys asesu effaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Cytuno ar unrhyw gamau ar gyfer gwella sydd yn deillio o'r archwiliad amgylcheddol sefydliadol gyda'r archwiliwr
  2. Cynnal asesiad risg o'r gwelliannau a argymhellir
  3. Cynllunio'r gwaith o weithredu'r gwelliannau mewn sefydliad a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
  4. Sefydlu systemau i weithredu a monitro gwelliannau yn y sefydliad a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
  5. Cadarnhau bod y gwelliannau yn fesuradwy yn erbyn amcanion sefydliadol
  6. Gweithredu gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
  7. Monitro effeithiolrwydd gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliad
  8. Cadarnhau bod y ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, y gofynion asesu risg a pholisïau eich sefydliad yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
  9. Adrodd am effeithiolrwydd gwelliannau i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

    1. Pwysigrwydd gweithredu canfyddiadau ac argymhellion archwiliad amgylcheddol sefydliadol
    2. Sut i nodi unrhyw gamau ar gyfer gwella sydd yn deillio o'r archwiliad amgylcheddol sefydliadol
    3. Pa fesurau reoli i'w rhoi ar waith i nodi unrhyw risgiau posibl y gallai'r gwelliannau a argymhellir eu cyflwyno i gydweithwyr, cymunedau lleol, neu'r cyhoedd
    4. Sut i gynllunio'r gwaith o weithredu'r gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol
    5. Y gofynion adnoddau ar gyfer gweithredu gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
    6. Y mathau o systemau y mae angen eu sefydlu i alluogi gweithredu a monitro gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
    7. Pwysigrwydd cadarnhau bod y gwelliannau yn fesuradwy yn erbyn yr amcanion sefydliadol
    8. Sut i weithredu gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
    9. Y dulliau ar gyfer monitro effeithiolrwydd gwelliannau a argymhellir gan archwiliad amgylcheddol sefydliadol
    10. Deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol, rheoliadau neu bolisïau lleol a rhanbarthol, a pholisïau perthnasol eich sefydliad
    11. Pwysigrwydd adrodd am effeithiolrwydd gwelliannau i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANEM7

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Rheolwr Amgylcheddol, Perchennog/Rheolwr, Swyddog Rheolaeth Amgylcheddol, Ymgynghorydd Amgylcheddol, Cydlynydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol

Cod SOC

1439

Geiriau Allweddol

effaith; asesiad; llygredd; diogelu; hinsawdd;