Gwerthuso a chaffael crofft

URN: LANCSH3
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Caiff pob crofft ei reoleiddio gan y Comisiwn Crofftio. Mae gan y tenant a’r perchen-feddiannydd ddyletswydd i: 
Breswylio fel arfer ar eu crofft, neu o fewn 32 o gilometrau oddi wrtho 
Amaethu a chynnal y crofft (Mae hyn yn cyfeirio at y crofft yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynaeafu neu ar gyfer diben pwrpasol arall. Mae hyn yn cynnwys garddwriaeth, cadw anifeiliaid, yn cynnwys dofednod a gwenyn, tyfu cnydau a phlannu coed).
Peidio â chamddefnyddio neu esgeuluso’r crofft

Unwaith y byddwch wedi penderfynu cymryd y denantiaeth, neu brynu crofft fel perchen-feddiannydd, bydd angen i chi wybod y ffordd orau i’w ddefnyddio, o fewn y ddeddfwriaeth sydd yn llywodraethu’r defnydd o’r tir hwnnw a gweithgareddau a ganiateir. 

Mae rhai gweithgareddau ac anifeiliaid angen neu yn ffynnu mewn lleoliadau penodol, ac ar briddoedd penodol, felly mae’n bwysig paru’r lleoliad â’r gweithgaredd er mwyn i’r fenter fod yn llwyddiannus.

Yr hyn y mae derbyn crofft yn ei olygu:
Ystyriaeth o leoliad daearyddol, hinsawdd, uchder, agwedd, hygyrchedd, agosatrwydd at farchnadoedd neu cwsmeriaid posibl
Ystyriaethau o’r adeiladau sydd yn ofynnol gan y fenter gyfan ar eich crofft – llety gweithio a byw (lle mae hyn yn ofynnol)
Sefydlu maint ac ansawdd tir sydd ar gael, yn cynnwys unrhyw ddosraniad a chyfranddaliadau Pori Cyffredin 
Ystyriaeth o gyfyngiadau ariannol, cymhwysedd ar gyfer Grantiau Crofftio a mecanweithiau eraill i gefnogi eich menter.

Mae’r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd eisiau caffael crofft.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. canfod gwybodaeth am y ddeddfwriaeth sydd yn llywodraethu tir crofft a rheoliadau Pori Cyffredin lleol 
  2. penderfynu ar eich gofynion ar gyfer sefydlu crofft
  3. ymchwilio i argaeledd crofftau addas i’w prynu neu eu cael ar brydles
  4. ymchwilio i grofftau posibl ar gyfer unrhyw faterion gyda’u lleoliad, fel llifogydd, mynediad, argaeledd cyfleustodau ac amwynderau, cyflwr, cost unrhyw atgyweiriadau neu welliannau a’r gofynion cyfreithiol
  5. ymchwilio a fydd angen unrhyw newidiadau i’r crofft presennol i ddarparu ar gyfer eich gweithgareddau, y gost, gofynion cyfreithiol a chaniatâd os oes angen 
  6. pennu’r galw yn y farchnad am unrhyw gynnyrch neu wasanaethau yr ydych yn dymuno eu cynnig, a phenderfynu sut byddwch yn cyflenwi eich cwsmeriaid
  7. canfod yr amrywiadau yn y boblogaeth dymhorol a allai effeithio ar eich busnes
  8. gwirio’r gofynion cyfreithiol ar gyfer rhedeg crofft ac a oes unrhyw gyfyngiadau pellach ar y defnydd o dir neu eiddo
  9. pennu’r gofynion llafur i redeg y crofft, a fydd angen i chi gyflogi rhywun a goblygiadau hyn
  10. gweithio allan faint fydd cost dechrau a gweithredu’r fenter
  11. ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth 
  12. cael cyngor arbenigol lle bo angen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. ble i ganfod argaeledd crofftau sydd ar werth neu ar brydles
  2. addasrwydd a chyflwr y mynediad, i ac o amgylch y crofft 
  3. yr angen am unrhyw ffiniau/gwrychoedd/ffensys arbennig a meintiau unrhyw gaeau
  4. yr angen i sefydlu a chynnal ffiniau neu adeiladau a chost a goblygiadau cyfreithiol hyn
  5. cyflwr yr eiddo a chost a goblygiadau cyfreithiol unrhyw waith sydd ei angen
  6. cost, goblygiadau cyfreithiol a’r caniatâd sydd ei angen am unrhyw newidiadau i’r crofft presennol, yn cynnwys gofynion y Comisiwn Crofftio, Cynllunio Awdurdod Lleol, cydsyniad Asiantaeth Diogelwch Amgylcheddol yr Alban (SEPA) neu asesiadau effaith amgylcheddol gan NatureScot, a allai fod yn angenrheidiol 
  7. argaeledd cyfleustodau cyhoeddus a gwasanaethau prif gyflenwad, yn cynnwys band eang, goblygiadau hyn a’r cyfleoedd ar gyfer creu ynni adnewyddadwy
  8. argaeledd cyflenwad dŵr ac o ble mae’n dod – trefol, preifat neu wedi ei rannu, a’r ffordd y caiff dŵr ei gyflenwi i’r man yr ydych ei angen, allai fod mewn caeau neu sguboriau
  9. argaeledd ysgolion, siopau, meddygon, gwasanaethau neu ddarpariaeth arall yn yr ardal
  10. argaeledd cyflenwyr busnes (porthiant, hadau, gwrtaith, milfeddygon, atgyweiriadau) yn yr ardal
  11. pwysigrwydd nodi neu sefydlu marchnad ar gyfer unrhyw gynnyrch neu wasanaethau, a chanfod pa gystadleuaeth sydd yno
  12. y bydd angen i unrhyw broses cynhyrchu bwyd, llety math twristiaid neu fenter addysgol fodloni safonau Awdurdodau Lleol
  13. y ffordd y gallai eich cynnyrch gael ei gludo at ein cwsmeriaid a chost dosbarthu
  14. goblygiadau unrhyw lwybrau troed/Hawliau Tramwy cyhoeddus, Fforddfreintiau, Hawliau Mwynau, hawliau chwaraeon neu gyfamodau eraill dros y tir
  15. unrhyw gyfyngiadau eraill ar y defnydd o’r tir neu’r eiddo e.e. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), statws Adeiladau Rhestredig, gorchmynion diogelu coed neu Ardal(oedd) Amgylcheddol Sensitif (ESA)
  16. y ffordd y mae rheoliadau pori cyffredin a rheolau nifer yr anifeiliaid y gellir eu bwydo ar fesur penodol o dir yn gweithio a’r ffordd y gallent effeithio ar yr anifeiliaid yr ydych yn dymuno eu cadw
  17. y gofyniad, er mwyn cael grantiau anifeiliaid, y bydd angen i chi brynu “hawl” ar gyfer maint y stoc yr ydych yn bwriadu ei gadw
  18. y llafur sydd ei angen i redeg y crofft a goblygiadau cyflogi staff 
  19. y rhwymedigaethau cyfreithiol a busnes arall
  20. sut i gyfrifo’r gost o ddechrau a gweithredu’r fenter a’r hyn y mae angen ei gynnwys yn y cyfrifiad
  21. ble i gael gwybodaeth am grantiau, cymorthdaliadau neu fathau eraill o gyllid neu gymorth allai fod ar gael
  22. ble i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol a pha fath o gyngor sydd ar gael


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Rhwymedigaethau busnes yn cynnwys:
Cofrestriad deiliadaeth, gofynion amgylcheddol, rheoliadau gwastraff, trwyddedau gweithredwyr, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA)
Rheoliadau Defra
Cynllun Cymorth Ardal Llai Ffafriol (LFASS), Cyfraith Crofftio ynghyd â Rheolau a Rheoliadau treflan/Pori Cyffredin  
Mae cadw anifeiliaid yn gofyn am gofrestru, olrheiniadwyedd, cofnodion meddyginiaethau, cofnodion symud a chludo
Rheoliadau iechyd a lles anifeiliaid (yn cynnwys cludo anifeiliaid)
Rheoliadau Iechyd a Diogelwch, Rheoliadau Tân, rheoliadau hylendid, rheoliadau iechyd y cyhoedd
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer ymwelwyr â’ch eiddo
Safonau masnachu, gwerthu nwyddau 
Ffurflenni’r cwmni, cofnodion TAW ac ariannol eraill
Yswiriant
Gofynion ar gyfer hyfforddiant ac ardystiad


Gellid cael gwybodaeth a chyngor gan 
Sefydliadau a chymdeithasau brîd, cymdeithasau lleol, Cymdeithas Genedlaethol Manwerthu a Marchnadoedd y Ffermwyr (FARMA), sefydli-adau marchnad anifeiliaid
Cymdeithasau masnachu garddwriaethol lleol
Ffederasiwn Crofftio’r Alban (SCF), Undeb Cenedlaethol Ffermwyr yr Al-ban (NFUS), Coedwigaeth a Thir yr Alban (FLS), Cymdeithas Ffermwyr Tenant yr Alban, Coleg Amaethyddol yr Alban (SAC), NatureScot, asiantau tir
Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU), Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB), Cymdeithas Ffermwyr Tenant, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, HCC-Hybu Cig Cymru, AHDB, DEFRA, EBLEX, Cyswllt Ffermio ac ati
Sioeau Amaethyddol, marchnadoedd Ffermwyr, marchnadoedd anifeiliaid lleol, cyflenwyr amaethyddol lleol, y wasg a gwefannau amaethyddol (i’w defnyddio gyda gofal gan sicrhau bod y wybodaeth a roddir yn berthnasol yn y DU), gwefannau cymunedol
Grwpiau trafod ar y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol (gyda gofal)
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Lleol, Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG), Ymddiriedolaeth Tylluanod Gwyn, RSPB ac ati
Biodanwydd, ffermydd gwynt, Cymdeithas y Pridd, Ffermwyr a Thyfwyr Organig ac ati
Banciau, Porth Busnes, llinell gymorth Busnes ar wefan gov.uk, Comisiwn Crofftio, Defra, Arolygiaeth Wledig ac Arolygiaeth Daliadau yr Alban (SGRIPD), Ymddiriedolaeth y Tywysog, Menter yr Ucheldir a’r Ynysoedd (HIE)
Cyfreithwyr yn arbenigo mewn cyfraith grofftio


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCSH3

Galwedigaethau Perthnasol

Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

crofft; crofftwr